Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, mae Cymru yn wlad fach ond angerddol sy'n gwneud yn well nag y gellid disgwyl. Nodaf mai £12.1 biliwn oedd gwerth allforion Cymru ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys Mehefin 2016, ac roedd allforion i'r Undeb Ewropeaidd yn cyfrif am bron i 40 y cant o’r allforion o Gymru. Mae’r Prif Weinidog yn eiriolwr brwd a llwyddiannus o werthu Cymru i'r byd. Felly, pa gynlluniau ar gyfer y dyfodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i sicrhau y gall nwyddau a gwasanaethau Cymru barhau i gael eu hallforio i'r byd?