Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Ymwelais â Mbale yn Uganda yn ystod y toriad hanner tymor yn rhan o ddathliadau degfed pen-blwydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru o Blaid Affrica. Mae'r rhaglen wedi cefnogi ac annog pobl yng Nghymru i wneud gwahaniaeth yn Affrica Is-Sahara. Er bod gan bobl o Gymru bartneriaethau gweithredol mewn sawl rhan o Affrica Is-Sahara, mae’n debyg mai yn rhanbarth Mbale yn nwyrain Uganda y mae’r rhan fwyaf o’r gweithgaredd, tua phum awr mewn car o'r brifddinas, Kampala.
Yn ystod fy amser yn Uganda, ymwelais â chanolfannau iechyd, ysbyty rhanbarthol, ysgolion a llawer o feithrinfeydd coed. Cefais fy nhywys o amgylch y brif slym yn Mbale, lansiais gydweithfa fêl i ferched, ac arwyddais femorandwm o gyd-ddealltwriaeth â’n partneriaid allweddol yn yr ardal. Bûm yn dosbarthu eginblanhigion coed, yn plannu coeden fango—profiad a hanner—ac yn cynnau goleuadau LED newydd sydd wedi’u pweru gan uned trydan dŵr fach mewn ysgol wledig. A chefais gwrdd â llawer o wirfoddolwyr o Gymru a oedd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, ynghyd â chwech o bobl o Gymru ar leoliadau wyth wythnos gyda'n rhaglen cyfleoedd dysgu rhyngwladol.
Gwelais rai pethau ofnadwy hefyd: matresi sbwng moel wedi’u staenio mewn canolfan iechyd brin iawn o adnoddau lle mae merched yn rhoi genedigaeth dan olau fflachlamp, ystafell esgor chwe gwely yn y prif ysbyty sy'n gwasanaethu poblogaeth fwy na Chymru yn ymdrechu i ymdopi â menywod yn esgor—weithiau cynifer â 50 mewn un diwrnod—pentwr enfawr o wastraff clinigol yn mudlosgi wedi’i adael yng nghefn yr un ysbyty oherwydd bod y llosgydd wedi torri, a phlant yn yfed dŵr budr wedi’i dynnu o afon lygredig yng nghanol slym. Mae'r plant hynny’n agored i gam-drin o bob math.
Ond, ble bynnag yr es i, gwelais hefyd dystiolaeth o bobl o Gymru yn gweithio ochr yn ochr â phobl leol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol: roedd tri dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda Pheirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor i adeiladu uned famolaeth y mae wir ei hangen yng nghefn gwlad Kachumbala—trydanwr, plymwr a saer, yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr o Uganda; roedd gwirfoddolwyr o'r Teams4u o Wrecsam, y gwn fod fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yn ymwybodol iawn ohonynt, yn addysgu ysgol gyfan am iechyd rhywiol ac atgenhedlu ac yn profi pawb am HIV, gan gynnwys rhieni, ac yn hyfforddi cyfanswm o 1,500 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r rhanbarth mewn hybu iechyd a hylendid cymunedol—maent yn gwneud gwaith gwych i helpu i atal a rheoli achosion o ddolur rhydd a hyd yn oed colera; pwmp dŵr pŵer solar, wedi’i gynllunio a'i osod gan dîm o Beirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor, i ddarparu dŵr glân i dros 1,000 o bobl a 4,000 o wartheg; a gwell gofal newyddenedigol o ganlyniad i hyfforddiant o Gymru—sydd wedi golygu bod marwolaethau ymhlith babanod newydd-anedig yn ysbyty atgyfeirio ranbarthol Mbale wedi gostwng o ffigur syfrdanol o 52 y cant i 17 y cant, sy’n dal yn annerbyniol o uchel, mewn dwy flynedd, ond gostyngiad enfawr yn nifer y marwolaethau—a’r gwasanaeth ambiwlans beic modur enwog iawn ar gyfer y rhanbarth cyfan a ddyfeisiwyd gan wirfoddolwyr o wasanaeth ambiwlans Cymru, a gefnogir gan yr elusen yn ne Cymru PONT a chynghorau dosbarth rhanbarth Mbale gydag arian gan Gymorth y DU a Llywodraeth Cymru.
Roedd llawer o'r gweithgarwch a welais yn cael ei ddarparu gan sefydliadau anllywodraethol fel PONT, a ddechreuodd ym Mhontypridd, Peirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor yng Nghaerfyrddin, a Teams4u o Wrecsam. Mae llawer o'r prosiectau wedi elwa ar grantiau bach a chanolig eu maint gan raglen Cymru o Blaid Affrica, ac mae mwy o arian wedi’i ysgogi gan roddwyr eraill neu wedi’i godi gan wirfoddolwyr.
Un o uchafbwyntiau'r daith oedd ymweld â llawer o'r 45 o feithrinfeydd coed cymunedol sy’n cael eu cynnal gan y prosiect 10 Miliwn o Goed drwy Maint Cymru. Cyfarfûm â llawer o'r staff ymroddedig sydd eleni wedi magu a dosbarthu 1.2 miliwn o eginblanhigion i ffermwyr bach. Gwelais ddau wahanol gyflwyniad drama sy'n cael eu defnyddio i annog a hysbysu cymunedau gwledig am yr angen i blannu mwy o goed ac am sut i ofalu amdanynt. Gwelais hefyd sut mae Plannu!, menter Llywodraeth Cymru i blannu coeden yn Uganda a Chymru ar gyfer pob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru, yn gweithio. Trwy Plannu! mae teulu’n gallu cael coeden ffrwythau—coeden fango, afocado neu jacffrwyth yn aml—i’w phlannu ger eu tŷ. Yn ogystal â darparu cysgod, mae’n darparu maeth ychwanegol sydd ei angen yn fawr ar gyfer eu deiet. A dweud y gwir, mae hynny'n bwynt pwysig iawn, oherwydd carbohydradau yw llawer o'r deiet yn y rhan honno o Uganda, heb lawer arall i ychwanegu at eu deiet. Felly, mae ffrwythau yn eu deiet yn arbennig o bwysig.
Cefais gyfarfod hefyd ag Ei Hardderchogrwydd Alison Blackburne, Uchel Gomisiynydd Prydain i Uganda, a swyddogion allweddol o Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol. Mae llawer mwy i'w ennill o’r ymgysylltiad penodol hwnnw hefyd. Gwnaethant gytuno i weithio'n agosach gyda'n swyddogion yn y dyfodol, yn enwedig ym maes pwysig ariannu carbon, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n ein galluogi i blannu llawer mwy o goed dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ystod fy ymweliad byr, cefais weld rhai o'r llawer o brosiectau sy'n cael eu cefnogi gan Gymru yn Mbale, ond rwy'n ymwybodol iawn, dros y 10 mlynedd diwethaf, bod dros 500 o brosiectau ar draws Affrica Is-Sahara, sy'n tarddu o bob etholaeth yng Nghymru, wedi cael cymorth. Mewn ychydig ddyddiau byr, gwelais drosof fy hun sut y mae Cymru o Blaid Affrica yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn Mbale ac yng Nghymru. Rwyf wedi gweld rhai golygfeydd anodd iawn a fydd yn aros gyda mi am amser hir iawn, ond rwy’n talu teyrnged i'r miloedd lawer o bobl o Gymru sy'n gwirfoddoli i helpu i wneud y byd yn lle llawer gwell drwy'r rhaglen hon.