Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Mi drof i at y gwelliannau—mae yna nifer ohonyn nhw. Ni fyddwn ni’n cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth. Nid ydym ni’n teimlo bod gosod y cap £50,000 yma’n adlewyrchu tegwch. Mi fyddai’n well gennym ni, yn sicr, weld mwy o gynnydd tuag at roi terfyn go iawn ar y dreth dementia yma sydd gennym ni ar hyn o bryd. Mae gwelliant 2, yn ein tyb ni, yn amherthnasol. Mi allai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r talu am ofal ei hunan, faint bynnag o oedi sydd yna’n digwydd o du Llywodraeth Prydain. Mi fyddai gwelliant 3 yn dileu ein un ni, er nad oes gennym ni ddim gwrthwynebiad i’r egwyddorion sy’n cael eu mynegi ynddo fo.
Gan droi at ein gwelliannau ni, nid ydym ni wedi cael ein hargyhoeddi eto o’r angen am ddarn penodol o ddeddfwriaeth ar hawliau pobl hŷn. Mae angen sicrhau hawliau pawb, wrth reswm—pawb fel ei gilydd. Hefyd, wrth gwrs, mae’r dirwedd hawliau dynol yn newid, ac wrthi’n newid yn sylweddol ar hyn o bryd oherwydd bwriad Llywodraeth Prydain, mae’n ymddangos, i gael gwared ar hawliau pobl ar ôl y bleidlais ar Ewrop. Fe allai unrhyw ddeddfwriaeth, felly, sy’n cael ei phasio yma gael ei disodli. Felly, dyna’r rheswm am welliant 4.
Mae gwelliant 5 yn newid ychydig ar eiriad y cynnig gwreiddiol. Mae’n adlewyrchu, mewn difri, ein hyder ni yn y comisiynydd pobl hŷn i fod yn llais ar ran pobl hŷn Cymru.
Mae gwelliant 6 yn cydnabod bod yna fwlch mewn tai lled-breswyl a thai gofal, ‘supported housing’, felly, ar hyn o bryd, a bod angen llenwi’r ‘gap’ hwnnw. Mae gwelliant 7 yn un yr oeddwn i’n eiddgar i’w ychwanegu, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio efo comisiynwyr heddlu a throsedd i atal pobl hŷn rhag dioddef sgamiau a thwyll. Rydym ni yn ymwybodol, wrth gwrs, fod hon yn broblem fawr—bod gwerthu ffyrnig a gwerthu drwy dwyll yn amlwg yn niweidio lles ariannol a meddyliol ac iechyd pobl hŷn, ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag o.
Felly, mae llawer i’w groesawu yn y cynnig yma. Rydym yn sicr yn gobeithio y gallwn ni wneud cynnydd o ran gwneud Cymru yn genedl lle gall pobl hŷn deimlo eu bod nhw’n gallu mynd yn hen yn ddiogel, sy’n golygu bod yn genedl gyfeillgar i ddementia, ein bod ni’n amddiffyn pobl hŷn rhag sgamiau a thwyll, fel y gwnes i grybwyll, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus ni yn helpu pobl i fyw yn annibynnol mor hir, ac a bo modd, ac mor hir ag y maen nhw’n dymuno, a hynny efo urddas a pharch.