Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Mae’n werth pwysleisio nad oes unrhyw gynlluniau i ddatganoli’r pŵer i bennu tollau ar bont Hafren i’r Cynulliad. Felly, mae hon yn ddadl gymharol ddamcaniaethol, wedi’i chynllunio’n bennaf i roi pwysau ar Lywodraeth y DU. Pe bai pwerau’n cael eu datganoli, rwy’n meddwl y byddem yn cael trafodaeth ychydig yn wahanol y prynhawn yma.
Ond gan fod hon yn ddadl athronyddol i raddau helaeth, hoffwn ddefnyddio’r cyfle i awgrymu ymagwedd amgen i’r Cynulliad: un rwy’n meddwl ei bod yn arbennig o bwysig yng ngoleuni’r penderfyniad i adael yr UE. Pe bai’r tollau’n cael eu diddymu, mae’r rhagolygon gorau’n dangos y byddai’r llifddorau’n agor. Byddai traffig yn cynyddu rhwng oddeutu 12.5—ffigurau’r Llywodraeth—a 25 y cant—ffigyrau dirgel Russell George. Ond wrth glywed yr hyn a ddywedodd John Griffiths am yr argraff a roddir i bobl sy’n dod i mewn i Gymru wrth orfod talu tollau, byddem yn lle hynny yn rhoi’r argraff i bobl sy’n dod i Gymru o ffyrdd â thagfeydd traffig gwael. Oherwydd byddai mwy fyth o dagfeydd yn y twneli ym Mrynglas a’r ardal gyfagos yn sgil y llif anhygoel o fawr o draffig a fyddai’n deillio o hynny, neu os ydym yn gwario £1 biliwn yn y pen draw ar ddarn newydd o’r M4, byddai hwnnw’n gyflym iawn yn llenwi â thraffig ac yn creu galw am fwy o gapasiti ffyrdd eto ymhellach i lawr yr M4.
Hoffwn atgoffa’r Cynulliad fod gennym ymrwymiadau; rydym i gyd wedi rhoi ymrwymiadau a ymgorfforwyd mewn cyfraith i leihau allyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050, gyda thargedau interim i’w lleihau 40 y cant erbyn 2020. Nid ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y targedau hyn ac ni fydd cynyddu’r defnydd o geir ar yr M4 ond yn gwneud pethau’n waeth. Rwy’n sylweddoli bod hon yn ystyriaeth anghyfleus, ond mae’n un real iawn na allwn ei hysgubo o’r neilltu bob tro rydym yn wynebu penderfyniad sy’n gwrthdaro yn erbyn yr ymrwymiadau rydym wedi eu gwneud. Yn amlwg, mae creu dewis amgen yn lle defnyddio ceir yn rhan allweddol o’r broblem honno. Mae cael system drafnidiaeth gyhoeddus ddeniadol yn hanfodol, ond mae’r penderfyniad i adael yr UE wedi rhoi marc cwestiwn sylweddol yn erbyn maint a siâp metro de Cymru yn y dyfodol.
Amcangyfrifir y bydd ail gam y metro yn costio £734 miliwn dros chwe blynedd. Disgwylid i dalp sylweddol o hwnnw—oddeutu £125 miliwn—ddod o’r UE. Bydd gadael yr UE yn gadael diffyg o oddeutu £21 miliwn y flwyddyn—un rhan o chwech o gyfanswm y pecyn ariannu. Dylai Llywodraeth y DU dalu—[Torri ar draws.] Os caf wneud rhywfaint o gynnydd. Dylai Llywodraeth y DU dalu’r diffyg, ond rwy’n ofni na fyddant yn gwneud hynny ac mae’n anodd gweld sut y gall ein cyllidebau cyfalaf lenwi’r bwlch hwnnw, o gofio ein bod yn neilltuo £1 biliwn ar gyfer yr M4. Rwy’n ofni y byddwn yn ei chael hi’n anodd cyflawni potensial llawn y prosiect metro, a phe bai’r Cynulliad yn cael ei ffordd heddiw, byddem yn ymrwymo ein hunain i strategaeth i gynyddu traffig ceir yn sylweddol ar yr M4, ar yr un pryd â chyfyngu ar yr unig gynllun sydd gennym i leihau pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd, yn ogystal â bod angen lleihau allyriadau carbon 40 y cant o fewn pedair blynedd, pan fo’r holl ddangosyddion yn dangos ein bod yn mynd i’r cyfeiriad arall. Rwy’n meddwl y dylem oedi ac ystyried cyn i ni symud ymlaen. Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o ariannu’r prosiect metro’n llawn a’i ehangu, ac rwy’n meddwl mai clustnodi arian o’r tollau i dalu am brosiect trafnidiaeth gyhoeddus i dynnu’r pwysau oddi ar yr M4 yw’r opsiwn gorau sydd ar gael i ni. Mae tollau ar y ddwy bont Hafren wedi dod yn rhan dderbyniol o economi de Cymru. Nawr, gallwn drafod sut y gallai lefelau’r tollau gael eu gosod yn fwy creadigol, ac nid oes rheswm pam, er enghraifft—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, Dai, nid oes gennyf lawer o amser; os bydd, dof yn ôl atoch.
Gallwn weld sut y gellid gosod y tollau hynny’n fwy creadigol. Nid oes raid i ni eu gosod ar gyfer faniau neu lorïau, er enghraifft. Gallem eu gosod ar gyfer ceir un defnyddiwr yn lle hynny. Ond os ydym yn cadw’r tollau, rydym yn cadw’r pŵer i ddewis. Mae’r pontydd ar hyn o bryd yn creu rhwng oddeutu £90 miliwn a £109 miliwn y flwyddyn, a chredir mai oddeutu £20 miliwn o hwnnw’n unig sydd ar gyfer cynnal a chadw. Felly, gallai fod rhywle rhwng £70 miliwn a £90 miliwn ar gael i’w fuddsoddi yn y metro, i lenwi bwlch ariannu’r UE neu hyd yn oed i ddenu benthyciadau i ehangu’r prosiect metro yn ôl y weledigaeth lawn yr hoffem ei gweld ac yn wir, i ehangu metros ar draws Cymru. Ond ni allwn wneud hynny os nad ydym yn cadw ein hopsiynau’n agored, a’r bwriad sydd wrth wraidd y cynnig heddiw yw cau’r drws ar opsiynau.
Os ydym am osgoi effaith drychinebus y newid yn yr hinsawdd ar fusnes, ar iechyd, ar seilwaith—mae’n werth nodi y rhagwelir y bydd y pontydd ffyrdd hyn i gyd o dan y dŵr o fewn 50 mlynedd oni bai ein bod yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd—yna mae angen i ni wneud rhywbeth gwahanol. Yn syml iawn, parhau â’r un atebion yw’r fordd anghywir o wneud pethau. Diolch.