– Senedd Cymru am 2:20 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, ac rydw i’n galw ar Suzy Davies i wneud y cynnig ar ran y Comisiwn.
Cynnig NDM6139 Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o ‘Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017-18’, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Diolch, Lywydd, a chynigiaf gynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2017-18 a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol. Mae’r gyllideb hon ar gyfer 2017-18, ail flwyddyn y pumed Cynulliad hwn, ac yn y gyllideb, mae’r Comisiwn yn gofyn am £53.7 miliwn, sef cynnydd o 1 y cant uwchben chwyddiant o gymharu â’r flwyddyn hon. Mae’r gyllideb yn cynnwys tair rhan: £34.4 miliwn ar gyfer gwasanaethau’r Comisiwn; £15.5 miliwn ar gyfer penderfyniad y bwrdd taliadau; a £3.8 miliwn ar gyfer cyllidebau wedi’u clustnodi nad yw’n arian parod—buasai’r ddarpariaeth gyfrifyddu y mae’r Trysorlys ei hangen ar gyfer cynllun pensiwn yr Aelodau yn enghraifft o hynny. Bydd y gyllideb hon yn sicrhau y gall y Comisiwn fynd i’r afael â’r heriau sydd ar ddod i wynebu’r Cynulliad. Mae’n cefnogi cyflawniad ein nodau strategol yn briodol, sef: darparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf; ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo’r Cynulliad; a defnyddio adnoddau’n ddoeth, gan ystyried sefyllfa ariannol ehangach y sector cyhoeddus.
Mae’r Comisiwn yn bodoli i gefnogi’r Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad, ac rydym yn cydnabod bod y pwysau ar Aelodau’r Cynulliad yn fwy nag erioed. Mae ystod o waith sydd eisoes yn heriol i bwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn wedi cael ei ddwysáu gan newid cyfansoddiadol pellach, pwerau amrywio trethi a rheoli’r broses o adael yr UE. Mae cyfrifoldebau deddfwriaethol, ariannol a chraffu Aelodau etholedig yn unigryw ac yn hollbwysig, felly mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y modd y mae gwasanaethau ardderchog i gefnogi’r Aelodau yn cael eu darparu wrth i chi gyflawni’r cyfrifoldebau hynny.
Ar ddechrau’r wythnos hon, anfonodd y Llywydd neges at yr holl Aelodau yn nodi cynlluniau newydd y Comisiwn i wneud ein senedd yn addas ar gyfer y dyfodol: rhoi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth, cyfathrebu’n effeithiol gyda’r cyhoedd a chyflawni ein dyletswydd statudol i alluogi’r Cynulliad i wneud ei waith deddfwriaethol a’i waith craffu, gan gynnwys datblygu gwaith i fynd i’r afael â gallu’r Cynulliad. Mae Cymru angen llywodraeth dda, ac ni ellir ond darparu llywodraeth dda pan gaiff ei gwella, ei chraffu a’i dwyn i gyfrif gan senedd effeithiol. Os bydd Bil Cymru yn pasio, a bod y Cynulliad yn penderfynu arfer ei bwerau deddfu newydd yn y maes hwn, rydym yn benderfynol o wneud yr hyn sy’n angenrheidiol i arfogi ein senedd â’r gallu i gyflwyno democratiaeth gref a chynaliadwy yng Nghymru. Fel y byddwch yn deall, megis dechrau y mae’r gwaith hwn. Wrth i ni symud ymlaen, bydd y Comisiwn yn ystyried y goblygiadau cyllidebol ac yn dychwelyd i’r Cynulliad ar yr adeg briodol i chi graffu arno.
O ran cyllideb y flwyddyn hon, y gyllideb rydych yn ei hystyried heddiw, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu. Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, mae’n rhaid i’r Comisiwn ddangos yn gyson ei fod yn defnyddio’i adnoddau’n effeithlon ac yn effeithiol. Mae gwaith craffu’r pwyllgor yn rhan bwysig o hynny, felly rydym yn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â’r broses gyda’r nod o fod yn glir, yn agored ac yn dryloyw. Gwnaeth y pwyllgor bedwar argymhelliad ac rydym ni, fel Comisiwn, wedi derbyn pob un o’r pedwar. Ac wrth gwrs rydym yn croesawu—wrth gwrs ein bod yn croesawu—y ffaith fod y pwyllgor yn cefnogi ein cais am adnoddau ar gyfer 2017-18. Yn ein strategaeth gyllidebol, roeddem hefyd yn darparu ffigurau dangosol ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad, ond oherwydd y lefel o ansicrwydd yn y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys cynlluniau’r Comisiwn a grybwyllais yn gynharach, rydym yn rhannu barn y pwyllgor y dylem ailedrych ar y ffigurau mwy hirdymor hyn mewn blynyddoedd i ddod.
Roedd gan y pwyllgor dri argymhelliad penodol arall. Yn gyntaf, maent wedi gofyn i ni anfon manylion canlyniadau’r ymarfer cynllunio capasiti blynyddol atynt er mwyn iddynt allu gweld lle y caiff adnoddau staff ychwanegol eu defnyddio; yn ail, rydym wedi cytuno i ddarparu manylion ynglŷn â sut y mae’r Comisiwn yn defnyddio unrhyw danwariant yn ôl penderfyniad y bwrdd taliadau; ac yn drydydd, byddwn yn rhoi mwy o fanylion am y buddsoddiad mewn gwasanaethau TGCh mewn cyllidebau yn y dyfodol. Yn olaf, rwyf am sicrhau’r Aelodau y byddwn yn parhau i weithio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian ac yn ymdrechu i fod mor effeithlon â phosibl wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bob Aelod er mwyn eich cefnogi’n effeithiol yn eich rolau.
Rwy’n galw ar Simon Thomas i siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Diolch, Lywydd, a diolch i Suzy Davies, Comisiynydd y gyllideb a llywodraethu, am gyflwyno cyllideb y Cynulliad. Fel sydd wedi cael ei amlinellu, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi trafod y gyllideb ac mae’n gwerthfawrogi’r ffordd roedd Suzy Davies a’r swyddogion wedi dod ger bron y pwyllgor ac ateb ein cwestiynau yn agored ac, wrth gwrs, darparu mwy o wybodaeth yn sgil y cyfarfod yn ogystal.
Gwnaethom bedwar argymhelliad ac, fel sydd wedi cael ei grybwyll, mae’r pedwar wedi eu derbyn ac, yn wir, rydym wedi derbyn ymateb i’r pedwar hefyd gan y Comisiwn. Rydym yn falch iawn am y broses yna. Byddai’r Llywodraeth yn gallu dysgu tipyn o’r broses o ran ymateb mor glou i argymhellion pwyllgor.
Mae cyllideb ddrafft y Comisiwn yn amlinellu’r cynlluniau gwariant a fwriedir ar gyfer 2017-18, yn ogystal â chynlluniau dangosol a gofynion ariannol hyd nes diwedd y pumed Cynulliad. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn ategu’r galw cyffredinol am adnoddau ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw, ac felly mae’n dda gen i ddweud bod y Pwyllgor Cyllid yn argymell i'r Cynulliad gefnogi cyllideb ddrafft y Comisiwn. Fodd bynnag, er bod y cynlluniau gwariant a fwriedir hyd at 2021 yn ddefnyddiol, yn sgil yr ansicrwydd o amgylch yr heriau allweddol sy’n bodoli ar hyn o bryd— megis amseriad Bil Cymru a Brexit, sydd wedi cael eu crybwyll—daethom i’r casgliad y byddai'n amhriodol i’r pwyllgor wneud unrhyw sylw ar y cynlluniau gwario ehangach ar hyn o bryd. Felly, mae ein hargymhelliad ni yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r Comisiwn wedi gofyn am fuddsoddiad ychwanegol o bron £1 miliwn ar gyfer adnoddau staff, ac rydym wedi clywed eisoes gan Suzy Davies am yr angen am hynny. Mae yna fuddsoddiad ar gyfer cefnogi dau bwyllgor ychwanegol, deddfwriaeth ychwanegol, ymateb i newidiadau cyfansoddiadol a rhoi blaenoriaethau pumed Cynulliad y Comisiwn ar waith. Fodd bynnag, roedd y gyllideb ddrafft yn brin o fanylion o ran lle y byddai'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn staff yn cael ei wneud, felly gofynasom am ragor o fanylion ynghylch sut y byddai'r arian yn cael ei ddyrannu yn dilyn adolygiad y Comisiwn o'i gynlluniau capasiti. Rydym yn falch bod y Comisiwn wedi ymrwymo i ysgrifennu atom gyda chanlyniad yr adolygiad maes o law. Ond bydd yr Aelodau wedi derbyn ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno, wrth gwrs, llythyr gan y Llywydd a’r Comisiwn yn amlinellu rhai o’r camau sydd eisoes ar y gweill ynglŷn ag ehangu capasiti pwyllgorau, ac ati, yn y Cynulliad.
Fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Comisiwn yn gofyn am yr uchafswm cyllid sydd ei angen ar gyfer penderfyniad y bwrdd taliadau ar gyflogau a lwfansau Aelodau, er mwyn gwireddu hawliau Aelodau. Dyma’r unig faes y flwyddyn diwethaf lle'r oedd yna unrhyw anghydfod yn y Cynulliad, wrth gwrs, ynglŷn â’r gyllideb yma. Nid yw’r Pwyllgor Cyllid na’r Comisiwn yn gyfrifol am y bwrdd taliadau; nhw sy’n penderfynu ar yr arian sy’n cael ei neilltuo ar gyfer cyflogau a lwfansau Aelodau. Ond yn sgil sylweddoli y gallai'r dull hwn wneud cyllid yn anhygyrch, gwnaethom gytuno â Phwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod angen eglurder ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r cyllid ychwanegol hwn.
Nid swm bach o arian sydd dan sylw—mae cyfrifon y Comisiwn ar gyfer llynedd yn dangos tanwariant o dros £1 miliwn. Felly, er mwyn osgoi’r posibiliad ei fod yn rhyw fath o arian wrth gefn a ddefnyddir heb fod yn hollol amlwg sut mae’n cael ei ddefnyddio, roedd ein trydydd argymhelliad yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiwn tua diwedd y flwyddyn ariannol o ran y tanwariant hwn a'r modd y defnyddir y cyllid ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Rwy'n falch eto fod y Comisiwn wedi cytuno i ddarparu'r wybodaeth hon ym mis Mawrth 2017, felly fe fyddwn ni yn nodi y manylion llawn yn ogystal yn yr adroddiad blynyddol. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn dod â mwy o eglurder i’r ffordd mae arian wrth gefn yn y broses yn cael ei ddefnyddio gan y Comisiwn.
Yn olaf, rydym yn cymeradwyo'r Comisiwn ar lwyddiant y rhaglen bontio ar gyfer technoleg gwybodaeth. Mae’n wir i ddweud fy mod i’n siarad ddiwrnod ar ôl i nifer ohonom ni fod heb e-byst am ddiwrnod, ond a dweud y gwir mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus pan rydych yn ystyried yr arbediad ariannol sylweddol sydd wedi ei wneud o fynd yn fwy annibynnol o ran technoleg gwybodaeth yn y Cynulliad. Rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol ar y gwariant sydd wedi cael ei ddarparu gan y Comisiwn, ond argymhelliad arall gennym ni oedd y dylai cyllidebau yn y dyfodol gynnwys costau manwl ar gyfer prosiectau buddsoddi technoleg gwybodaeth. Rwy'n croesawu, felly, ymrwymiad y Comisiwn i gynnwys rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Felly, mae’r Pwyllgor Cyllid a minnau yn hapus iawn i gymeradwyo cyllideb y comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Yng nghyd-destun cyfrifoldebau’r comisiwn i ddefnyddio adnoddau’n ddoeth, roeddwn yn meddwl tybed a allech ymhelaethu rhywfaint ar faint o arian rydym yn ei wario ar y gwasanaeth arlwyo, lle y mae gennym gytundeb gyda Charlton House, ac yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a oes unrhyw gymalau yno i sicrhau ein bod yn lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl.
Yn amlwg, yng nghyd-destun gwastraff bwyd, mae traean o’r holl fwyd yn cael ei daflu, ac rwy’n ofni ei fod yn uwch na hynny hyd yn oed yn y diwydiant arlwyo—mae 57 y cant o fwyd yn y diwydiant arlwyo, sy’n cynnwys tai bwyta a chaffis, yn cael ei daflu cyn cyffwrdd y plât hyd yn oed. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allwch roi unrhyw fanylion i mi ynglŷn â sawl tunnell o fwyd sy’n cael ei wastraffu ar hyn o bryd, neu yn y cyfnod diwethaf sydd ar gael, sut y mae hynny’n cymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac a oes unrhyw beth yn y cytundeb i annog arlwywyr i ganolbwyntio mwy eto ar y mater hwn.
Rwy’n galw ar Suzy Davies i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas a Jenny Rathbone. Rwyf am ddechrau gyda chwestiwn Jenny Rathbone, os caf. Yr hyn na allaf ei roi i chi heb edrych yn fwy manwl yw’r swm penodol rydym yn ei wario ar y cytundeb. Mae yn yr adroddiad, mewn gwirionedd, ond wrth gwrs, nid wyf wedi dod â hwnnw gyda mi. Ond gallaf yn sicr wneud yn siŵr eich bod yn cael nodyn ar hynny ar unwaith.
O ran y cwestiwn gwastraff bwyd a ofynoch, yn amlwg rydych yn llygad eich lle, o ran defnyddio adnoddau’n ddoeth, mae rhwymedigaeth ar y Comisiwn i sicrhau ein bod yn gwneud hynny. Ac yn ôl y data sydd gennyf hyd yn hyn, ar hyn o bryd, ers 1 Ebrill eleni, mae cyfanswm o 7 tunnell o wastraff bwyd wedi cael ei gofnodi, o’i gymharu â’r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn flaenorol o 12.5 tunnell. Ond wrth gwrs, fe fyddwch yn derbyn nad oes gennym fanylion y flwyddyn lawn eto. Ond o ymestyn o’r ffigurau hynny, maent yn debygol o fod yn debyg ar y cyfan. Felly, rwy’n ddiolchgar i chi am fynegi pryder ynglŷn â hyn.
Wrth gwrs, mae rhan o hyn allan o reolaeth y comisiwn, a phob un o’i staff, oherwydd y ffordd y mae’r sefydliadau sy’n dod yma yn archebu eu bwffes ac yn y blaen, ac mae’n rhaid i ni ddibynnu ar eu manylion er mwyn gwybod faint o bobl fydd angen bwyd, ac os oes llai o bobl yn dod, ychydig iawn y gallwn ei wneud am hynny. Ond byddwn bob amser yn ddiolchgar, fel Comisiwn, am syniadau sydd, mewn gwirionedd, yn ein helpu i leihau gwastraff bwyd. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni am hynny os oes gennych rywbeth penodol yr hoffech ei ddweud wrthym.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am ystyried cyllideb y comisiwn yn ofalus ac am gefnogi’r cynlluniau. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, byddwn yn derbyn eich holl argymhellion, a bydd manylion pellach yn cael eu darparu i’r pwyllgor wrth iddynt godi; ni fydd yn rhaid i chi aros am yr adroddiad blynyddol.
Ac o ran y bwrdd taliadau, yn amlwg, rydych wedi egluro fod hwnnw y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y comisiwn, ond fel y gŵyr y Pwyllgor Cyllid, gallant gynnig argymhellion ar sut y gellir cyfarwyddo rhan o danwariant blwyddyn benodol.
Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau hefyd yn ymuno â mi i ddiolch i’n prif swyddog cyfrifyddu, sydd wedi goruchwylio’r weithdrefn gymhleth o baratoi a chyflwyno’r gyllideb, drwy flynyddoedd o newid sylweddol yn y Cynulliad. Claire Clancy, wrth gwrs, yw Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad hefyd, a chan ei bod yn debygol mai hon fydd y gyllideb flynyddol olaf a ddaw drwy eich dwylo chi, Claire, rwy’n gobeithio na fydd ots gennych fy mod yn manteisio ar y cyfle hwn, ar ran comisiynwyr y gorffennol a’r presennol, i gydnabod yr ymdrech a’r llwyddiant eithriadol a gyfrannoch i’r rôl, ac am y sicrwydd a’r hyder rydych wedi’i roi i’r Comisiwn hefyd, a’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Rwy’n credu ein bod wedi mwynhau hynny o ganlyniad.
Rwy’n credu bod pwysigrwydd gwaith y Comisiwn wedi cael ei gydnabod yn y ddau gyfraniad a wnaed heddiw. Dylai fod mai’r her fwyaf i’r Comisiwn yw sicrhau bod y Cynulliad, y rhoddwyd y cyfrifoldeb ehangach hwn iddo, ond o fewn y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â bod yn ddeddfwrfa leiaf y DU—nid wyf yn credu y dylem anghofio hynny—wedi’i gyfarparu’n briodol i wneud ei waith. Ein nod yw gosod a chynnal safonau uchel yn ystod cyfnod o graffu cyhoeddus agos a gwella ein henw da rhyngwladol fel sefydliad seneddol effeithiol, agored, o safon fyd-eang.
Felly, ar ran y Llywydd a fy nghyd-gomisiynwyr, rwy’n eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddefnyddio’r adnoddau a ddarperir gan y gyllideb hon er mwyn sicrhau ein bod yn goresgyn yr heriau hynny yn unol â’n nodau strategol, ac rwy’n cymeradwyo’r gyllideb i’r Aelodau. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.