<p>Prinder Meddygon Teulu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:14, 22 Tachwedd 2016

Wel, Brif Weinidog, mae’r prinder yn argyfyngus mewn ambell i ardal—nid dros Gymru i gyd, rwy’n cytuno, ond mewn ambell i ardal, megis de sir Benfro, mae yna brinder difrifol am feddygon teulu. Mae yna ymgyrch i recriwtio mwy, rwy’n derbyn hynny, ond, yn y cyfamser, beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod gofal sylfaenol ar gael i bawb mewn ardaloedd megis de sir Benfro drwy ddefnyddio fferyllfeydd, drwy ddefnyddio ymarferwyr nyrsio, drwy ddefnyddio dulliau eraill o gyflogi meddygon teulu yn uniongyrchol?