Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Rwy’n croesawu’n fawr yr ymateb yna a gwn fod cyllid ar gyfer camau olynol y cyflwyniad ychydig yn fwy ansicr erbyn hyn, ar ôl Brexit. Ond mae'n cynnig rhywfaint o botensial cyffrous yma, y canolbwynt ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n dal i eistedd ar hyd yr ardal honno, sef y chweched ardal weithgynhyrchu ac ardal gyflogaeth fwyaf yn y DU hefyd. Mae ganddo botensial enfawr. Os ydym ni’n mynd i elwa ar fanteision metro de Cymru gwirioneddol, mae'n rhaid i ni ei wthio i fyny’r Cymoedd a thua'r gorllewin hefyd. Felly, efallai, os gwnaiff dynnu ei het Prif Weinidog i ffwrdd a dod i lawr gyda mi i gyfarfod â’r Cynghorydd Huw David, arweinydd newydd awdurdod Pen-y-bont ar Ogwr a reolir gan Lafur, gallwn eistedd i lawr a’i drafod gyda'n gilydd dros baned o de.