Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Mae dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y comisiwn yn ei gwneud yn eglur y byddai'r comisiwn yn gynghorol ac anstatudol, ac y byddai Gweinidogion yn cadw rheolaeth dros benderfyniadau buddsoddi. Os, fel yr ydych chi newydd ei nodi, gallai esblygiad Cyllid Cymru i fanc datblygu i Gymru gynnwys rhai swyddogaethau banc seilwaith, sut gwnewch chi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a gyflwynwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o ystyried ein bod yn deall o dystiolaeth i'r pwyllgor na fydd yn cael ei rwymo gan ofynion darbodus Banc Lloegr na rheolau'r UE ar ofynion cyfalaf gan wneud rheoli risg-sensitif a risg uwch yn ofynnol?