Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 16 Tachwedd 2016.
I ddilyn ymlaen o hynny, rwy’n meddwl mai’r dull rhagofalus a welwyd gan Lee a Russell George yw’r un sydd angen i ni ei fabwysiadu. Wrth gwrs, mae’n hollol gywir, fel y dywed Dai Lloyd, ei bod yn annheg ein bod yn cael y tollau hyn ar bontydd i Gymru pan nad oedd pont Humber—a adeiladwyd o ganlyniad i isetholiad yn 1966, gyda llaw, pan gafodd y Llywodraeth Lafur fwyafrif o un—yn ddarostyngedig i dollau o’r math rydym yn dal i’w hwynebu yma yng Nghymru. Felly, yn amlwg, mae yna achos cryf dros ddweud bod hyn yn hollol annheg, ond mae’n rhaid i ni gofio ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi, a bod yna oblygiadau amgylcheddol difrifol iawn y mae angen i ni eu harchwilio cyn i ni ruthro i ddiddymu tollau.
Bythefnos yn ôl i heddiw, collodd Llywodraeth y DU achos arwyddocaol iawn yn yr Uchel Lys yn Llundain. Efallai bod rhai ohonoch wedi ei fethu, oherwydd fe ddigwyddodd ddiwrnod cyn y dyfarniad yn y Goruchaf Lys a roddodd oruchafiaeth i’r Senedd yn y penderfyniad ynglŷn â dechrau’r broses yn sgil y penderfyniad i adael yr UE. Ond mae goblygiadau mawr iawn i’r canlyniad hwn yn y tymor hir iawn i Lywodraeth y DU ac yn wir, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru hefyd, oherwydd barnodd Mr Ustus Garnham fod cynllun ansawdd aer Llywodraeth y DU ar gyfer 2015 wedi methu cydymffurfio â dyfarniad y Goruchaf Lys, na chyfarwyddebau perthnasol yr UE yn wir, a dywedodd fod y Llywodraeth wedi tramgwyddo’r gyfraith drwy osod dyddiadau cydymffurfio ar gyfer mynd i’r afael â’r lefelau anghyfreithlon hyn o lygredd yn seiliedig ar fodelu lefelau llygredd yn orobeithiol. Felly, mae’r ddadl am faint o draffig y gellid ei gynhyrchu drwy gael gwared ar y tollau ar y pontydd ar draws yr Hafren yn arbennig o berthnasol i’r pwynt hwn.
Mae methiant y Llywodraeth i fynd i’r afael â lefelau anghyfreithlon o lygredd aer ar draws y DU yn achosi 50,000 o farwolaethau cynnar a thros £27 biliwn mewn costau bob blwyddyn, a hynny yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth y DU ei hun. Mae hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd, a gallai unrhyw beth a wnawn, neu unrhyw beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud sy’n methu mynd i’r afael â hyn arwain atynt hwy neu ninnau’n gorfod ymddangos gerbron y llysoedd.
Un o’r rhesymau pam yr enillodd y corff anllywodraethol cyfreithiol, ClientEarth, eu hachos oedd oherwydd bod cynlluniau Llywodraeth y DU wedi anwybyddu llawer o fesurau a allai sicrhau toriadau yn lefelau nitrogen deuocsid. Mae’r rhain yn cynnwys codi tâl ar geir diesel, sy’n ffynhonnell sylweddol o lygredd aer, am fynd i ddinasoedd a amharwyd gan lygredd aer fel rhan o’r ardaloedd aer glân arfaethedig. Dadleuodd y Trysorlys y byddai’n anodd iawn yn wleidyddol, yn enwedig o ystyried yr effeithiau ar fodurwyr—greal sanctaidd y modurwr. Dywedodd yr Uchel Lys fod rheolaeth y gyfraith yn gorbwyso ystyriaethau gwleidyddol o’r fath, ac rwy’n cytuno â hynny. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i ddyfarniad yr Uchel Lys wrth ystyried cael gwared ar dollau ar bont Hafren oherwydd yr effaith y gallai ei chael ar yr ardaloedd aer glân arfaethedig, sy’n cynnwys Caerdydd. Cynllun Caerdydd oedd un o’r rhai a gafodd ei wrthod am ei fod yn orobeithiol ac afrealistig ynglŷn â’u cynlluniau i gael gwared ar y lefelau anghyfreithlon hyn.
Felly, rwy’n cytuno bod hon yn dreth annheg ar bobl Cymru os na ellir ac os na chaiff ei gwario ar wella ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a mynd i’r afael felly â’r lefelau llygredd aer. Ond hyd yn hyn, rwy’n cytuno, mae’r llysoedd wedi barnu bod cynlluniau Llywodraeth y DU yn ddiffygiol, ac nid yw’n ymddangos eu bod yn dymuno trosglwyddo’r doll hon i ni. Ond mae angen i ni wybod gyda rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth Cymru beth fyddai’n cael ei wneud, pe baem yn dileu’r tollau hyn, ynglŷn â chanlyniadau llygredd aer cynyddol. Nodaf fod Bryste eisoes wedi gweithredu lôn flaenoriaeth sy’n cael ei gorfodi’n llym ar gyfer ceir sy’n cymudo i mewn i Fryste sy’n cynnwys mwy nag un teithiwr. A allem fod yn hyderus a disgwyl y byddai trefn o’r fath yn cael ei rhoi mewn grym o amgylch Caerdydd hefyd?