Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Ar ddadl Plaid Cymru, gweithwyr tramor yn y GIG yng Nghymru, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, yna byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 8 o blaid y cynnig, roedd 10 yn ymatal a 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig ac fe bleidleisiwn ar y gwelliannau.