Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Tachwedd 2016.
A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon? Oherwydd mae’n fater pwysig iawn ac mae angen i ni ymdrin ag ef yn awr ac mae’n fater uniongyrchol iawn, wrth gwrs. Yn fy mywyd blaenorol fel pennaeth iechyd Unsain yma yng Nghymru, roedd gennyf gryn dipyn o ymgysylltiad â GIG Cymru fel cyflogwr, ac mae fy mhrofiad yn y swydd honno wedi fy ngwneud yn hynod o ymwybodol o ba mor hanfodol i’r GIG mewn gwirionedd yw gweithwyr tramor a gyflogir ar draws ein gwasanaeth iechyd cyfan.
Wrth fynd heibio, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddweud eisoes, mae’n werth nodi, er bod y ddadl hon yn ymwneud â gweithwyr y GIG, ni ddylem anghofio’r ffaith nad ein gwasanaeth iechyd yn unig sy’n dibynnu ar weithwyr tramor; mae llawer mwy yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, sy’n chwarae rhan gynyddol integredig yn y broses o ddarparu gofal iechyd.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, cafodd bron i 31 y cant o feddygon yng Nghymru eu hyfforddi dramor, a chafodd tua 6 y cant o’r rheini eu hyfforddi yng ngwledydd yr UE. Mae hynny’n cyfateb i tua 518 o feddygon yma yng Nghymru a gafodd eu hyfforddi dramor, nid yn yr UE yn unig. O bron i 26,000 o nyrsys cofrestredig yng Nghymru, cafodd 262 eu hyfforddi yn un o wledydd eraill yr UE—ychydig dros 1 y cant—gyda 6.5 y cant arall wedi’u hyfforddi mewn gwledydd y tu allan i’r UE. Gan fod recriwtio o’r UE yn arbennig wedi bod yn elfen allweddol wrth fynd i’r afael â phrinder staff cyfredol, mae’n debygol y bydd y ffigur hwnnw ychydig yn uwch erbyn hyn. Ond nid wyf yn credu fod y ddadl hon yn ymwneud ag ystadegau mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un ohonom beidio â bod yn ymwybodol o’r cyfraniad aruthrol y mae staff o’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a llawer o rannau eraill o’r byd yn ei wneud i’n GIG, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr o Gymru a’r DU. Rydym yn gwybod y buasai’r gwasanaeth iechyd yn ei chael yn anodd iawn hebddynt.
Yn y Siambr hon, yn anffodus, rydym wedi gorfod mynegi, ar sawl achlysur, ein dicter a’n hanobaith ynglŷn â’r cynnydd yn nifer yr achosion o hiliaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt ers y bleidlais i adael yr UE ar 23 Mehefin. Pe na bai hynny’n ddigon i gynyddu pryderon ymhlith y staff hyn ynglŷn â’u dyfodol yn y wlad hon, bydd llawer ohonynt yn ofnus bellach ynglŷn â beth fydd gadael yr UE yn ei olygu iddynt pan fydd hynny’n digwydd yn y pen draw—un rheswm arall pam ei bod yn arbennig o ddi-fudd, er gwaethaf yr hyn y mae Neil Hamilton yn ei ddweud, fod Llywodraeth y DU yn methu neu’n amharod i ddarparu unrhyw eglurder ynglŷn â’i safbwynt negodi mewn perthynas â symudiad rhydd gweithwyr. Nid oes amheuaeth o gwbl nad gweithwyr o’r UE a’r gweithwyr tramor y mae’n eu cyflogi ar hyn o bryd yn unig fydd y GIG yn ddibynnol arnynt, ond os ydym am gyrraedd y targedau ar gyfer goresgyn prinder, bydd hynny’n dibynnu ar ddenu mwy o weithwyr tramor yn y blynyddoedd i ddod.
Fel y dywedais ar y cychwyn, rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn. Ond yn anffodus, fel sy’n aml yn wir, rwy’n credu eu bod mewn perygl o fethu cyflawni’r nodau a ddymunir drwy droi hon yn ddadl dros fwy o bwerau—rhywbeth a allai fod yn amcan hirdymor, rwy’n credu, ond o ran y mater hwn, mae’n rhywbeth y mae angen i ni ymdrin ag ef yn weddol gyflym. Felly, mae’r gwelliant gan Jane Hutt, ar y llaw arall, yn cadw pwyslais y cynnig, sy’n anelu at wneud yn siŵr y gallwn ddiogelu gweithlu tramor yr UE a datblygu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol, a hynny heb gael ein trwytho mewn materion technegol neu gyfreithiol yn ymwneud â datganoli pwerau pellach.
Yn sicr, nid wyf yn bwriadu ymhelaethu ar y gwelliant gweddol ragweladwy a welsom gan UKIP. Mae pawb ohonom yn gwybod hyd a lled yr heriau presennol sy’n ein hwynebu mewn perthynas â staffio yn y GIG yng Nghymru, felly mae pam y buasai neb eisiau cyflwyno cynllun trwydded waith a fisa, na fyddai ond yn gweithredu fel rhwystr i recriwtio tramor yn y dyfodol, y tu hwnt i ddirnad mewn gwirionedd. Ein dyletswydd yw sicrhau y gall ein GIG barhau i elwa o sgiliau a phrofiad gweithwyr tramor, a dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i sicrhau nad oes unrhyw beth yn rhwystro hynny rhag digwydd.