Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bobl hŷn, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, yna byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 16, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn i bleidlais ar y gwelliannau.