5. 5. Dadl Plaid Cymru: Cynllun Pensiwn y Glowyr

– Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:01, 16 Tachwedd 2016

Yr eitem nesaf yw dadl nesaf Plaid Cymru ar gynllun pensiwn y glowyr, ac rwy’n galw ar Steffan Lewis i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6146 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod adroddiadau yn datgan bod Llywodraeth y DU wedi derbyn £8 biliwn gan Gynllun Pensiwn y Glowyr (MPS), yn unol â threfniadau presennol sy'n golygu ei bod yn cael 50 y cant o warged MPS, ac yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cael £750 miliwn mewn taliadau gwarged yn 2014 yn unig.

2. Yn galw am adolygiad o'r trefniant rhannu gwarged 50/50 rhwng Llywodraeth y DU ac MPS, fel y caiff ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn Lloegr, i sicrhau adolygiad Llywodraeth y DU o'r trefniadau gwarged MPS a cheisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd MPS.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:01, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gyflwyno’r cynnig a gynigiwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae mater gwarged cynllun pensiwn y glowyr yn ffurfio rhan o drindod ddieflig o anghyfiawnderau glowyr, ynghyd â chreulondeb y wladwriaeth yn y gorffennol a dad-ddiwydiannu bwriadol eu cymunedau. Ond rwy’n gobeithio y gall yr holl Aelodau ar bob ochr gytuno nad yw’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn un dadleuol a’i fod yn syml yn ceisio mynd i’r afael ag anghyfiawnder sy’n digwydd bob dydd o bob wythnos.

Caeodd Cynllun Pensiwn y Glowyr i aelodau newydd ynghanol y 1990au, gyda nifer aelodau’r cynllun yn gostwng o 700,000 yn 1960 i oddeutu 200,000 y llynedd. Mae’n gynllun sy’n cynnwys cronfa fuddsoddiadau sy’n werth dros £1 biliwn a chronfa bonws ychwanegol, ac yn ogystal, disgwylir y bydd cyfanswm y buddion disgwyliedig yn y dyfodol yn werth oddeutu £19 biliwn. O dan gytundeb a gafwyd yn 1994, mae Llywodraeth y DU yn gwarantu solfedd y cynllun, ac eithrio’r bonws ychwanegol, a mynegeio pensiynau gwarantedig yn flynyddol, yn unol â chwyddiant prisiau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:01, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Pan gafwyd y cytundeb i rannu gwarged prisiad y gronfa 50/50 rhwng y gronfa a Llywodraeth y DU, nid oedd unrhyw un yn disgwyl i’r gronfa berfformio cystal ag y gwnaeth—nid oedd neb yn rhagweld y buasai Llywodraeth y DU wedi elwa o dros £3.5 biliwn, a lyncwyd yn rhan o wariant cyffredinol y Llywodraeth. Yn wir, ar droad y mileniwm, dywedodd Ymgyrch Cymunedau’r Meysydd Glo:

Cafodd y warant ei rhoi yn ôl cyngor actiwaraidd. Wrth edrych yn ôl, ymddengys bod y cyngor yn rhy ofalus, ond hen hanes yw hynny bellach.

Y pwynt yw bod y cronfeydd mewn sefyllfa ariannol gadarn ac o dan y trefniadau presennol, nid oes gan y Llywodraeth unrhyw rwymedigaeth wirioneddol.

Yn wir, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr wedi amcangyfrif y gall Llywodraeth y DU, dros gyfnod o 25 mlynedd, ddisgwyl cael £8 biliwn mewn taliadau gwarged o’r gronfa. Yn 2014 derbyniodd y Trysorlys £750 miliwn, ynghyd â £95 miliwn pellach y llynedd yn rhan o’r rhaniad gwarged.

Dadleuir bod modd cyfiawnhau cyfran Llywodraeth y DU o’r gwarged am ei bod yn gweithredu fel gwarantydd, ond mewn gwirionedd, Ddirprwy Lywydd, mae clo triphlyg sy’n bodoli eisoes yn sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn cael ei gadael yn agored—sef y taliadau gwarged eu hunain, gwerth y gronfa fuddsoddiadau a’r ffaith nad yw’r Llywodraeth yn gwarantu’r elfen ychwanegiad bonws.

Felly, yn sicr, bydd unrhyw berson teg sy’n ystyried y ffeithiau hyn yn dod i’r casgliad nad yw’r trefniadau presennol mewn perthynas â’r gwarged yn sicrhau cydbwysedd cywir rhwng tegwch i lowyr sydd wedi ymddeol a’r risg bosibl i’r trethdalwr. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn cynnwys dwy egwyddor sylfaenol: yn gyntaf, ein bod yn cefnogi galwadau Undeb Cenedlaethol y Glowyr am adolygu gwarged prisiad y pensiwn; yn ail, ein bod yn mandadu Llywodraeth Cymru i gynghreirio gyda gweinyddiaethau datganoledig ac arweinwyr rhanbarthol eraill yn Lloegr er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflwyno adolygiad hir-ddisgwyliedig o warged Cynllun Pensiwn y Glowyr. Nid yw hyn yn ymwneud ag adolygu Cynllun Pensiwn y Glowyr yn gyffredinol neu ailystyried rôl Llywodraeth y DU fel gwarantydd ac am y rheswm hwnnw, ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr â sicrhau cyfiawnder o ran y gwarged.

Ddirprwy Lywydd, cefais fy ngeni yn ystod streic y glowyr 1984-5 a fi yw’r ail genhedlaeth yn fy nheulu nad yw wedi gweithio o dan y ddaear. Rwy’n gwybod bod llawer yma wedi byw drwy’r digwyddiad hwnnw ac yn wir, wedi bod yn rhan ohono ac wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol. Mae etifeddiaeth ein treftadaeth ddiwydiannol yn aros gyda phob un ohonom heddiw, ni waeth beth yw ein hoedran neu ein cefndir, ac yn bendant felly ymysg cyn-lowyr, sy’n bensiynwyr erbyn heddiw. Roedd un slogan enwog o’r streic honno’n dweud na fyddai glowyr unedig byth yn cael eu trechu. Lywydd, pe bai’r Cynulliad hwn yn siarad ag un llais heddiw, pe bai’n unedig, gallai ddarparu mandad i’n Llywodraeth a allai—efallai—arwain at fuddugoliaeth hir-ddisgwyliedig i lowyr a’u teuluoedd. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:06, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw. Paul.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn cydnabod bod bodolaeth gwarant wedi galluogi'r ymddiriedolwyr i fuddsoddi mewn ffordd sydd wedi cynhyrchu gwargedion a thaliadau bonws, o ganlyniad, i aelodau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:06, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw a chynigiaf welliant 1 a gyflwynwyd yn fy enw.

Wrth gwrs, mae sicrhau a diogelu pensiynau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu gwobrwyo yn hytrach na chael eu rhoi o dan anfantais ar ôl i’w gyrfaoedd ddod i ben. Felly, mae’n bwysig fod pensiynau cyn-lowyr yn cael eu diogelu a bod unrhyw drefniadau gyda Llywodraeth y DU yn addas, yn dryloyw ac yn deg. Nawr, mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi dweud y credir bod oddeutu 25,000 o lowyr yn derbyn y pensiwn hwn yng Nghymru, ac felly mae’n iawn ein bod yn trafod y mater pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon i gyd yn cytuno bod hyfywedd y cynllun pensiwn hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y cyn-lowyr hyn yn cael y sicrwydd ariannol y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl iddo. Mae’n hanfodol fod cynllun pensiwn o’r fath yn cael ei warantu gan Lywodraeth y DU a deallaf fod y warant, dros y blynyddoedd, wedi rhoi rhyddid i’r ymddiriedolwyr fuddsoddi mewn ffordd fwy amrywiol, ac o ganlyniad, mae’r cynllun wedi cynhyrchu gwargedion sylweddol ac nid yw Llywodraeth y DU wedi gorfod chwistrellu arian i’r cynllun hyd yn hyn er mwyn sicrhau bod cyn-lowyr yn cael eu pensiwn. Ac wrth gwrs, buaswn yn tybio bod y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi gorfod chwistrellu arian i’r cynllun yn dangos bod y cynllun pensiwn yn llwyddiannus a’i fod wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd. Mae’n amlwg yn gweithredu’n well na’r gorchwyl ariannol a fwriadwyd ar ei gyfer ac mae’n ymddangos i mi fod yr ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniadau da mewn perthynas â buddsoddiadau o fewn y cynllun.

Fodd bynnag, rwy’n cytuno’n llwyr â phwynt 3 y cynnig hwn, sy’n dadlau’n gryf dros sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd y cynllun. Mae’n eithaf amlwg fod bodolaeth y warant yn galluogi’r ymddiriedolwyr i ddilyn strategaeth fuddsoddi fwy amrywiol, ac mae cyfran sylweddol o asedau’r cynllun yn parhau i fod wedi’u buddsoddi mewn ecwiti. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi ein gwelliant i’r ddadl hon, sy’n ceisio cryfhau cynnig heddiw.

Rwy’n deall y galw eang am adolygu’r trefniant presennol gyda Llywodraeth y DU, ac mae hynny’n rhywbeth rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn ei gefnogi er mwyn sicrhau bod cyn-lowyr yn derbyn cyfran briodol o’r cynllun pensiwn a’i fod yn darparu’n briodol ar gyfer anghenion cyn-lowyr, a’i fod yn deg. Felly, rydym yn cefnogi pwynt 3 y cynnig, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig ac arweinwyr lleol a rhanbarthol eraill yn Lloegr i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn adolygu trefniadau gwarged cynllun pensiwn y glowyr. Rwy’n deall, o adroddiadau newyddion, fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar y mater hwn, ac rwy’n siŵr y bydd arweinydd y tŷ yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Llywodraeth Cymru, a’i safbwynt yn wir, wrth ymateb i’r ddadl hon.

Gyda golwg ar bwynt 1 y cynnig hwn, rwy’n deall bod yna wahanol ddehongliadau o swm yr arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU o dan y trefniadau presennol, ond beth bynnag yw’r ffigurau, mae’n eithaf amlwg fod Llywodraeth y DU wedi derbyn symiau sylweddol o arian, a dyna pam rydym yn credu ei bod yn briodol cynnal adolygiad. Mae’n bwysig fod yr adolygiad hwn yn cynnig cyfle i’r cyhoedd graffu ar y mater hwn, o ystyried y symiau mawr o arian dan sylw, ond mae’r egwyddor fod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd yn un bwysig, ac mae’n rhaid i’r rôl honno barhau. Felly, pwrpas ein gwelliant yn syml yw cryfhau’r cynnig a chydnabod pwysigrwydd y warant a rôl hanfodol Llywodraeth y DU yn y cynllun hwn.

Felly, Ddirprwy Lywydd, i gloi, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r galwadau am adolygu trefniadau gwarged y cynllun pensiwn, ac rydym yn hapus i gefnogi unrhyw sylwadau a gyflwynir i Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Anogaf yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant a gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i gyn-lowyr o’u cynllun pensiwn.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:10, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n dod o gymuned debyg iawn i Steffan Lewis, heb fod mor bell i ffwrdd, ac fel cynrychiolydd hen gymuned lofaol, croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ac i groesawu’r materion a nododd Steffan Lewis. Roeddwn innau hefyd yn siomedig iawn pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai’n bwrw ymlaen ag ymchwiliad cyhoeddus i frwydr Orgreave, ac mae adolygu trefniadau cynllun pensiwn y glowyr yn rhoi cyfle i ni unioni anghyfiawnder arall tuag at y glowyr drwy roi chwarae teg iddynt mewn perthynas â’u pensiwn a gwella eu bywoliaeth.

Bydd llawer ohonom yma heddiw, yn enwedig y rhai ohonom a fagwyd mewn cymunedau glofaol, yn cofio sut roedd ein diwydiant yn siapio ein hardaloedd a sut y mae’n parhau i wneud hynny. Bydd llawer ohonom hefyd yn cofio streic y glowyr—ac rwy’n ei chofio—dros 30 mlynedd yn ôl a’r effaith a gafodd ar y bobl a oedd yn gweithio yn y diwydiant a’u teuluoedd. Byddaf yn 40 y flwyddyn nesaf, ond rwy’n cofio—roedd fy nhad yn gynghorydd dosbarth yng Nghwm Rhymni, ac rwy’n cofio teimlo anghyfiawnder anhygoel ar y pryd ar ran ffrindiau i mi yn yr ysgol a oedd yn cael tocynnau cinio am fod eu rhieni ar streic, a’r anawsterau a’r rhaniadau roedd hyn yn eu hachosi yn yr ysgol lle tyfais i fyny. Roeddwn yn ffodus na ddilynodd fy nhad ei lwybr gyrfa i fod yn beiriannydd mwyngloddio a’i fod wedi mynd i’r byd addysg yn lle hynny, ond gallwn fod wedi bod yn yr un sefyllfa yr un mor hawdd.

Ni allwn newid agwedd y Llywodraeth ar y pryd tuag at y diwydiant glo, ond gallwn wneud ein rhan i ddwyn y Llywodraeth bresennol i gyfrif a sicrhau eu bod yn rhoi chwarae teg i’n glowyr. Talodd llawer o lowyr gweithgar arian i mewn i’w cronfa bensiwn gyda phob ewyllys da, yn y gobaith y byddent yn cael incwm go lew ar ôl ymddeol, ac mae preifateiddio’r diwydiant glo wedi rhoi hyn yn y fantol, gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn cynorthwyo llawer sy’n cael budd-daliadau oherwydd pensiynau isel, ac ni all hynny barhau. Nid oes angen i Lywodraeth y DU barhau i gymryd 50 y cant o warged cronfa pensiwn y glowyr gan fod mwyngloddio dwfn wedi dod i ben yn y DU bellach.

Rwy’n llwyr gefnogi Llywodraeth Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr a Steffan Lewis, yn wir, a’i alwadau am adolygu’r trefniadau pensiwn gan gadw gwarant Llywodraeth y DU. Gweithiodd ein cyn-lowyr yn galed am flynyddoedd lawer mewn amgylchiadau a allai fod yn beryglus. Mae llawer ohonynt wedi datblygu problemau iechyd hirdymor cysylltiedig ac angen cymorth yn eu bywydau. Nid wyf yn teimlo fod gwelliant Paul Davies yn ychwanegu unrhyw beth at sylwedd y cynnig, ac felly cefnogi’r cynnig yn unig y byddaf yn ei wneud heddiw. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw cynorthwyo glowyr i gael mwy o chwarae teg a gallwn ddechrau drwy roi pwysau ar Lywodraeth y DU i adolygu’r trefniadau pensiwn er mwyn sicrhau rhaniad tecach rhwng y Llywodraeth a’r glowyr.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:13, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cymeradwyo Plaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Cynulliad heddiw ac am y ffordd y cyflwynodd Steffan Lewis y ddadl. Mae’n rhaid i mi ddatgan buddiant, am fod fy mam yn bensiynwr o dan y cynllun sy’n gweithredu ar y cyd â hwn, cynllun pensiwn staff Glo Prydain, ac rwy’n gyfarwydd iawn â threfniadau cynllun pensiwn y glowyr ei hun. Rwy’n credu bod yna anghyfiawnderau sydd angen eu cywiro yn y sefyllfa bresennol. Fel y nododd Paul Davies, mae 25,000 o lowyr Cymru yn rhan o’r cynllun ar hyn o bryd, ac mae pob un ohonynt wedi rhoi arian i mewn er mwyn cael y buddion y maent yn eu derbyn—5.5 y cant o’r cyflog. Felly, nid gweithred elusennol yw hon mewn unrhyw ddull na modd, ond budd a gontractiwyd.

Mae gwerth i’r warant a roddodd y Llywodraeth wrth breifateiddio’r diwydiant ac wrth gwrs mae’n iawn y dylid rhannu unrhyw warged â’r Llywodraeth, ond mae’r rhaniad 50/50 yn ymddangos yn bell iawn o fod yn deg erbyn hyn. Ni hawliwyd ar y warant honno erioed mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ei bod yn annhebygol iawn yr hawlir arni byth, oherwydd nid yw prisiad actiwaraidd yn wyddor eithriadol o fanwl oherwydd eich bod yn rhagweld y sefyllfa ymhen degawdau lawer, yn aml iawn, ac yn gwneud rhagdybiaethau am gyfraddau llog, ond rydym yn gwybod bod cyfraddau llog ar eu lefelau isaf erioed ar hyn o bryd ac ni allant ostwng llawer mwy mewn gwirionedd. Felly, mae’n debygol y bydd unrhyw gynnydd mewn cyfraddau llog yn y dyfodol yn gostwng y diffyg posibl yn sylweddol ac yn cynyddu unrhyw warged posibl yn y cynllun. Felly, mae hynny’n golygu bod gwerth gwarant y Llywodraeth, yn nhermau arian parod, yn llawer llai nag y gellid bod wedi’i ragweld ar yr adeg pan gafodd ei llunio. Ac yn yr amgylchiadau hynny, mae’n rhaid ei bod yn iawn i’r rhaniad 50/50 presennol rhwng buddiolwyr y cynllun a’r Llywodraeth gael ei ailystyried. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi tynnu bron i £3.4 biliwn o’r gronfa ers 1994. Mae hwnnw’n elw sylweddol iawn yn gyfnewid am warant na hawliwyd arni erioed mewn gwirionedd.

Mae’r £8 biliwn y cyfeiriwyd ato yn y cynnig yn cyfeirio mewn gwirionedd at yr hyn y mae’r Llywodraeth yn debygol o’i elwa o’r cynllun, yn ôl amcangyfrif Binder Hamlyn am y cyfnod o 25 mlynedd o 2006, felly nid ydym yn gwybod yn iawn a yw’r ffigur hwnnw yn mynd i gael ei wireddu. Ond rwy’n meddwl y gallwn ddychmygu’n eithaf da fod swm sylweddol iawn o arian yn mynd i gael ei gymryd o’r cynllun gan y Llywodraeth. Fel y nododd Hefin David yn ei gyfraniad, mae yna lawer o lowyr ar bensiynau isel iawn ar hyn o bryd, a gellid cynyddu’r pensiynau hynny’n sylweddol pe bai’r rhaniad 50/50 yn cael ei newid, felly mae UKIP yn falch o gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:16, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gymeradwyo Steffan Lewis am ddod â’r ddadl hon i’r tŷ ac am gyflwyno’r cynnig? Rwy’n ei gefnogi, ac rwy’n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru a galwadau Undeb Cenedlaethol y Glowyr dros nifer o flynyddoedd am adolygu’r trefniant rhannu gwarged.

Cafodd rhannau o fy etholaeth eu hadeiladu ar y diwydiant glo. Mae llawer iawn o bobl yn dal i hawlio o dan y pensiwn fel buddiolwyr—pobl a fu’n talu am ddegawdau a phobl y mae eu gwaith caled wedi adeiladu’r cymunedau rwy’n eu gwasanaethu yn awr yn y lle hwn. Maent yn bobl sy’n haeddu setliad pensiwn teg.

Rydym yn croesawu’r warant. Yn y cyfnod cythryblus hwn o ran prisiadau pensiwn, yn amlwg, mae bodolaeth y warant yn beth da. Y cwestiwn yw: pa bris a delir am y warant honno? Rydym wedi clywed gan y siaradwyr eisoes heddiw ynglŷn â chyn lleied yw cost hynny, i bob pwrpas, i Lywodraeth y DU. Yr hyn na allwn ei gael, neu’r hyn na ellir ei amddiffyn, yw fformiwla sy’n rhoi arian annisgwyl i Lywodraeth y DU ar gefn cyfraniadau pensiwn glowyr dros ddegawdau. Dylai’r trefniadau fod yn ddigon i dalu am unrhyw gost i’r Llywodraeth, ond dim mwy na hynny.

Felly, mae’n bryd cael adolygiad. Fel y crybwyllodd Hefin David, ni chafwyd diwydiant mwyngloddio dwfn yn y 25 mlynedd diwethaf; mae’n chwarter canrif bron ers y cytunwyd ar y trefniadau. Bu newidiadau mawr hyd yn oed ers hynny yn y diwydiant glo. Ni fydd mwy o alwadau am gymorth a chymhorthdal i’r diwydiant hwnnw. Roedd yna adeg pan oedd Tŷ’r Cyffredin yn dadlau ynghylch cymhorthdal i’r diwydiant glo fel mater o drefn, ac rwy’n nodi’r sylwadau a wnaeth Neil Hamilton, sy’n groes, mewn gwirionedd, i’w safbwynt ar y pryd pan ddisgrifiodd gymorth i’r diwydiant fel y postyn pwll drutaf mewn hanes. Felly, rwy’n falch o glywed fod ei feddyliau wedi symud ymlaen ers hynny.

Yn sicr, nid mater i lowyr yw rhoi cymhorthdal i Lywodraeth y DU, felly mae’n bryd adolygu. A gaf fi ddweud, gan fy mod yn gobeithio y byddwn yn cyrraedd sefyllfa pan fyddwn yn adolygu’r trefniadau hynny, bydd y rheini ohonom sy’n mynychu digwyddiadau lles glowyr a digwyddiadau Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo yn nodi, y dyddiau hyn, mai menywod yw mwyafrif y mynychwyr yn hytrach na’r glowyr eu hunain? Rwy’n credu y byddem yn gwneud cymwynas fawr â hwy pe baem, yn ystod yr adolygiad hwn, yn edrych ar y trefniadau sydd gennym ar waith i gefnogi gweddwon glowyr a roddodd eu bywydau i adeiladu ein cymunedau.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:18, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Steffan Lewis am godi’r mater pwysig hwn ac am gyflwyno’r cynnig ger ein bron heddiw, ac rwy’n ei gefnogi’n llawn. Rwyf hefyd yn cefnogi’n llawn sylwadau’r mwyafrif o’r cyd-Aelodau sydd wedi siarad eisoes yn y ddadl hon.

Fel y dywedodd Steffan, mae’r mater yn dyddio’n ôl i 1994 pan roddodd Llywodraeth Geidwadol John Major y trefniadau newydd ar waith a fyddai’n tanysgrifennu’r golled yn y dyfodol, ac rydym eisoes wedi siarad am hynny. Yn ogystal â’r ffaith fod Llywodraeth y DU eisoes wedi mynd â’r £8 biliwn amcangyfrifedig allan o’r gronfa ers ei sefydlu, bydd glowyr sy’n bensiynwyr yn ein hatgoffa hefyd fod y Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi cymryd seibiant rhag talu cyfraniadau pensiwn am dair blynedd yn 1987. Cawsant seibiant pellach rhag talu cyfraniadau pensiwn yn 1991 a 1994, a ddarparodd £5 miliwn arall ar ben hynny i’r Llywodraeth.

Yr hyn na allwn ddianc rhagddo yw’r ffaith fod y trefniant hwn yn rhan o gytundeb a ddaeth i ben yn ôl yn 1994. Nid trafod cyfreithlondeb trefniant o’r fath a wnawn, ond a yw’n foesol gywir i’r Llywodraeth barhau i gymryd symiau mor enfawr o’r gronfa bensiwn am fod y gronfa wedi perfformio’n llawer gwell nag y gallai neb fod wedi’i ragweld yn 1994. Yn sicr, felly, mae’n iawn mai’r glowyr ddylai gael budd ohoni yn hytrach na’r Llywodraeth.

Wrth ystyried y mater hwn, fel cyd-Aelodau eraill, rwy’n meddwl am y cyfraniad a wnaeth glowyr a’u teuluoedd—gyda llawer ohonynt yn dod o fy etholaeth—i economi, hanes a threftadaeth Cymru. Rhoesant eu hunain yn llwyr, gyda llawer yn talu’r pris eithaf. Y gwaith caletaf sy’n bod, fel y dywedodd Michael Pollard yn ei lyfr, ‘Life and Death of the British Coal Miner’. Ac i beth? Er mwyn cael eu malu gan Thatcher a’i chanlynwyr yn 1985, ac mae gennyf ofn mai Neil Hamilton oedd un o’r rheini ar y pryd. Mewn fendeta yn erbyn eu hundeb, Undeb Cenedlaethol y Glowyr, neu’r ‘gelyn oddi mewn’ fel roedd hi’n well gan y Llywodraeth Dorïaidd ar y pryd eu galw, gan gynnwys Neil Hamilton.

Fel y dywedodd Hefin David, mae aberth y rhai a oedd yn gweithio yn y diwydiant glo yn parhau i lawer o lowyr y mae eu hiechyd wedi dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i weithio mewn diwydiant a oedd yn asgwrn cefn i lawer o’n cymunedau ar hyd a lled Cymru. Roedd llawer gormod ohonynt nad ydynt, o ganlyniad i’r anafiadau a ddioddefwyd wrth gloddio ein glo, erioed wedi elwa i unrhyw raddau sylweddol neu hyd yn oed o gwbl o gynllun pensiwn y glowyr. Felly, rwy’n arbennig o falch ein bod bellach yn ystyried hyn yma yn y Cynulliad gan fy mod yn gwybod bod Undeb Cenedlaethol y Glowyr yng Nghymru wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd yn mynd yn ôl i’r dyddiau cyn preifateiddio hyd yn oed, dros gael dosbarthiad tecach o’r gwargedion sy’n codi o’r cynllun. Maent wedi lobïo’n gyson am adolygiad o’r trefniant 50/50, a byddwn yn dweud eu bod yn hynny o beth wedi cael eu cefnogi’n fedrus gan yr ymddiriedolwr a etholwyd gan gynllun pensiwn y glowyr ar gyfer y rhanbarth, Mr Anthony Jones, cyn löwr yng nglofa’r Betws yn etholaeth Hefin, ac sy’n cael cefnogaeth lwyr Undeb Cenedlaethol y Glowyr de Cymru yn y rôl hon.

Ddirprwy Lywydd, defnyddiwyd y ddadl gan Lywodraethau olynol yn San Steffan fod angen y gwarged a gymerant i gynorthwyo ac i roi cymhorthdal i’r diwydiant glo. Rwy’n tybio nad oes angen argyhoeddi neb yma yn y Siambr hon ynglŷn â pha mor anghynaliadwy yw dadl o’r fath heddiw, nawr bod diwydiant glo Prydain bron iawn yn grair hanesyddol o’n gorffennol diwydiannol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn gallu cefnogi’r alwad i wneud y gorau o’r manteision sydd ar gael i’r rhai sy’n dal i allu tynnu pensiwn o’r cynllun ac y bydd yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn yn galw am adolygu’r trefniadau.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:22, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru heddiw a diolch i Steffan Lewis am gyflwyno’r cynnig hwn y byddwn yn ei gefnogi. A diolch i’r Aelodau hefyd am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon.

Wrth gwrs, mae angen i mi ddatgan ar y cychwyn nad yw pensiynau’n ddatganoledig a’u bod yn faterion i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am drefniadau priodol, diogel ac wedi’u rheoli’n dda ar gyfer y cynllun pensiwn hwn, yn enwedig yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar yn ymwneud â chynlluniau pensiwn mawr.

Pan edrychwn ar y rhai sy’n cael budd, ar 30 Medi 2015, roedd 162,684 o bensiynwyr a 37,807 o bensiynwyr gohiriedig yn y cynllun pensiwn hwn i lowyr ledled y DU. Ym mis Mehefin eleni, 2016, roedd tua 22,000 o gyn-lowyr a gweithwyr y diwydiant glo yn y cynllun yn dod o Gymru. I gydnabod hyn, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, ar 22 Mehefin, ynglŷn â chynllun pensiwn y glowyr, yn cefnogi safbwynt Undeb Cenedlaethol y Glowyr drwy alw am adolygu’r trefniadau cyllido.

Mae wedi cael ei ddweud yn y ddadl hon, yn dilyn preifateiddio Corfforaeth Glo Prydain ym 1994, fod Llywodraeth y DU wedi darparu gwarant solfedd i gynllun pensiwn y glowyr sy’n sicrhau y bydd hawliau pensiwn sylfaenol bob amser yn codi yn unol â chwyddiant ac na ddylai leihau mewn termau ariannol waeth beth yw perfformiad y cronfeydd.

Mae’r cynnig heddiw yn ceisio mynd i’r afael ag annhegwch ymddangosiadol y trefniadau presennol. Dadl Llywodraeth y DU yw bod y rhaniad presennol o wargedion rhwng yr aelodau a’r Llywodraeth yn ad-daliad teg a rhesymol am fuddsoddiad trethdalwyr yn y cynlluniau yn y gorffennol yn ystod y cyfnod o berchnogaeth gyhoeddus ar y diwydiant ac am y risgiau y maent yn parhau i’w hysgwyddo drwy warant y Llywodraeth, a fydd yn parhau hyd nes y caiff y cynllun ei gau, y disgwylir iddo ddigwydd yn y 2070au. Mae’r trefniadau gwarant a negodwyd ar y pryd gan yr ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth yr holl undebau llafur mwyngloddio, yn rhoi cyfle i aelodau’r cynllun rannu buddion o unrhyw warged cyfnodol yng nghronfeydd y cynllun gyda Llywodraeth y DU. Yn ymarferol, rwy’n deall bod hyn wedi golygu bod aelodau’n mwynhau pensiynau bonws gwerth bron i 30 y cant o’u buddion indecs gyswllt. Dylid nodi nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau buddsoddi; mater i ymddiriedolwyr y cynllun yw hynny. Ond mewn ymateb i lythyr y Prif Weinidog yn gynharach eleni, nododd Llywodraeth y DU, er y byddent yn ystyried unrhyw gynigion, mae’n ymddangos nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i newid y trefniadau presennol ar hyn o bryd. Felly, mae’r ddadl hon heddiw a’r alwad hon am adolygiad yn bwysig ac yn amserol iawn, ac mae gennym neges gref i’w hanfon at Lywodraeth y DU.

Calon y mater yn y cynnig hwn yw cwestiwn y gwargedion mawr sy’n cael eu cynhyrchu, ac mae yna gydnabyddiaeth yn hynny o beth fod angen adolygu’r rhain, fel y mae’r Aelodau wedi nodi mor glir. Mae cynllun pensiwn y glowyr wedi bod yn un hynod lwyddiannus, gan gynhyrchu gwargedion sylweddol. Mae’n amlwg fod taer angen adolygu’r swm o arian sy’n cael ei dynnu allan o’r gronfa gan Lywodraeth y DU. Cafodd y cronfeydd yn y cynllun eu hennill gan y glowyr eu hunain a dylid eu defnyddio er lles y glowyr hynny a chyn-weithwyr y diwydiant glo, a’u teuluoedd wrth gwrs—y glowyr a oedd, am dros ganrif, yn asgwrn cefn diwydiant Prydain, a llawer ohonynt wedi aberthu eu hiechyd ac mewn gormod o achosion, eu bywydau er budd ffyniant diwydiannol Prydain. Mae hi ond yn iawn, fel y mae Hefin David a Jeremy Miles wedi dweud, ein bod am weld y gorau iddynt am y ddyled sydd arnom ni a’r wlad gyfan iddynt.

Tynnodd Dawn Bowden sylw at yr ymgyrch hirsefydlog sy’n dal i fynd rhagddi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr am adolygiad llawn o’r trefniadau presennol, ac rydym yn cefnogi hynny’n llawn. Wrth gwrs, nid ydynt yn galw am roi terfyn i warant y Llywodraeth—rhaid i ni wneud hynny’n glir; maent yn awyddus i sicrhau bod y ffordd y mae unrhyw wargedion yn cael eu rhannu yn deg ac yn gymesur. Mae gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr achos cyfiawn a gwnaethant achos cryf dros gynnal adolygiad. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi iddynt ein cefnogaeth lawn ac yn cefnogi’r cynnig hwn er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei wneud yn llawn o ran yr hyn y mae’r cynnig yn galw amdano, gan weithio gyda phawb yn y gweinyddiaethau datganoledig a all wneud i hyn ddigwydd. Am yr un rheswm, rydym yn gwrthwynebu’r gwelliant a gynigiwyd gan Paul Davies ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:27, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Steffan Lewis i ymateb i’r ddadl.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn fynegi fy niolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac i arweinydd y tŷ am ei hymateb. Diolch i Paul Davies am nodi y bydd ei grŵp yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw ac rwy’n ei longyfarch am fabwysiadu agwedd wahanol i Lywodraeth ei blaid yn Llundain.

Siaradodd Hefin David yn huawdl am ei atgofion o streic 1984-1985 a rhannodd gyda ni sut y gallai bywyd fod wedi bod yn wahanol iawn ac yn anodd iddo a’i deulu pe bai ei dad wedi dewis gyrfa wahanol. Ac mae’n hollol gywir, wrth gwrs, i ddweud, 30 a mwy o flynyddoedd ers y streic honno, ei bod hi bellach yn bryd mynd i’r afael â phob anghyfiawnder yn erbyn y glowyr a’u teuluoedd, gan gynnwys mater gwarged pensiwn y glowyr. Roedd Neil Hamilton yn iawn i nodi bod glowyr wedi talu i mewn i’r cynllun hwn, ac nid gweithred o elusen yw iddynt elwa o’r cynllun hwnnw: mae’r arian yn eiddo i lowyr a’u teuluoedd. Gofynnodd Jeremy Miles y cwestiwn allweddol sydd wrth wraidd y ddadl hon yn ei chyfanrwydd: beth sy’n bris teg am gefnogaeth Llywodraeth y DU fel gwarantydd y cynllun hwn? Ac yn sicr mae pob un ohonom yn cytuno nad yw rhaniad 50/50 yn bris teg, nid i’r glowyr a’u teuluoedd o leiaf. Roedd Dawn Bowden yn iawn i nodi nad mater cyfreithiol yw hwn; nid yw hwn yn fater sy’n cael ei ymladd ar sail y gyfraith, ond yn bendant iawn, mae’n un moesol.

Roeddwn yn ddiolchgar i arweinydd y tŷ am rannu gyda ni yr ohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU, ac yn hynod o siomedig o glywed ymateb Llywodraeth y DU i sylwadau’r Prif Weinidog. Rwy’n gobeithio y bydd llais unedig iawn y Cynulliad hwn heddiw yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru yn eu hymdrechion yn y dyfodol mewn perthynas â’r mater hwn.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddiolch a thalu teyrnged i’r glowyr sydd wedi ymgyrchu i gadw’r ymgyrch hon yn sylw’r cyhoedd, yn enwedig y rhai sydd wedi lansio deisebau a ddenodd dros 8,000 o lofnodion. Hoffwn ddiolch i Aelodau eraill sydd eisoes wedi diolch i Undeb Cenedlaethol y Glowyr a fu’n ymgyrchu ar ran glowyr a’u teuluoedd, nid yn unig ar y mater hwn, ond ar nifer o faterion eraill, ac sy’n parhau i gefnogi glowyr a’u teuluoedd mewn perthynas â’r heriau amrywiol y’ maent yn dal i’w hwynebu heddiw.

Ddirprwy Lywydd, mae cyn-lowyr a’u teuluoedd a’u cymunedau wedi dioddef dad-ddiwydiannu, anghydfod, niwmoconiosis, broncitis cronig, osteoarthritis, dirgryniad bys gwyn a mwy yn sgil eu gwaith. Pan ddygwyd eu swyddi oddi arnynt, gwnaed ymdrech i ddwyn eu hurddas hefyd, ac wrth iddynt wynebu hydref a gaeaf eu hoes, gadewch i ni weithio gyda’n gilydd drostynt, er mwyn sicrhau urddas iddynt yn eu hymddeoliad, a phensiynau cyfiawn. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:30, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.