Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Nid wyf yn dweud ei bod hi’n bersonol gyfrifol am hynny, ond dyna'r gwirionedd. Adeiladwyd dros y rheilffordd a oedd yn dod i mewn i'r dref flynyddoedd lawer iawn yn ôl, ac mae'n ffordd ddeuol erbyn hyn ac mae llawer o'r rheilffordd wedi mynd. Felly, byddai'n anymarferol adfer y rheilffordd o gyffordd Heol y Sheet yn y Pîl, trwy dwnnel Notais, sydd wedi hen fynd, i mewn i Borthcawl ei hun. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried dewisiadau eraill ar gyfer trefi fel Porthcawl yn y dyfodol, o ystyried y ffaith iddyn nhw gael eu torri i ffwrdd o’r rhwydwaith rheilffyrdd ar ddechrau’r 1960au. Un awgrym yw bws cyflym; ceir posibiliadau eraill y gellir eu rhoi ar gael ar gyfer trefi sydd gryn bellter i ffwrdd o’r rhwydwaith rheilffyrdd trwm yn y dyfodol.