Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Yn wir, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am gydnabod ymrwymiad y weinyddiaeth Lafur hon yn y gorffennol o tua £92 miliwn i ffordd osgoi’r Drenewydd. Ond dylai’r Aelod fod yn ofalus iawn wrth ofyn am ffordd osgoi un funud ac yna gofyn am fuddsoddiad yn ei gymuned y funud nesaf, pan fydd ceir yn osgoi ei bentref, rwy’n disgwyl, oherwydd y ffordd osgoi.