Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Symudwn yn awr at ddadl UKIP ar dollau pont Hafren, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton a Mark Reckless. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 4, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a phleidleisiwn ar y gwelliannau.