Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru heddiw a diolch i Steffan Lewis am gyflwyno’r cynnig hwn y byddwn yn ei gefnogi. A diolch i’r Aelodau hefyd am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon.
Wrth gwrs, mae angen i mi ddatgan ar y cychwyn nad yw pensiynau’n ddatganoledig a’u bod yn faterion i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am drefniadau priodol, diogel ac wedi’u rheoli’n dda ar gyfer y cynllun pensiwn hwn, yn enwedig yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar yn ymwneud â chynlluniau pensiwn mawr.
Pan edrychwn ar y rhai sy’n cael budd, ar 30 Medi 2015, roedd 162,684 o bensiynwyr a 37,807 o bensiynwyr gohiriedig yn y cynllun pensiwn hwn i lowyr ledled y DU. Ym mis Mehefin eleni, 2016, roedd tua 22,000 o gyn-lowyr a gweithwyr y diwydiant glo yn y cynllun yn dod o Gymru. I gydnabod hyn, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, ar 22 Mehefin, ynglŷn â chynllun pensiwn y glowyr, yn cefnogi safbwynt Undeb Cenedlaethol y Glowyr drwy alw am adolygu’r trefniadau cyllido.
Mae wedi cael ei ddweud yn y ddadl hon, yn dilyn preifateiddio Corfforaeth Glo Prydain ym 1994, fod Llywodraeth y DU wedi darparu gwarant solfedd i gynllun pensiwn y glowyr sy’n sicrhau y bydd hawliau pensiwn sylfaenol bob amser yn codi yn unol â chwyddiant ac na ddylai leihau mewn termau ariannol waeth beth yw perfformiad y cronfeydd.
Mae’r cynnig heddiw yn ceisio mynd i’r afael ag annhegwch ymddangosiadol y trefniadau presennol. Dadl Llywodraeth y DU yw bod y rhaniad presennol o wargedion rhwng yr aelodau a’r Llywodraeth yn ad-daliad teg a rhesymol am fuddsoddiad trethdalwyr yn y cynlluniau yn y gorffennol yn ystod y cyfnod o berchnogaeth gyhoeddus ar y diwydiant ac am y risgiau y maent yn parhau i’w hysgwyddo drwy warant y Llywodraeth, a fydd yn parhau hyd nes y caiff y cynllun ei gau, y disgwylir iddo ddigwydd yn y 2070au. Mae’r trefniadau gwarant a negodwyd ar y pryd gan yr ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth yr holl undebau llafur mwyngloddio, yn rhoi cyfle i aelodau’r cynllun rannu buddion o unrhyw warged cyfnodol yng nghronfeydd y cynllun gyda Llywodraeth y DU. Yn ymarferol, rwy’n deall bod hyn wedi golygu bod aelodau’n mwynhau pensiynau bonws gwerth bron i 30 y cant o’u buddion indecs gyswllt. Dylid nodi nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau buddsoddi; mater i ymddiriedolwyr y cynllun yw hynny. Ond mewn ymateb i lythyr y Prif Weinidog yn gynharach eleni, nododd Llywodraeth y DU, er y byddent yn ystyried unrhyw gynigion, mae’n ymddangos nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i newid y trefniadau presennol ar hyn o bryd. Felly, mae’r ddadl hon heddiw a’r alwad hon am adolygiad yn bwysig ac yn amserol iawn, ac mae gennym neges gref i’w hanfon at Lywodraeth y DU.
Calon y mater yn y cynnig hwn yw cwestiwn y gwargedion mawr sy’n cael eu cynhyrchu, ac mae yna gydnabyddiaeth yn hynny o beth fod angen adolygu’r rhain, fel y mae’r Aelodau wedi nodi mor glir. Mae cynllun pensiwn y glowyr wedi bod yn un hynod lwyddiannus, gan gynhyrchu gwargedion sylweddol. Mae’n amlwg fod taer angen adolygu’r swm o arian sy’n cael ei dynnu allan o’r gronfa gan Lywodraeth y DU. Cafodd y cronfeydd yn y cynllun eu hennill gan y glowyr eu hunain a dylid eu defnyddio er lles y glowyr hynny a chyn-weithwyr y diwydiant glo, a’u teuluoedd wrth gwrs—y glowyr a oedd, am dros ganrif, yn asgwrn cefn diwydiant Prydain, a llawer ohonynt wedi aberthu eu hiechyd ac mewn gormod o achosion, eu bywydau er budd ffyniant diwydiannol Prydain. Mae hi ond yn iawn, fel y mae Hefin David a Jeremy Miles wedi dweud, ein bod am weld y gorau iddynt am y ddyled sydd arnom ni a’r wlad gyfan iddynt.
Tynnodd Dawn Bowden sylw at yr ymgyrch hirsefydlog sy’n dal i fynd rhagddi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr am adolygiad llawn o’r trefniadau presennol, ac rydym yn cefnogi hynny’n llawn. Wrth gwrs, nid ydynt yn galw am roi terfyn i warant y Llywodraeth—rhaid i ni wneud hynny’n glir; maent yn awyddus i sicrhau bod y ffordd y mae unrhyw wargedion yn cael eu rhannu yn deg ac yn gymesur. Mae gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr achos cyfiawn a gwnaethant achos cryf dros gynnal adolygiad. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi iddynt ein cefnogaeth lawn ac yn cefnogi’r cynnig hwn er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei wneud yn llawn o ran yr hyn y mae’r cynnig yn galw amdano, gan weithio gyda phawb yn y gweinyddiaethau datganoledig a all wneud i hyn ddigwydd. Am yr un rheswm, rydym yn gwrthwynebu’r gwelliant a gynigiwyd gan Paul Davies ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.