6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pobl Hŷn

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:46, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, fadam Llywydd. Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio. Daw hyn â nifer o fanteision a chyfleoedd. Mae pobl hŷn yn aml yn ganolog i’w cymunedau. Naill ai drwy wirfoddoli i wneud gwaith elusennol a chymunedol, neu drwy ddarparu gofal plant i’w teuluoedd, mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad aruthrol. Mae’n fuddiol i gymdeithas, felly, i ganiatáu i bobl hŷn fyw bywydau llawn a chynhwysol.

Fodd bynnag, mae poblogaeth sy’n heneiddio hefyd yn creu nifer o heriau. Mae llawer yn methu byw bywydau llawn oherwydd afiechyd. Mae 40 y cant o bobl dros 65 oed yng Nghymru yn dweud bod eu hiechyd yn weddol neu’n wael. Pobl hŷn yw prif ddefnyddwyr gwasanaethau gofal sylfaenol yn y GIG, ac eto, fel y mae Age UK Cymru wedi ei nodi, nid yw gwasanaethau gofal sylfaenol bob amser yn gallu diwallu anghenion pobl hŷn. Roedd traean o’r bobl hŷn a oedd am weld eu meddyg teulu yn ystod y 12 mis diwethaf yn ei chael hi’n anodd gwneud apwyntiad cyfleus iddynt eu hunain.

Mae moderneiddio’r ffordd y mae meddygfeydd yn gweithio, er enghraifft drwy wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau ar-lein, yn bwysig. Ond mae’n rhaid i newidiadau ystyried anghenion pobl hŷn a sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl. Rhaid teilwra gofal iechyd i ddiwallu anghenion ein poblogaeth hŷn. Mae dementia wedi goddiweddyd clefyd y galon fel y lladdwr mwyaf ym Mhrydain. Bydd un o bob tri o bobl dros 65 oed yn datblygu dementia a’r prif ffurf ar ddementia yw clefyd Alzheimer. Ar hyn o bryd, fel y nododd Janet, mae mwy na 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Am ffigur syfrdanol. Rhagwelir y bydd y ffigur yn codi bron draean erbyn 2021.

Mae’r sefyllfa ofnadwy hon yn golygu bod teuluoedd yn gwylio eu hanwyliaid yn llithro ymaith hyd nes na fyddant bellach yn eu hadnabod hyd yn oed. Am deimlad ofnadwy i aelodau o’r teulu. Lle y caiff pobl ddiagnosis cynnar a help i gael gafael ar wybodaeth, cymorth a gofal, mae tystiolaeth yn awgrymu eu bod yn aml yn gallu addasu’n dda i fyw gyda dementia.

Mae angen i’n meddygon teulu archwilio’n agosach am arwyddion o ddementia, oherwydd po gynharaf y gwneir diagnosis, yr hawsaf y bydd bywydau’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr. Ar ôl gwneud diagnosis o ddementia, mae’n bwysig fod dioddefwyr yn cael cymorth i’w galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain cyn belled ag y bo modd. Mae’r Gymdeithas Alzheimer yn dweud y bydd mwy nag un o bob 10 o bobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu gorfodi i fynd i gartref gofal yn gynnar oherwydd diffyg cefnogaeth. Ni wnaed digon o gynnydd ar wella gofal dementia yng nghartrefi pobl. Mae angen i ni gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau cymorth dementia yn y gymuned—estyniad o gynlluniau hyfforddi dementia. Mae’n hanfodol fod gweithwyr gofal yn cael hyfforddiant priodol er mwyn darparu gofal o ansawdd. Mae darparu safon uchel o ofal yn effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd, ac mae’r bobl hyn yn haeddu cael eu trin ag urddas.

Rwy’n credu bod angen Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn. Lywydd, un maes nad yw wedi cael sylw hyd yma yw hwn: dywedwch fod dau o bobl, gŵr a gwraig, a bod y gŵr â dementia, mae’r wraig bron ar goll, gan mai’r gŵr sy’n gwbl gyfrifol am faterion ariannol y teulu a materion eraill—allanol, y tu allan i’r cartref. Mewn rhai cymunedau yn y wlad yn arbennig, bron nad yw menywod yn ymdrin o gwbl â’r materion hynny. Felly, pan fydd gwŷr yn cael problem o’r fath—hynny yw, dementia—mae’r menywod fwy neu lai ar goll. Nid oes neb yno i’w helpu gyda hyfforddiant ariannol, hyfforddiant cymdeithasol a hyfforddiant diwylliannol o gwbl yn ein gwasanaeth iechyd. Mae angen i ni ymwneud â’r agwedd honno, oherwydd mae hynny’n effeithio’n hirdymor, nid yn unig ar y teulu ond ar y plant hefyd.

Mae hyn yn bwysig. Rwy’n siarad am ddementia, oherwydd tri ‘D’ a glywais yn ddiweddar: ‘death, divorce, dementia’. Mae angen i ni weithio’n gadarn—yn dosturiol tu hwnt—i wneud yn siŵr nad yw ein pobl yn dioddef yn y wlad hon. Dylai fod gwellhad yn fuan iawn yn y byd hwn, rwy’n gobeithio, er mwyn i bobl gael bywyd iach. Caiff hyn ei gefnogi gan y comisiynydd pobl hŷn, a alwodd am ddeddfwriaeth, a dyfynnaf, ac mae hyn yn ar ddementia:

i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn... i fwynhau bywydau sy’n rhydd o gamdriniaeth, esgeulustod, rhagfarn oed a gwahaniaethu... i allu cymryd rhan lawn yn eu cymunedau a ffynnu yn eu henaint. Mae’n gwbl annerbyniol fod hawliau pobl hŷn, yn enwedig pobl sy’n agored i niwed, yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn. Yn olaf, maent yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn. Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn.