4. 4. Dadl Plaid Cymru: Gweithwyr Tramor yn y Gig yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:42, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf hefyd yn gresynu’n fawr at y cyfeiriad at elyniaeth gynyddol at fewnfudwyr. Ar wahân i leiafrif bach iawn o unigolion sy’n deilwng o gerydd, nid oes gelyniaeth tuag at fewnfudwyr ymhlith pobl Prydain o gwbl, yn enwedig tuag at y rhai sy’n gweithio yn y GIG.

Mae tua 5 y cant o staff y GIG ledled y DU wedi dod o dramor ac yn ddinasyddion yr UE. Maent yn chwarae rhan eithriadol o bwysig yn darparu gwasanaethau iechyd, a diau y bydd hynny’n parhau. Nid oes neb yn gofyn i ni adeiladu wal ar hyd y Sianel a rhwystro pobl rhag symud y naill ffordd neu’r llall. Yr hyn rydym ei eisiau yw rheolaethau synhwyrol. Mae’r rheolaethau hyn eisoes yn bodoli mewn perthynas â gweddill y byd. Mae nifer fawr iawn o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol sy’n dod o is-gyfandir India—India, Pacistan a lleoedd eraill—ac sydd eisoes yn ddarostyngedig i reolaethau fisa. Felly nid ydym yn gofyn am ddim sy’n syfrdanol iawn mewn perthynas â dinasyddion yr UE.

Ni all neb wadu’r ofn cynyddol ar ran niferoedd mawr iawn o bobl o ganlyniad i’r mewnfudo direolaeth sydd wedi bod yn digwydd yn yr UE ers 2004 yn arbennig. Yn 2001, roedd 59.1 miliwn o bobl yn y DU. Erbyn 2015, roedd y ffigur hwnnw wedi codi i 65 miliwn, a’r amcangyfrifon ar gyfer 2026 yw 70 miliwn o bobl, yn ôl tueddiadau poblogaeth presennol. Mae’r cynnydd hwn yn y boblogaeth wedi digwydd yn eithriadol o gyflym ac mae’n effeithio’n enfawr ar gymunedau penodol mewn gwahanol rannau o’r wlad. Y pryder hwnnw ymhlith y bobl sydd wedi arwain at y penderfyniad i adael yr UE. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny o gwbl.

Ni chawn unrhyw anhawster i gydnabod y cyfraniad y mae mewnfudwyr yn ei wneud i’r wlad hon. Y cyfan y gofynnir amdano gan filiynau o bobl—. Pleidleisiodd 17 miliwn o bobl dros adael yr UE—nid yw pob un ohonynt yn rhagfarnllyd ac yn hiliol. Mae’n bosibl fod lleiafrif bychan iawn yn bobl ragfarnllyd neu hiliol ac nid ydynt yn haeddu ein sylw yng nghyd-destun y ddadl hon. Y cyfan rydym yn ei ofyn yw y dylid rheoli mewnfudo. Mae pob gwlad yn y byd yn rheoli mewnfudo i raddau mwy neu lai. Sôn yr ydym am fater o faint, nid am fater o egwyddor. Mae’r cynnig, ar un ystyr, yn anwybyddu’r rôl bwysig sy’n cael ei chwarae gan y rhai sy’n dod o rannau eraill o’r byd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad i gyflwyno rheolaethau ar fewnfudwyr di-grefft o’r Undeb Ewropeaidd, efallai y gallwn fod yn fwy hael tuag at wledydd eraill o ran y gyfundrefn fisa sydd gennym ar eu cyfer hwy. Mater i Lywodraeth Prydain fydd gwneud y penderfyniadau hyn ac nid yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny, yn fy marn i, yn fuddugoliaeth ddemocrataidd bwysig.

Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â safbwynt Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fod â rôl yn hyn, ond mae gennym y DU a pholisi mewnfudo’r DU a’r ffordd gywir i Lywodraeth Cymru fwydo i mewn i hwnnw yw drwy’r berthynas arferol sy’n bodoli rhwng Caerdydd a San Steffan.

Felly, rwy’n credu bod dyfodol y rhai sy’n gweithio yn y GIG sy’n ddinasyddion o wledydd eraill wedi’i sicrhau o dan y trefniadau presennol a bydd hynny’n parhau, ac y bydd gennym hyblygrwydd mewn cyfundrefn ar gyfer fisas a thrwyddedau gwaith, y gellir ei chyflwyno maes o law, i ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion sy’n bodoli o ganlyniad i fylchau sgiliau yn y GIG. Felly, er fy mod yn gwrthwynebu unrhyw fath o ragfarn neu hiliaeth, rwy’n credu y dylem, er hynny, dderbyn pryderon y miliynau ar filiynau o bobl sy’n credu y dylid rheoli mewnfudo ac nad oes unrhyw wahaniaeth angenrheidiol rhwng bod eisiau cael digon o bobl fedrus i lenwi’r bylchau sy’n bodoli, nid yn y gwasanaeth iechyd yn unig, ond ym mhob math arall o weithgaredd economaidd, a rheoli, ar y llaw arall, y niferoedd sy’n creu cymaint o anawsterau i gynifer o bobl mewn gwahanol rannau o’r wlad.