<p>Allforion Tramor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae teithiau masnach yn holl-gwmpasol. Mae'n iawn i ddweud ein bod ni’n masnachu gyda chwmnïau na fyddem yn rhannu eu gwerthoedd. Ceir problemau gyda nifer o wledydd ledled y byd, lle byddai'n well gennym ni pe byddai eu systemau yn fwy agored, a phe byddai eu systemau yn agosach i’n system ni. Ond rwy’n credu, trwy fasnachu gyda’r gwledydd hyn, ei bod yn bosibl dangos bod ffordd o lywodraethu sy'n wahanol ac, yn fy marn i, yn well na'r rhai sy'n bodoli yn eu gwledydd nhw. Mater iddyn nhw, wrth gwrs, yw sut y maen nhw’n llywodraethu eu hunain, ond, serch hynny, cawn ein harwain gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad pa un a yw'n briodol cael cysylltiadau masnach â gwledydd ai peidio.