Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch, Dai. Fe’ch clywais yn galw am weithredu radical. Clywais alwad eich plaid am weithredu radical yn ddiweddar iawn ar newid yn yr hinsawdd. Felly, rwy’n ei chael yn rhyfedd eich bod yn awr yn dadlau o blaid safbwynt a fydd yn cynyddu maint y traffig rhwng 12.5 a 25 y cant, a fydd yn ei gwneud yn anos gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd.