<p>Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 22 Tachwedd 2016

Nid yw’n glir ein bod ni’n mynd i golli’r EIB. Mae swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda’r EIB. Nid oes yna ddim rheswm pam na allai neb gael cyllid o’r EIB os ydyn nhw’r tu fas i’r Undeb Ewropeaidd ond, os mae’r Deyrnas Unedig tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, byddai llai o arian ar gael i’r banc. So, felly, dyna beth yw’r sefyllfa fel y mae’r banc yn dweud wrthym ni ar hyn o bryd, so, felly, byddai’n dal i fod yn agored.

Rydym ni eisiau sicrhau, wrth gwrs, bod y banc datblygu yn gallu helpu busnesau hefyd, ond, ar hyn o bryd, mae’r gwaith ar y comisiwn yn cael ei ddatblygu. Nid ydw i o blaid cael corff sydd yn hollol annibynnol, rhyw fath o gwango, ond rydym ni’n moyn sicrhau bod y comisiwn, wrth gwrs, yn rhywbeth sy’n gallu datblygu a chynllunio er mwyn cael y seilwaith gorau i Gymru yn y dyfodol.