Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Pan gafwyd y cytundeb i rannu gwarged prisiad y gronfa 50/50 rhwng y gronfa a Llywodraeth y DU, nid oedd unrhyw un yn disgwyl i’r gronfa berfformio cystal ag y gwnaeth—nid oedd neb yn rhagweld y buasai Llywodraeth y DU wedi elwa o dros £3.5 biliwn, a lyncwyd yn rhan o wariant cyffredinol y Llywodraeth. Yn wir, ar droad y mileniwm, dywedodd Ymgyrch Cymunedau’r Meysydd Glo:
Cafodd y warant ei rhoi yn ôl cyngor actiwaraidd. Wrth edrych yn ôl, ymddengys bod y cyngor yn rhy ofalus, ond hen hanes yw hynny bellach.
Y pwynt yw bod y cronfeydd mewn sefyllfa ariannol gadarn ac o dan y trefniadau presennol, nid oes gan y Llywodraeth unrhyw rwymedigaeth wirioneddol.
Yn wir, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr wedi amcangyfrif y gall Llywodraeth y DU, dros gyfnod o 25 mlynedd, ddisgwyl cael £8 biliwn mewn taliadau gwarged o’r gronfa. Yn 2014 derbyniodd y Trysorlys £750 miliwn, ynghyd â £95 miliwn pellach y llynedd yn rhan o’r rhaniad gwarged.
Dadleuir bod modd cyfiawnhau cyfran Llywodraeth y DU o’r gwarged am ei bod yn gweithredu fel gwarantydd, ond mewn gwirionedd, Ddirprwy Lywydd, mae clo triphlyg sy’n bodoli eisoes yn sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn cael ei gadael yn agored—sef y taliadau gwarged eu hunain, gwerth y gronfa fuddsoddiadau a’r ffaith nad yw’r Llywodraeth yn gwarantu’r elfen ychwanegiad bonws.
Felly, yn sicr, bydd unrhyw berson teg sy’n ystyried y ffeithiau hyn yn dod i’r casgliad nad yw’r trefniadau presennol mewn perthynas â’r gwarged yn sicrhau cydbwysedd cywir rhwng tegwch i lowyr sydd wedi ymddeol a’r risg bosibl i’r trethdalwr. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn cynnwys dwy egwyddor sylfaenol: yn gyntaf, ein bod yn cefnogi galwadau Undeb Cenedlaethol y Glowyr am adolygu gwarged prisiad y pensiwn; yn ail, ein bod yn mandadu Llywodraeth Cymru i gynghreirio gyda gweinyddiaethau datganoledig ac arweinwyr rhanbarthol eraill yn Lloegr er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflwyno adolygiad hir-ddisgwyliedig o warged Cynllun Pensiwn y Glowyr. Nid yw hyn yn ymwneud ag adolygu Cynllun Pensiwn y Glowyr yn gyffredinol neu ailystyried rôl Llywodraeth y DU fel gwarantydd ac am y rheswm hwnnw, ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr â sicrhau cyfiawnder o ran y gwarged.
Ddirprwy Lywydd, cefais fy ngeni yn ystod streic y glowyr 1984-5 a fi yw’r ail genhedlaeth yn fy nheulu nad yw wedi gweithio o dan y ddaear. Rwy’n gwybod bod llawer yma wedi byw drwy’r digwyddiad hwnnw ac yn wir, wedi bod yn rhan ohono ac wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol. Mae etifeddiaeth ein treftadaeth ddiwydiannol yn aros gyda phob un ohonom heddiw, ni waeth beth yw ein hoedran neu ein cefndir, ac yn bendant felly ymysg cyn-lowyr, sy’n bensiynwyr erbyn heddiw. Roedd un slogan enwog o’r streic honno’n dweud na fyddai glowyr unedig byth yn cael eu trechu. Lywydd, pe bai’r Cynulliad hwn yn siarad ag un llais heddiw, pe bai’n unedig, gallai ddarparu mandad i’n Llywodraeth a allai—efallai—arwain at fuddugoliaeth hir-ddisgwyliedig i lowyr a’u teuluoedd. Diolch.