3. Cwestiwn Brys: Gwasanaethau Paediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:29, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet cystal â dweud pa ran o'r adolygiad y mae newydd gyfeirio ato sy’n dweud y byddai lleihad i wasanaeth oriau swyddfa, sy’n cau am chwech o'r gloch yn dderbyniol, oherwydd nid wyf yn cofio hynny yn yr adolygiad o gwbl? Dywedwch wrthym os mai dyna sy’n wir. Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o’ch penderfyniad—penderfyniad eich Llywodraeth—i gymeradwyo cau’r gwasanaeth pediatrig 24 awr ar anallu presennol Hywel Dda i recriwtio, i wasanaeth pediatrig 12 awr—ac sy’n lleihau? Mae’n rhaid bod cysylltiad, oherwydd bod y meddygon ymgynghorol gorau eisiau gweithio yn y gwasanaeth 24 awr, lle bydd cymorth ar gael iddynt, a byddan nhw’n gweld hynny yn rhan o'r gefnogaeth. Pan godwyd hyn ddiwethaf, gofynnais i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddai gennych chi ffydd, fel rhiant, yn y gwasanaethau a ddarparwyd yn Ysbyty Llwynhelyg o dan yr hen drefn. O ran y cau newydd arfaethedig, ni allaf i, yn sicr, sefyll a chefnogi hyn, a gofynnaf i chi weithredu.