Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Mae’r Aelod, wrth gwrs, yn sôn am Dewis Doeth—Choose Well—sef ymgais sydd gyda ni er mwyn sicrhau bod pobl yn mynd i’r fferyllydd yn gyntaf, wedyn at nyrs mewn meddygfa deuluol a dim ond wedyn yn mynd at feddyg teulu. Mae hynny’n hollbwysig i dynnu pwysau bant o feddygon teulu. Lle mae meddygfeydd yn cau, mae’r byrddau iechyd yn eu cymryd nhw drosodd ac mae’r gwasanaeth yn dal i fynd. Ond, mae yna gwestiwn i’r proffesiwn yn y pen draw. Mae mwy a mwy o ddoctoriaid ifanc eisiau cael cyflog ac nid prynu i mewn i bractis, ac mae hynny’n rhywbeth bydd y proffesiwn yn gorfod delio ag ef dros y blynyddoedd nesaf.