Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw a chynigiaf welliant 1 a gyflwynwyd yn fy enw.
Wrth gwrs, mae sicrhau a diogelu pensiynau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu gwobrwyo yn hytrach na chael eu rhoi o dan anfantais ar ôl i’w gyrfaoedd ddod i ben. Felly, mae’n bwysig fod pensiynau cyn-lowyr yn cael eu diogelu a bod unrhyw drefniadau gyda Llywodraeth y DU yn addas, yn dryloyw ac yn deg. Nawr, mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi dweud y credir bod oddeutu 25,000 o lowyr yn derbyn y pensiwn hwn yng Nghymru, ac felly mae’n iawn ein bod yn trafod y mater pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon i gyd yn cytuno bod hyfywedd y cynllun pensiwn hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y cyn-lowyr hyn yn cael y sicrwydd ariannol y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl iddo. Mae’n hanfodol fod cynllun pensiwn o’r fath yn cael ei warantu gan Lywodraeth y DU a deallaf fod y warant, dros y blynyddoedd, wedi rhoi rhyddid i’r ymddiriedolwyr fuddsoddi mewn ffordd fwy amrywiol, ac o ganlyniad, mae’r cynllun wedi cynhyrchu gwargedion sylweddol ac nid yw Llywodraeth y DU wedi gorfod chwistrellu arian i’r cynllun hyd yn hyn er mwyn sicrhau bod cyn-lowyr yn cael eu pensiwn. Ac wrth gwrs, buaswn yn tybio bod y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi gorfod chwistrellu arian i’r cynllun yn dangos bod y cynllun pensiwn yn llwyddiannus a’i fod wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd. Mae’n amlwg yn gweithredu’n well na’r gorchwyl ariannol a fwriadwyd ar ei gyfer ac mae’n ymddangos i mi fod yr ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniadau da mewn perthynas â buddsoddiadau o fewn y cynllun.
Fodd bynnag, rwy’n cytuno’n llwyr â phwynt 3 y cynnig hwn, sy’n dadlau’n gryf dros sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd y cynllun. Mae’n eithaf amlwg fod bodolaeth y warant yn galluogi’r ymddiriedolwyr i ddilyn strategaeth fuddsoddi fwy amrywiol, ac mae cyfran sylweddol o asedau’r cynllun yn parhau i fod wedi’u buddsoddi mewn ecwiti. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi ein gwelliant i’r ddadl hon, sy’n ceisio cryfhau cynnig heddiw.
Rwy’n deall y galw eang am adolygu’r trefniant presennol gyda Llywodraeth y DU, ac mae hynny’n rhywbeth rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn ei gefnogi er mwyn sicrhau bod cyn-lowyr yn derbyn cyfran briodol o’r cynllun pensiwn a’i fod yn darparu’n briodol ar gyfer anghenion cyn-lowyr, a’i fod yn deg. Felly, rydym yn cefnogi pwynt 3 y cynnig, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig ac arweinwyr lleol a rhanbarthol eraill yn Lloegr i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn adolygu trefniadau gwarged cynllun pensiwn y glowyr. Rwy’n deall, o adroddiadau newyddion, fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar y mater hwn, ac rwy’n siŵr y bydd arweinydd y tŷ yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Llywodraeth Cymru, a’i safbwynt yn wir, wrth ymateb i’r ddadl hon.
Gyda golwg ar bwynt 1 y cynnig hwn, rwy’n deall bod yna wahanol ddehongliadau o swm yr arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU o dan y trefniadau presennol, ond beth bynnag yw’r ffigurau, mae’n eithaf amlwg fod Llywodraeth y DU wedi derbyn symiau sylweddol o arian, a dyna pam rydym yn credu ei bod yn briodol cynnal adolygiad. Mae’n bwysig fod yr adolygiad hwn yn cynnig cyfle i’r cyhoedd graffu ar y mater hwn, o ystyried y symiau mawr o arian dan sylw, ond mae’r egwyddor fod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd yn un bwysig, ac mae’n rhaid i’r rôl honno barhau. Felly, pwrpas ein gwelliant yn syml yw cryfhau’r cynnig a chydnabod pwysigrwydd y warant a rôl hanfodol Llywodraeth y DU yn y cynllun hwn.
Felly, Ddirprwy Lywydd, i gloi, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r galwadau am adolygu trefniadau gwarged y cynllun pensiwn, ac rydym yn hapus i gefnogi unrhyw sylwadau a gyflwynir i Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Anogaf yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant a gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i gyn-lowyr o’u cynllun pensiwn.