– Senedd Cymru am 6:09 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar Gymru o blaid Affrica, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Ymwelais â Mbale yn Uganda yn ystod y toriad hanner tymor yn rhan o ddathliadau degfed pen-blwydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru o Blaid Affrica. Mae'r rhaglen wedi cefnogi ac annog pobl yng Nghymru i wneud gwahaniaeth yn Affrica Is-Sahara. Er bod gan bobl o Gymru bartneriaethau gweithredol mewn sawl rhan o Affrica Is-Sahara, mae’n debyg mai yn rhanbarth Mbale yn nwyrain Uganda y mae’r rhan fwyaf o’r gweithgaredd, tua phum awr mewn car o'r brifddinas, Kampala.
Yn ystod fy amser yn Uganda, ymwelais â chanolfannau iechyd, ysbyty rhanbarthol, ysgolion a llawer o feithrinfeydd coed. Cefais fy nhywys o amgylch y brif slym yn Mbale, lansiais gydweithfa fêl i ferched, ac arwyddais femorandwm o gyd-ddealltwriaeth â’n partneriaid allweddol yn yr ardal. Bûm yn dosbarthu eginblanhigion coed, yn plannu coeden fango—profiad a hanner—ac yn cynnau goleuadau LED newydd sydd wedi’u pweru gan uned trydan dŵr fach mewn ysgol wledig. A chefais gwrdd â llawer o wirfoddolwyr o Gymru a oedd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, ynghyd â chwech o bobl o Gymru ar leoliadau wyth wythnos gyda'n rhaglen cyfleoedd dysgu rhyngwladol.
Gwelais rai pethau ofnadwy hefyd: matresi sbwng moel wedi’u staenio mewn canolfan iechyd brin iawn o adnoddau lle mae merched yn rhoi genedigaeth dan olau fflachlamp, ystafell esgor chwe gwely yn y prif ysbyty sy'n gwasanaethu poblogaeth fwy na Chymru yn ymdrechu i ymdopi â menywod yn esgor—weithiau cynifer â 50 mewn un diwrnod—pentwr enfawr o wastraff clinigol yn mudlosgi wedi’i adael yng nghefn yr un ysbyty oherwydd bod y llosgydd wedi torri, a phlant yn yfed dŵr budr wedi’i dynnu o afon lygredig yng nghanol slym. Mae'r plant hynny’n agored i gam-drin o bob math.
Ond, ble bynnag yr es i, gwelais hefyd dystiolaeth o bobl o Gymru yn gweithio ochr yn ochr â phobl leol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol: roedd tri dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda Pheirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor i adeiladu uned famolaeth y mae wir ei hangen yng nghefn gwlad Kachumbala—trydanwr, plymwr a saer, yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr o Uganda; roedd gwirfoddolwyr o'r Teams4u o Wrecsam, y gwn fod fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yn ymwybodol iawn ohonynt, yn addysgu ysgol gyfan am iechyd rhywiol ac atgenhedlu ac yn profi pawb am HIV, gan gynnwys rhieni, ac yn hyfforddi cyfanswm o 1,500 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r rhanbarth mewn hybu iechyd a hylendid cymunedol—maent yn gwneud gwaith gwych i helpu i atal a rheoli achosion o ddolur rhydd a hyd yn oed colera; pwmp dŵr pŵer solar, wedi’i gynllunio a'i osod gan dîm o Beirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor, i ddarparu dŵr glân i dros 1,000 o bobl a 4,000 o wartheg; a gwell gofal newyddenedigol o ganlyniad i hyfforddiant o Gymru—sydd wedi golygu bod marwolaethau ymhlith babanod newydd-anedig yn ysbyty atgyfeirio ranbarthol Mbale wedi gostwng o ffigur syfrdanol o 52 y cant i 17 y cant, sy’n dal yn annerbyniol o uchel, mewn dwy flynedd, ond gostyngiad enfawr yn nifer y marwolaethau—a’r gwasanaeth ambiwlans beic modur enwog iawn ar gyfer y rhanbarth cyfan a ddyfeisiwyd gan wirfoddolwyr o wasanaeth ambiwlans Cymru, a gefnogir gan yr elusen yn ne Cymru PONT a chynghorau dosbarth rhanbarth Mbale gydag arian gan Gymorth y DU a Llywodraeth Cymru.
Roedd llawer o'r gweithgarwch a welais yn cael ei ddarparu gan sefydliadau anllywodraethol fel PONT, a ddechreuodd ym Mhontypridd, Peirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor yng Nghaerfyrddin, a Teams4u o Wrecsam. Mae llawer o'r prosiectau wedi elwa ar grantiau bach a chanolig eu maint gan raglen Cymru o Blaid Affrica, ac mae mwy o arian wedi’i ysgogi gan roddwyr eraill neu wedi’i godi gan wirfoddolwyr.
Un o uchafbwyntiau'r daith oedd ymweld â llawer o'r 45 o feithrinfeydd coed cymunedol sy’n cael eu cynnal gan y prosiect 10 Miliwn o Goed drwy Maint Cymru. Cyfarfûm â llawer o'r staff ymroddedig sydd eleni wedi magu a dosbarthu 1.2 miliwn o eginblanhigion i ffermwyr bach. Gwelais ddau wahanol gyflwyniad drama sy'n cael eu defnyddio i annog a hysbysu cymunedau gwledig am yr angen i blannu mwy o goed ac am sut i ofalu amdanynt. Gwelais hefyd sut mae Plannu!, menter Llywodraeth Cymru i blannu coeden yn Uganda a Chymru ar gyfer pob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru, yn gweithio. Trwy Plannu! mae teulu’n gallu cael coeden ffrwythau—coeden fango, afocado neu jacffrwyth yn aml—i’w phlannu ger eu tŷ. Yn ogystal â darparu cysgod, mae’n darparu maeth ychwanegol sydd ei angen yn fawr ar gyfer eu deiet. A dweud y gwir, mae hynny'n bwynt pwysig iawn, oherwydd carbohydradau yw llawer o'r deiet yn y rhan honno o Uganda, heb lawer arall i ychwanegu at eu deiet. Felly, mae ffrwythau yn eu deiet yn arbennig o bwysig.
Cefais gyfarfod hefyd ag Ei Hardderchogrwydd Alison Blackburne, Uchel Gomisiynydd Prydain i Uganda, a swyddogion allweddol o Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol. Mae llawer mwy i'w ennill o’r ymgysylltiad penodol hwnnw hefyd. Gwnaethant gytuno i weithio'n agosach gyda'n swyddogion yn y dyfodol, yn enwedig ym maes pwysig ariannu carbon, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n ein galluogi i blannu llawer mwy o goed dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ystod fy ymweliad byr, cefais weld rhai o'r llawer o brosiectau sy'n cael eu cefnogi gan Gymru yn Mbale, ond rwy'n ymwybodol iawn, dros y 10 mlynedd diwethaf, bod dros 500 o brosiectau ar draws Affrica Is-Sahara, sy'n tarddu o bob etholaeth yng Nghymru, wedi cael cymorth. Mewn ychydig ddyddiau byr, gwelais drosof fy hun sut y mae Cymru o Blaid Affrica yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn Mbale ac yng Nghymru. Rwyf wedi gweld rhai golygfeydd anodd iawn a fydd yn aros gyda mi am amser hir iawn, ond rwy’n talu teyrnged i'r miloedd lawer o bobl o Gymru sy'n gwirfoddoli i helpu i wneud y byd yn lle llawer gwell drwy'r rhaglen hon.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o allu ymateb ar ran ein grŵp, ac ymestyn ein cefnogaeth barhaus i raglen Cymru o Blaid Affrica a'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud i greu cysylltiadau rhwng pobl Cymru a phobl Affrica Is-Sahara.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi ymweld â De Affrica flwyddyn neu ddwy yn ôl—mewn gwirionedd, ar ddau achlysur yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf—ac rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud o ganlyniad i gefnogaeth pobl Cymru yn y wlad benodol honno, ac yn wir, wedi clywed llawer mwy am y gwaith mwy helaeth sy'n digwydd yn rhanbarth de Affrica. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch gwaith grwpiau ffydd yn arbennig sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiectau penodol hynny. Mae gan esgobaeth Llanelwy, wrth gwrs, gysylltiad â de-orllewin Tanganyika lle mae wedi datblygu cysylltiadau dinesig i gefnogi prosiectau cynhaliaeth, gwella’r cyflenwadau dŵr ac, yn wir, helpu i hyfforddi athrawon yn yr ardal benodol honno. Ac yn wir, mae sefydliad o'r enw Dyfodol a Ffefrir, sy'n codi arian yma yng Nghymru ymysg gwahanol eglwysi unigol, yn helpu i gyflawni prosiectau ledled De Affrica a thu hwnt mewn lleoedd fel Lesotho, Zambia, Mozambique, Malawi a llawer o wledydd eraill, gan weithio’n aml iawn gyda phlant difreintiedig, a helpu i roi addysg iddynt ac, yn wir, helpu i’w haddysgu am y risgiau iechyd sy’n bodoli mewn rhai o'r cymunedau anghenus iawn hynny, yn enwedig y rhai lle mae HIV yn gyffredin iawn yn wir. Oni bai am gefnogaeth y gwahanol grwpiau ffydd a grwpiau eglwysi yn enwedig yng Nghymru i’r prosiectau hynny, yn syml, ni fyddai llawer ohonynt yn digwydd.
Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf pa waith y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i geisio sefydlu cysylltiadau â'r Cymry ar wasgar yn rhai o'r cenhedloedd hyn i harneisio'r cyfleoedd a allai fod ganddynt i ddod â rhywbeth ychwanegol, os mynnwch chi, o ran defnyddio eu sgiliau i helpu i gefnogi rhywfaint o'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Un o uchafbwyntiau, mae'n debyg, yr ymweliad diwethaf imi ei wneud â De Affrica oedd cyfarfod â Chymdeithas Gymraeg Cape ym mhreswylfa’r Uchel Gomisiynydd, lle y ceir pobl sydd â llawer o dalentau. Yn aml iawn, maent wedi ymddeol i Dde Affrica ac eisiau dal i wirfoddoli mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Rwy’n gwybod bod gennym lawer o bobl yn teithio o Gymru i Affrica Is-Sahara i gefnogi rhai o'r prosiectau yr ydych chi wedi cyfeirio atynt yn Uganda ac rwyf innau wedi cyfeirio atynt mewn mannau eraill, ond mae gan yr unigolion sy'n barhaol ar lawr gwlad yno, ond sy’n dod o Gymru, hefyd rywbeth i'w gynnig. Tybed a allwch chi wneud sylw ynglŷn ag a yw hwnnw’n grŵp o bobl yr ydych yn ceisio ymgysylltu ag ef yn benodol.
Yn ail, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r cysylltiad gwych sydd wedi ei sefydlu drwy fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ar faterion iechyd mamolaeth yn ardal Lesotho, lle maent wedi llwyddo i ostwng cyfradd marwolaethau plant—soniasoch am rai o ffigurau marwolaethau mamolaeth yn Uganda yn gynharach. Byddwch hefyd yn ymwybodol bod llwyddiannau tebyg—yn wir, llwyddiannau mwy trawiadol—wedi eu gwireddu yn Lesotho yn sgil gwaith clinigwyr o Gymru a staff nyrsio o Gymru sydd wedi bod yn teithio yno dros nifer o flynyddoedd bellach, i mewn i Lesotho, gan helpu i ysgogi gwell canlyniadau iechyd i bobl yn y wlad benodol honno.
Diolch i Darren Millar am ei sylwadau cadarnhaol ac adeiladol am y rhaglen hon. Wrth gwrs, rwy’n cofio canlyniad un o'i ymweliadau i Dde Affrica, pan ddychwelodd ag anaf sylweddol. Rwy’n meddwl bod llawer ohonom wedi mwynhau ei weld â’i goes yn yr awyr mewn cadair olwyn yn dipyn mwy nag y gwnaeth ef. Ond rydych chi’n iawn, yn enwedig—i gymryd eich pwynt cyffredinol cyntaf am swyddogaeth ffydd a chymunedau ffydd—roedd llawer o’r bobl y gwnaethom gwrdd â hwy a’u gweld yn cael eu sbarduno gan eu ffydd i wneud y peth iawn. Mae hynny'n cynnwys pobl sy'n mynd allan fel gwirfoddolwyr, yn ogystal â phobl sy'n arweinwyr lleol ar lawr gwlad. Yn wir, mae ein cyswllt allweddol yng Nghynghrair Mbale yn Erbyn Tlodi, y gweinidog Apollo Mwenyi—mae llawer o'i statws ef yn deillio o'r ffaith ei fod yn weinidog a bod llawer o bobl yn ei adnabod. Mewn llawer o'r ardaloedd yr aethom iddynt, roedd y gweinidog lleol yn berson allweddol o ran cadw pobl yn onest a chadw pobl i fynd, a dod â gwahanol bobl at ei gilydd. Felly, rwy'n hapus i gydnabod swyddogaeth bwysig cymunedau ffydd. Yn benodol, yn slym Namatala—y brif slym y cyfeiriais ati—mae’r ysgol Child of Hope yn cael ei chynnal gan gynghrair a chyfuniad o gymunedau ffydd yn y wlad hon sy’n gweithio ochr yn ochr â chymunedau ffydd yn Uganda i ddarparu rhywbeth go iawn mewn rhan ofnadwy o'r byd lle mae plant wir yn wynebu risgiau difrifol iawn a gwirioneddol ofnadwy.
O ran eich pwynt am Gymry ar wasgar, a dweud y gwir cefais gyfarfod â'r Cymry ar wasgar yn y digwyddiad gadael a gynhaliodd yr Uchel Gomisiynydd. Cawsom gyfarfod â Chymry ar wasgar yn Uganda, rhai ohonynt wedi cyrraedd yn fwy diweddar nag eraill, ond cawsom sgyrsiau gwirioneddol ddefnyddiol am yr hyn y gallwn ei wneud i wella'r rhaglen ymhellach. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym wir yn meddwl amdano gyda phob un o'n gwahanol ymrwymiadau. Nid wyf yn siŵr a oedd cwrdd â mi o fwy o ddiddordeb na'r ffaith bod yr Uchel Gomisiynydd wedi eu gwahodd am ddiod am ddim, ond pwy a ŵyr. Ond, ydy, mae'n bendant yn rhywbeth yr hoffem fanteisio arno yn y dyfodol.
Rwy’n hapus i gydnabod y pwynt olaf a wnewch, am y cysylltiad rhwng byrddau iechyd, oherwydd mae gan bob bwrdd iechyd gyswllt â rhan o Affrica sy'n cael cymorth gan y rhaglen benodol hon. Felly, mae llawer ohonynt mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar ofal mamolaeth yn ogystal, oherwydd mae peryglon gwirioneddol yn y cyfraddau marwolaethau ar gyfer mamau a babanod, a gallwn wneud gwaith gwirioneddol bwysig i'w helpu i wneud hynny, ac i weithio ochr yn ochr â phobl pan fyddwn wedi cyrraedd yno. Ond mae heriau ynghylch sut y mae’r rhaglen honno a chyfnewid gwybodaeth yn gweithio, oherwydd, yn anffodus, rydym wedi wynebu rhai problemau fisa gydag ymwelwyr o wahanol rannau o Affrica i ddod i weithio yn ein system gofal iechyd ni. Rwy’n nodi bod Betsi wedi wynebu problem fawr yn ddiweddar. Rydym yn cyfathrebu â'r Adran Iechyd a'r Swyddfa Gartref i geisio deall sut y gallwn weithio drwy hynny, oherwydd rwy’n credu bod yn rhaid i’r cyfnewid gwybodaeth fynd y ddwy ffordd—am bobl o GIG Cymru, sy’n hynod o gadarnhaol a brwdfrydig am eu profiad, yn ogystal â darparu rhywfaint o'r cyfnewid proffesiynol a’r wybodaeth broffesiynol i'w rhoi’n ôl i staff a fydd wedyn yn dychwelyd i'w gwlad eu hunain yn ogystal.
Rwy’n diolch i’r Ysgrifennydd am ei ddatganiad e heddiw, a hefyd yn ymestyn ein llongyfarchiadau ni fel grŵp i raglen Cymru dros Affrica. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi’r cydweithio rhwng Cymru a gwledydd datblygol, ac mae’r rhaglen yma yn esiampl arbennig o hynny.
Mae perthnasau o’r fath o fudd, wrth gwrs, i ni ac i’r gwledydd hynny yn arbennig, ond, o safbwynt Cymru, mae o fudd i ni wrth inni wneud gwahaniaeth iddyn nhw, rhannu arbenigedd a rhoi profiadau bythgofiadwy i bobl o’r wlad yma. Rwy’n meddwl y gallai’r rhaglen ac, yn wir, y polisi yn ehangach fuddio pe gallai’ch Llywodraeth efallai ystyried cyhoeddi canlyniadau mesurol er mwyn adeiladu ar y gwaith arbennig sydd wedi cael ei wneud, gyda rhyw fath o fwriad i ehangu’r polisi yn y dyfodol. Byddem ni’n gwerthfawrogi sylwadau’r Ysgrifennydd ar y pwynt yma o sut y gallwn ni danlinellu’r canlyniadau mewn ffordd mwy mesurol.
Yn y cyd-destun gwleidyddol presennol, a fyddai’r Ysgrifennydd yn derbyn bod angen, yn fwy nag erioed, adeiladu Cymru ryngwladol? Os yw e, a fyddai fe’n cytuno i argymell i’r Prif Weinidog i gyflwyno i’r Cynulliad yma strategaeth ar gyfer polisi rhyngwladol i Gymru a fyddai’n cynnwys ymrwymiad i bolisi dyngarol mwy eang wedi’i adeiladu ar y sail gadarn iawn sydd wedi’i gosod gan raglen Cymru dros Affrica? Wrth i rai yn y wladwriaeth yma geisio ein hynysu, rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu gwneud y gwrthwyneb, a thrwy adeiladu brand unigryw, cenedlaethol i Gymru drwy bolisïau fel hyn, gallwn ni hyrwyddo Cymru fel lle agored, lle da i fuddsoddi ynddo, a lle da i feithrin perthnasau ynddo hefyd. Byddem ni’n gwerthfawrogi, felly, sylwadau—efallai sylwadau personol yr Ysgrifennydd, ac efallai y gwnaiff e gymryd y cyfle, gan nad yw’r Prif Weinidog yn Siambr, i fod yn fwy agored. A yw e o blaid adeiladu polisi paraddiplomyddol i Gymru a fydd yn eang, a fydd yn cynnwys polisi dyngarol hefyd, gydag ystyriaeth o’r cyd-destun gwleidyddol presennol?
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau, ac am wahoddiad i fanteisio ar y ffaith nad yw’r Prif Weinidog yn y Siambr. Gwrthodaf y cyfle i geisio pennu polisi yn fyrfyfyr. Mae hyn, fel y gwyddoch, yn briodol iawn o fewn cylch gwaith y Prif Weinidog o ran ymgysylltu allanol o Gymru. Ond, edrychwch, o ran lle yr ydym fel Llywodraeth, rwy’n meddwl ein bod wedi bod yn hynod glir, drwy holl anawsterau eleni—ac rydym i gyd wedi gweld yr ymateb o fewn ein gwlad ni ynglŷn â phobl sy'n edrych neu'n swnio'n wahanol a'r ffordd y maent yn cael eu trin, yn yr ymgyrch refferendwm ac wedi hynny—ni waeth ar ba ochr yr oeddech yn yr ymgyrch honno, ni ddylai unrhyw un ohonom geisio seboni neu osgoi'r gwirionedd bod pobl wedi gwneud i’n hetholwyr deimlo'n ddigroeso, ac nid yw hynny'n rhywbeth y dylai unrhyw un ohonom geisio osgoi sôn amdano. Ac mae wedi bod yn bwysig iawn i'r Llywodraeth hon ailddatgan y ffaith yr hoffem fod yn wlad sy'n edrych tuag allan ac sy’n gadarnhaol ac yn hyderus am ein lle ym Mhrydain, Ewrop a'r byd ehangach. Ac mae hynny’n fwy na masnach, er bod masnach, wrth gwrs, yn ffordd bwysig o ymgysylltu â gwledydd eraill. Mae llawer o'r hyn a welais nad yw’n ymwneud â masnach; mae'n ymwneud ag ymgysylltu â gwella gwasanaethau cyhoeddus a chydnabod mewn gwirionedd bod gennym ran i’w chwarae i gefnogi datblygiad cynaliadwy mewn gwahanol rannau o'r byd a bod gennym fudd a diddordeb uniongyrchol mewn gwneud hynny hefyd. Mae hynny'n golygu gweithio gyda phobl ac ochr yn ochr â hwy, yn hytrach na dweud wrthynt beth i'w wneud. Felly, dyna natur ein hymgysylltu a'n perthynas, ein lle yn y byd, ond hefyd pa fath o wlad yr hoffem fod hefyd. A dweud y gwir, rwy’n meddwl bod y Llywodraeth hon wedi bod yn gyson iawn am hynny hefyd. Rydych yn ei weld mewn ystod o wahanol feysydd yr ydym yn sôn amdanynt ac yn y ffordd yr ydym yn sôn am bobl sy'n byw yma: bod gennym grŵp o wasanaethau cyhoeddus sy'n edrych tuag allan a bod arnynt angen i bobl o wahanol rannau o'r byd ddod yma, a’u bod yn dibynnu ar hynny. Dylem eu croesawu, nid dim ond am y swyddi y maent yn eu gwneud ond am y cyfraniadau y maent yn eu gwneud i'n cymuned a'n gwlad. Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am y ffordd yr ydym yn asesu effaith y broses benodol hon a bod pobl yn ystyried nid dim ond y 10 mlynedd o’r hyn sydd wedi ei wneud, ond mynd y tu hwnt i'r hanesion a dweud, 'Beth yw swm, cyfanswm yr effaith?' Rwy'n meddwl bod mwy o waith i'w wneud ar hynny.
Hoffwn orffen gyda phwynt am y budd cilyddol i bobl. Soniais am staff y GIG a'r tri dyn ifanc hynny o orllewin Cymru y cefais gyfarfod â nhw. Mae eu pythefnos yn gweithio yn Uganda wedi cael effaith sylweddol arnynt. Roedd yr hyn a welsant a’i brofi o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf yn wirioneddol anhygoel, ac nid dim ond eu pwyntiau am y gweithle a'r gofynion diogelwch nad ydynt yn bodoli. Dim ond enghraifft syml: roedd un gweithiwr nad oedd wedi cael esgidiau erioed a phrynodd un o'r bechgyn esgidiau i’r dyn hwn. Y diwrnod wedyn, ar ôl iddo fynd â nhw adref, daeth yn ôl heb fod yn eu gwisgo a dywedodd mai’r rheini oedd yr esgidiau gorau oedd ganddo a’i fod yn eu cadw gartref fel ei bâr gorau. Felly, dyna rywun sy'n gweithio’n droednoeth ar safle adeiladu. Mae'n dweud rhywbeth am y gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y wlad hon—a phopeth y dylem fod yn hynod o ddiolchgar amdano a beth sy’n normal mewn rhan wahanol o'r byd. Mae gennym lawer i'w ennill a llawer i’w roi a dylem fod yn edrych ar y peth yn y ddau fodd hynny.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch o weld bod rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn parhau i lwyddo, yn enwedig cysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica. Roeddwn yn falch iawn o glywed ein bod, y llynedd, wedi gweld 38 o ymweliadau cyfnewid sgiliau o Gymru i Affrica. Fel y gwelsom gyda’r achosion Ebola, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd ymagwedd ryngwladol at lawer o'r heriau iechyd byd-eang. Drwy gynnal y cysylltiadau hyn, mae ein meddygon nid yn unig yn cael profiad hanfodol, ond hefyd yn helpu’r cymunedau hynny yn Affrica Is-Sahara. Mae staff o ysbytai Cymru yn gallu dysgu gan eu cydweithwyr yn Affrica a rhannu eu profiadau wrth ddychwelyd adref, gan ddod â manteision iechyd gwirioneddol i gymunedau yn Affrica ar yr un pryd.
Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond un neu ddau o gwestiynau sydd gennyf i'w gofyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sut yr ydych yn bwriadu ehangu ar raglen cysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica yn y dyfodol? A fydd GIG Cymru yn ehangu'r rhaglen gyfnewid, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny â niferoedd uchel o achosion o HIV/AIDS? Yn olaf, pa wersi iechyd cyhoeddus sydd wedi eu dysgu o ganlyniad i gysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica?
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn edrych ymlaen at 10 mlynedd lwyddiannus arall o raglen Cymru o Blaid Affrica ac yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru ac Affrica yn parhau i elwa ar gysylltiadau agosach rhwng ein gwasanaethau iechyd perthnasol. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei phwyntiau a’i chwestiynau. O safbwynt iechyd, mae'n fater o gynnal y cysylltiadau sydd gennym a'r hyn yr hoffem adeiladu arno wedyn, oherwydd nid yw hon yn rhaglen â chyllideb enfawr ynghlwm wrthi. Mae llawer o'r hyn sy'n cael ei gyflawni mewn gwirionedd yn cael ei gyflawni gydag ychydig iawn o arian. Trosglwyddo gwybodaeth ac arfogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain yw llawer ohono mewn gwirionedd. Roedd honno’n thema gylchol yn yr ymweliad. Nid oedd yn fater o Gymru’n dweud, 'Mae gennym yr atebion i chi, nawr gwnewch fel yr ydym ni’n ei ddweud', ond, 'Sut yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â’r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol? Sut yr ydym yn arfogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain?' Roedd yn ymwneud â sut y maent am fyw eu bywydau eu hunain gan gydnabod yr wybodaeth y gallwn ei rhoi i bobl i allu gwneud hynny.
Y peth mwyaf llwyddiannus am y feithrinfa goed yw'r ffaith bod ffermwyr lleol wedi dod a’u bod wir eisiau cael—. Roeddent wedi cydnabod ei bod yn werth cael hynny oherwydd un o'r pethau ofnadwy a welsom yn ddiweddar oedd eu bod wedi cael tirlithriadau ac wedi gweld ailadrodd digwyddiadau erchyll sydd wedi digwydd yng Nghymru, fel yr un yr oeddem yn ei goffáu’n ddiweddar yn Aberfan. Bu trychineb debyg iawn yno; daeth llithriad i lawr bryn a mynd dros ysgol. Collwyd mwy na dwbl y bywydau o gymharu â’r hyn a ddigwyddodd yn Aberfan. Felly, mae rhywbeth yn y fan yna o ran sut yr ydym yn helpu pobl i ddeall y gwahanol newidiadau a'r ffordd y mae angen iddynt fyw eu bywydau eu hunain mewn gwirionedd i allu cael digon o fwyd i fyw arno ac i allu cael gwahanol ddiwydiannau i wneud y gwahanol ddewisiadau hynny. Nawr, mae hynny’n anodd; mae'n haws siarad amdano na’i gyflawni mewn gwirionedd, ond mae natur hirdymor ein hymrwymiad a’n gwaith gyda phobl yn ein galluogi i wneud rhywfaint o'r cynnydd hwnnw.
O ran y gwersi iechyd y cyhoedd yr ydym wedi’u dysgu, mae'n atgyfnerthu'r ymyraethau iechyd cyhoeddus syml iawn yr ydym eisoes yn eu harfer—brechu ac imiwneiddio yw un o'r materion allweddol ac a dweud y gwir, pan nad oes ganddynt raglen sylweddol, mae llawer o bobl yn colli eu bywydau oherwydd materion y bydden ni’n ystyried i fod yn rhai syml. Felly, mae'n wir yn atgyfnerthu gwerth yr hyn yr ydym yn freintiedig iawn i’w fwynhau yn y wlad hon o gael gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae'n atgyfnerthu'r perygl o beidio â’i gael, lle byddwch yn gweld anghydraddoldebau iechyd, nid dim ond yn fyd-eang, ond o fewn y wlad honno at lefelau na allai, ac na ddylai, neb ohonom eu hystyried yn dderbyniol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad i nodi 10 mlynedd o Cymru o Blaid Affrica a'r profiadau diddorol iawn a gawsoch yn Uganda. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddiddorol iawn gwrando arno. Rwy’n datgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr Life for African Mothers, sy'n gwneud popeth o fewn ei allu i wneud bywyd yn fwy diogel i fenywod sy'n rhoi genedigaeth yn Affrica Is-Sahara drwy helpu gyda meddyginiaeth a hyfforddiant, ac mae'r elusen hefyd yn 10 mlwydd oed. Nodais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am y golygfeydd y bu'n dyst iddynt yn yr ysbytai yn Uganda, ac rwyf wedi bod yn Affrica ar sawl achlysur a hefyd wedi gweld golygfeydd tebyg, ac mae'n siŵr bod yn rhaid ichi ddweud bod gweld sefyllfaoedd o'r fath yn rhywbeth sy’n newid eich bywyd mewn gwirionedd.
Angela Gorman yw sefydlydd yr elusen Life for African Mothers, a chafodd lawer iawn o gymorth gan y rhaglen Cymru o Blaid Affrica, am ei bod wedi cefnogi ei secondiad o'r uned gofal dwys newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, ac wedi rhoi arian grant i’w gweithgareddau i hyfforddi bydwragedd a darparu meddyginiaethau. A diolch i'r grant cychwynnol gan Gymru o Blaid Affrica, llwyddodd yr elusen i ffynnu ac erbyn hyn nid yw'n dibynnu ar unrhyw grantiau gan y rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Onid yw ef yn meddwl bod hyn yn ddilyniant delfrydol: dechrau â grantiau bach i helpu mudiadau i dyfu, ac yna maent yn dod o hyd i ffynonellau cyllid eraill ac yn datblygu?
Yn ogystal â chymorth gan raglen Cymru o Blaid Affrica, mae Angela yn sôn yn benodol am bolisi absenoldeb arbennig y GIG yng Nghymru fel bod yn gwbl hanfodol i ddefnyddio gweithwyr proffesiynol Cymru i gefnogi systemau hyfforddiant ac iechyd yn Affrica. Ac roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw'r rhaglen absenoldeb honno’n cael ei defnyddio’n gyson ledled Cymru ac a yw'n teimlo bod hyn yn bendant yn rhywbeth yr hoffem ei annog.
Yn olaf, rwy’n meddwl bod marwolaeth drasig menywod ar ôl rhoi genedigaeth yn ôl pob tebyg yn un o'r trasiedïau mwyaf ofnadwy y gellir bod yn dyst iddynt, a hoffwn wir fynegi fy nghefnogaeth a’m diolch i'r holl fudiadau hynny, gan gynnwys Life for African Mothers, sydd wedi gwneud eu gorau glas i geisio gwella'r sefyllfa yn Affrica Is-Sahara.
Diolch i'r Aelod am roi sylw arbennig i hynny. Rwyf am ddechrau â’ch pwynt am absenoldeb arbennig. Mae'r rhain, gan fwyaf, yn weision cyhoeddus sy'n mynd allan ac yn ymgymryd â'r cyfleoedd dysgu rhyngwladol hyn—nid gweision cyhoeddus ydynt i gyd, serch hynny. Fel yr oeddwn yn gadael, daeth grŵp newydd i mewn, ac roedd un yn gynghorwr a oedd wedi cymryd amser allan o'i ddyletswyddau cyhoeddus i fynd, ac roedd un arall o’r Groes Goch Ryngwladol. Felly, roedd gennych wahanol grwpiau o bobl, ond mae'r polisi absenoldeb arbennig yn bwysig iawn i ganiatáu i bobl gymryd y cyfleoedd hynny a dod yn ôl gyda, mewn gwirionedd, sgiliau newydd weithiau ond yn sicr ymroddiad newydd a ffres i wasanaeth cyhoeddus a'r bobl y maent yn gweithio drostynt ac yn eu gwasanaethu.
Rydych yn iawn i dynnu sylw at waith Angela Gorman. Cwrddais â hi cyn dod i'r lle hwn. Bydd Dawn Bowden yn gwybod bod Angela Gorman yn aelod o Unsain, a chefais gyfarfod â hi fel cynrychiolydd o fewn yr undeb llafur penodol hwnnw rai blynyddoedd yn ôl, pan oedd hi newydd ddechrau ymgymryd â’r rhaglen benodol hon. A gallech weld y gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud iddi hi am wneud gwahaniaeth mwy fyth mewn rhan arall o'r byd. Rhan o'r rheswm pam yr oeddem yn cefnogi'r rhaglen ambiwlans beic modur oedd ei fod yn caniatáu ac yn galluogi menywod i symud o ble yr oeddent i fynd i uned esgor go iawn yn rhywle. Ac a dweud y gwir, mae hynny wedi gwella canlyniadau'n sylweddol i fenywod a babanod yn y rhan honno o'r byd, ac mae rhai o'r awdurdodau dosbarth lleol wedi ei fabwysiadu a’i ariannu ar ôl iddynt gydnabod y budd sylweddol yr oedd wedi’i greu. Mae rhywbeth yn y fan yna, nid dim ond o ran annog grwpiau yma â rhywfaint o arian i'w helpu i ddatblygu, ond hefyd, mae effaith ein rhaglen yn golygu, weithiau, dechrau ac yna annog partneriaid lleol â’u cyfrifoldebau eu hunain i gynnal y gwasanaeth hwnnw eu hunain. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr oeddwn yn cyfeirio ato o ran gwneud dewisiadau, ynghylch yr angen i’r bobl hynny wneud eu dewis eu hunain am eu hadnoddau a'u cyfrifoldebau eu hunain hefyd, ond mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth wirioneddol er mwyn iddi fod yn ystyrlon. Felly, rwy'n fwy na pharod i gydnabod ac atgyfnerthu'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod.
Ac yn olaf, John Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu mynd i Mbale i weld drosoch eich hun, yn uniongyrchol, gwaith da iawn y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yno, ac, yn wir, i helpu i gryfhau'r cysylltiadau. Roeddwn yn ffodus i fynd yno fy hun ychydig flynyddoedd yn ôl fel Gweinidog yr amgylchedd, ac rwy'n gyfarwydd â gwaith gwych PONT a’r holl wirfoddolwyr hynny o Bontypridd sydd wedi helpu gydag iechyd, addysg, yr economi a datblygu cymunedol yno, gan gydweithio'n agos â’r bobl leol a’r asiantaethau ar lawr gwlad. Gwelais hefyd raglen Maint Cymru, a'i holl waith gwych o blannu coed, a rhai prosiectau masnach deg da iawn. Felly, hoffwn ofyn, mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet: o ystyried bod gan Gymru stori dda iawn i'w hadrodd am fasnach deg—y genedl fasnach deg gyntaf yn y byd yn ôl yn 2008, gyda'r holl grwpiau cymdeithas sifil hynny'n cyflawni’r statws hwnnw gyda chymorth Llywodraeth Cymru, 90 o gymunedau, trefi, eglwysi a phrifysgolion masnach deg ledled Cymru bellach, a'r gyfran uchaf o ysgolion masnach deg o unrhyw wlad yn y DU—o ystyried y cryfder hwnnw, ac ar ôl mynd i Mbale a gweld cydweithfa goffi yno, cydweithfa goffi Gumutindo, yn gwneud pethau gwych gyda'r premiwm masnach deg—. Roeddwn yn aros gydag un o'r ffermwyr a chefais glywed eu bod wedi gallu anfon eu mab i brifysgol, y tro cyntaf i aelod o'u teulu fynd i brifysgol, a’u bod wedi gallu gwneud hynny gyda'r premiwm masnach deg. O ystyried y pwysigrwydd hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn cytuno â mi, gyda Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gobeithio, y gallwn weld mwy o gyrff cyhoeddus yng Nghymru’n sbarduno’r cynnydd hwnnw gyda masnach deg. Rydym yn gweld marchnata’r coffi o Mbale yng Nghaerdydd yn y siop Fair Do’s, er enghraifft. Rydym yn gweld bod gan Ysgol Uwchradd Cathays wisg masnach deg erbyn hyn, ac, yn wir, mae bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf yn defnyddio mwy o gynnyrch masnach deg yn eu caffis eu hunain. Felly, mae'r enghreifftiau i’w gweld. A ydych chi’n cytuno y dylem sbarduno'r cynnydd hwnnw bellach drwy'r Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol yn y dyfodol?
Ydw, rwy'n hapus i gydnabod a chefnogi'r sylwadau y mae'r Aelod yn eu gwneud, nid yn unig oherwydd fy mod yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol, ond mae llawer o bobl ar draws y Siambr o wahanol bleidiau yn gefnogwyr gweithgar masnach deg, ac nid dim ond yn ystod Pythefnos Masnach Deg, ond yn y dewisiadau unigol yr ydym yn eu gwneud am y nwyddau yr ydym yn eu prynu a’u defnyddio, ac rydych yn iawn i dynnu sylw at goffi fel enghraifft benodol. Ymwelais â grŵp o bobl a oedd wedi cael achrediad masnach deg—cydweithfa wahanol, ond rydych yn iawn i dynnu sylw at gydweithfa Gumutindo, sy’n un o'r rhai mwyaf, ac mae'r premiwm masnach deg wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i deuluoedd a chymunedau ehangach y ffermwyr hynny. Felly, mae'n atgyfnerthu'r pwynt bod y dewisiadau a wnawn yn y wlad hon, am y ffordd yr ydym yn caffael ac yn defnyddio gwahanol nwyddau, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn ar draws gweddill y byd. Ac mae'n rhan o'r gwaith a wnawn wrth annog pobl i fod eisiau sicrhau achrediad masnach deg, i gael gwir fudd o’r premiwm wedyn.
Felly, gallwn fod yn falch o'r hyn yr ydym wedi ei wneud. Gallwn hefyd ddweud bod mwy y gallem ei wneud ac y dylem ei wneud, nawr yma yng Nghymru, ynghyd â'n partneriaid o amgylch gweddill y byd.