Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Mae hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar arian yr UE yr ydym ni’n mynd i’w golli—£125 miliwn; maddewch yr eironi yn y fan yna—yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn hytrach. Y gwir yw y bydd hynny yn rhoi twll yn y gyllideb. Nid yw’n angheuol i'r prosiect metro, ond heb yr arian hwnnw, bydd yn llawer anoddach symud y prosiectau ymlaen neu eu cyflymu yn debyg i’r un y mae newydd ei grybwyll.