– Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2016.
Galwaf ar Eluned Morgan i ofyn yr ail gwestiwn brys.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr opsiynau a gyflwynodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i leihau gwasanaethau paediatrig dros dro yn Ysbyty Llwynhelyg? EAQ(5)0077(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Yn ei gyfarfod bwrdd cyhoeddus ar 24 Tachwedd, bydd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ystyried dewisiadau ar gyfer newidiadau dros dro i oriau agor yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. Mater gweithredol i'r bwrdd iechyd yw hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch chi’n ymwybodol iawn o bryderon y trigolion yn Sir Benfro o ran y newidiadau i’r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu yno. Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn trafod cyfres o ddewisiadau ddydd Iau sy'n ceisio lleihau oriau agor yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg oherwydd anawsterau recriwtio. Mae cau'r uned bediatrig yn llwyr ymhlith y gyfres o ddewisiadau, a fyddai'n gwbl annerbyniol i mi ac i'r bobl yr wyf i’n eu cynrychioli.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ofyn i'r bwrdd iechyd, fel yr wyf i wedi ei wneud, sut y bydd mam sengl sy'n byw yn Abergwaun gyda thri o blant ac un ohonynt yn sâl, heb unrhyw gludiant ac sydd ar incwm isel, yn mynd i gyrraedd Glangwili yng Nghaerfyrddin ac yn ôl ar ôl 6 o'r gloch y nos. Gall y rhai sy'n cyrraedd mewn ambiwlans ddisgwyl talu tua £100 mewn tacsi i fynd adref neu wynebu taith pedair awr ar gludiant cyhoeddus. A wnewch chi bwyso ar y bwrdd iechyd ar y mater cludiant hwn rhwng yr ysbyty a’r cartref yn ystod y cyfnod cau dros dro hwn os gwelwch yn dda? A wnewch chi ofyn i'r bwrdd iechyd sicrhau bod yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i asesu'r holl gleifion, waeth beth fo'u hoedran? A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi’r broses o recriwtio i swyddi sydd eu hangen ar frys yn yr uned bediatrig yn Hwlffordd? Yn olaf, a wnewch chi ofyn i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd pendant mai sefyllfa dros dro yn unig yw hon?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau dilynol. O ran eich pwynt cyntaf, y gwnaethoch yn gynharach, hefyd, ynglŷn â’r posibilrwydd o gau yn llwyr, nid dyna'r dewis a fwriedir. Rwyf wedi gweld mai’r dewis a argymhellir, mewn gwirionedd, yw lleihau nifer yr oriau am gyfnod dros dro, cyn dychwelyd i uned triniaethau dydd 12 awr, gyda chymorth meddygon ymgynghorol yn ogystal ar rota o Glangwili. Rwy'n glir mai dyna yw’r dewis a ffefrir ganddyn nhw, a byddaf i fy hun yn holi’r bwrdd iechyd i sicrhau mai dyna'r dewis y maen nhw’n ei fwriadu—lleihau oriau dros dro a chynllun i ddychwelyd i'r gwasanaeth blaenorol.
Yn wir, rwy’n hapus i roi sicrwydd i chi am y pwynt fy mod i’n disgwyl i bob ysbyty ag uned damweiniau ac achosion brys gynnal asesiad priodol o bob claf a ddaw drwy'r drws a deall ble yw'r man mwyaf priodol ar gyfer y cam nesaf o’r gofal. Mae'n bosibl y gellir eu gweld, eu trin a'u rhyddhau ar yr adeg honno, efallai y bydd angen gofal pellach arnyn nhw yn y lleoliad hwnnw neu yn rhywle gwahanol, ac rwyf yn disgwyl i hynny barhau i fod yn wir.
Credaf mai’r pwynt cyntaf, fodd bynnag, yw bod hyn oherwydd heriau recriwtio. Dyma’r gwirionedd real ac anochel—os nad ydych chi’n gallu recriwtio'r staff, ni allwch ddarparu gwasanaeth diogel. Felly, rwy'n falch eu bod wedi gwneud rhywfaint o recriwtio. Maen nhw’n cynnal cyfweliadau pellach, ac mae'n wirioneddol bwysig bod hynny'n llwyddiannus. A dweud y gwir, mae gan bob un ohonom ni waith i'w wneud i gefnogi'r bwrdd iechyd i’w wneud yn lle deniadol i ddod i weithio iddo, gyda model o ofal y mae meddygon ymgynghorol yn awyddus i weithio ynddo, lle mae meddygon gradd ganol yn awyddus i weithio, a lle mae hyfforddeion eisiau bod yn rhan o'r amgylchedd gwaith hefyd, gyda chymorth grŵp o staff nyrsio sydd â rhagor o sgiliau i wneud mwy nag y gallai nyrsys ei wneud yn y gorffennol. Bydd ymarferwyr nyrsio pediatrig Uwch yn rhan o ddyfodol gofal yn y rhan hon o Gymru a gweddill Cymru. Ac rwy’n hapus i ddangos fy mod i’n disgwyl i'r bwrdd iechyd ymdrin yn briodol â materion cludiant hefyd. Rwy’n deall ei fod yn bryder gwirioneddol iawn, nid dim ond yn y gorllewin, ond mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd, bod angen i fynediad, mynediad ffisegol at wasanaethau, fod ar gael hefyd. Felly, rwy'n falch o weld eich bod wedi dod â’r mater hwn yn uniongyrchol i sylw’r bwrdd iechyd a byddaf yn hapus i gysylltu â nhw wedyn i sicrhau y byddwch yn cael ateb i’ch cwestiynau.
Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, gwnaethoch chi’n glir yn y Siambr hon, ac yr wyf yn dyfynnu, mae teuluoedd lleol yn cael eu sicrhau y gallant barhau i gael gafael ar wasanaethau fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd ac nad oes angen iddyn nhw wneud newidiadau i’r modd y maen nhw’n cael gafael ar ofal.’
Wel, nid yw’n edrych fel petai hynny'n wir yn y tymor byr, pe byddai’r newidiadau hyn yn mynd yn eu blaenau. Unwaith eto, bydd pobl Sir Benfro yn gweld mwy a mwy o wasanaethau yn cael eu tynnu oddi ar eu hysbyty lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn synnu fy mod i’n credu bod teuluoedd yn Sir Benfro yn haeddu uned baediatreg llawn amser yn eu hysbyty lleol. Nawr, fe wnaethoch ei gwneud yn glir bythefnos yn ôl na fyddai'n ddoeth ceisio adfer gwasanaeth triniaethau dydd pediatrig 24 awr, ond does bosib, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych chi’n cefnogi o ddifrif unrhyw newidiadau a fydd yn arwain at wasanaeth nad yw ond ar agor yn ystod oriau swyddfa. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i ni heddiw y bydd y newidiadau hyn, os byddan nhw’n mynd yn eu blaenau, yn rhai dros dro yn unig?
Nawr, fel y gwyddom, Llywodraeth Cymru flaenorol gymeradwyodd y lleihad i’r gwasanaeth pediatrig llawn amser yn ysbyty Llwynhelyg yn y lle cyntaf. Felly, a ydych chi’n cytuno â mi y gallai lleihau gwasanaethau mewn ysbyty effeithio ar gynaliadwyedd y gwasanaethau hynny sy’n dal yno? Felly, a allwch chi roi sicrwydd cwbl bendant na fydd unrhyw effaith ar gynaliadwyedd y gwasanaethau eraill, ac a ydych chi hefyd yn cytuno â mi bod angen ymyrryd ar frys nawr i ddiogelu’r gwasanaethau eraill hynny? Ac yn olaf, Lywydd, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi ei gwneud yn glir bod unrhyw benderfyniadau a wnaed ynghylch Ysbyty Llwynhelyg wedi eu seilio ar gyngor arbenigol. Fel y gwyddoch, mae’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, sydd hefyd yn arbenigwyr, wedi cymeradwyo adroddiad y GIG yn Lloegr sy'n datgan,
Mae'n rhaid i ysbytai sy'n darparu gofal brys i blant fod â chyfleusterau pediatrig cynhwysfawr, gwasanaeth pediatrig ddydd a nos bob dydd o’r wythnos a nyrsio pediatrig a chymorth anestheteg.
Yn sgil y sylwadau hynny, a fyddwch chi bellach yn newid polisi eich Llywodraeth a cheisio adfer gwasanaethau pediatrig llawn amser yn ysbyty Llwynhelyg?
Rwy'n hapus i’ch sicrhau nad oes angen i deuluoedd lleol newid eu modd o gael gafael ar ofal. Byddwch chi wedi fy nghlywed yn ateb cwestiwn Eluned Morgan, ac yn arbennig y pwynt am gludiant a chael gafael ar ofal, ac, yn wir, os oes angen i blentyn gael ei gludo i rywle gwahanol i gael gofal, dylai’r bwrdd iechyd, ynghyd ag ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru, sicrhau bod y trefniadau hynny ar gael—a bod y potensial hwnnw wedi’i gynllunio, yn hytrach nag aros i sefyllfa godi nad yw wedi ei rhagweld.
Rwyf yn hapus i ailadrodd y pwynt a wnaeth Eluned Morgan eto: mai newid dros dro a gynlluniwyd yw hwn mewn ymateb i anallu i recriwtio yn y tymor byr, gyda recriwtio pellach wedi’i gynllunio. Nid wyf yn derbyn nac yn cydnabod eich pwynt bod angen ymyrryd ar frys i ddiogelu gwasanaethau eraill. Mae ceisio ehangu hyn a lledu rhagor o ddrwgdybiaeth ac ofn am ddyfodol y gwasanaethau hynny yn anghyfrifol iawn yn fy marn i. Wrth sôn am weithredu ar gyngor arbenigol, byddwch chi wrth gwrs yn gwybod, mewn llawer o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, bod cymorth pediatrig yn cael ei ddarparu gan staff nyrsio arbenigol sydd â’r cymwysterau priodol ac sy’n darparu cymorth i adrannau damweiniau ac achosion brys i barhau; nid yw hynny’n fodel gwasanaeth anarferol.
Yn wir, rydym yn dychwelyd i graidd argymhellion y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant am beth yw gwasanaeth priodol a beth yw'r gwasanaeth gorau posibl i’w ddarparu yn y rhan hon o Gymru. Ac yn wir, mae’r argymhellion hynny yn yr adolygiad hwnnw yn dangos nad yw’r model blaenorol yn ddiogel, nac yn gynaliadwy ac nad yw’r peth iawn i wneud i gleifion. Ailadroddaf: Rwyf yn cael fy arwain gan gyngor arbenigol yn y maes hwn, gan bobl sy'n deall yr angen i gynnal y gwasanaethau hyn yn ddiogel ac yn effeithiol, gan bobl sydd wedi cynnal y gwasanaethau hyn yn ddiogel ac yn effeithiol mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys mewn mannau gofal iechyd sylweddol wledig, ac ni fyddaf yn dychwelyd i system y dywed y cyngor arbenigol hwnnw y byddai'n wasanaeth gwaeth a fyddai’n cyflawni canlyniadau gwaeth i bobl Sir Benfro; credaf eu bod yn haeddu llawer gwell na hynny.
A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet cystal â dweud pa ran o'r adolygiad y mae newydd gyfeirio ato sy’n dweud y byddai lleihad i wasanaeth oriau swyddfa, sy’n cau am chwech o'r gloch yn dderbyniol, oherwydd nid wyf yn cofio hynny yn yr adolygiad o gwbl? Dywedwch wrthym os mai dyna sy’n wir. Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o’ch penderfyniad—penderfyniad eich Llywodraeth—i gymeradwyo cau’r gwasanaeth pediatrig 24 awr ar anallu presennol Hywel Dda i recriwtio, i wasanaeth pediatrig 12 awr—ac sy’n lleihau? Mae’n rhaid bod cysylltiad, oherwydd bod y meddygon ymgynghorol gorau eisiau gweithio yn y gwasanaeth 24 awr, lle bydd cymorth ar gael iddynt, a byddan nhw’n gweld hynny yn rhan o'r gefnogaeth. Pan godwyd hyn ddiwethaf, gofynnais i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddai gennych chi ffydd, fel rhiant, yn y gwasanaethau a ddarparwyd yn Ysbyty Llwynhelyg o dan yr hen drefn. O ran y cau newydd arfaethedig, ni allaf i, yn sicr, sefyll a chefnogi hyn, a gofynnaf i chi weithredu.
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae wedi eu gwneud. Nawr, rwyf am ddychwelyd at y ffaith ein bod yn sôn am y dewisiadau ar gyfer newid dros dro i'r gwasanaeth, a dyna'r pwynt. Nid yw ceisio trafod hyn fel pe byddai wedi’i benderfynu ar gyfer dyfodol hirdymor y gwasanaeth, yn syml, yn cynrychioli’r sefyllfa. Nid dyna, yn syml, beth y mae'r bwrdd iechyd yn cynnig ei wneud. Ac mae’n bwysig iawn bod Aelodau unrhyw blaid a phob plaid wleidyddol yn ymddwyn mewn modd cyfrifol am ddewisiadau pwysig iawn i deuluoedd yn ardal Sir Benfro. Ac felly, newid dros dro yw hynny.
Yr uchelgais hirdymor yw cael gwasanaeth 12 awr am saith diwrnod yr wythnos, wedi’i staffio yn briodol a’i gefnogi, yn y gymuned a gan feddygon ymgynghorol, yn y ffordd y mae'r rota yn gweithio—unwaith eto, trwy ddilyn y cyngor arbenigol gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Mewn gwirionedd, os ydych chi’n darllen papurau’r bwrdd, ac os ydych chi’n darllen yr adolygiad blaenorol, maen nhw’n dangos, mewn gwirionedd, y byddai peidio â newid y model gwasanaeth yn ei gwneud yn fwy anodd recriwtio, gan olygu bod y gwasanaeth yn fwy bregus ac y byddai'n cyflawni canlyniadau gwaeth. Ac, yn wir, mae peidio â chyflawni’r newidiadau hyn yn golygu, mewn gwirionedd, y bydd y gallu i hyfforddi yn cael ei beryglu hefyd. Rhan o'r cwynion sydd gan hyfforddeion ar hyn o bryd yw nad oes digon o waith iddyn nhw wneud eu hyfforddiant yn briodol ac yn gywir.
Felly, mae pwynt gwirioneddol yma am hyfforddiant o ansawdd uchel, ond hefyd gwasanaeth sy’n darparu’r canlyniadau gorau mewn gwirionedd, wedi’u seilio ar y dystiolaeth a'r cyngor gorau. A byddaf yn cefnogi pob bwrdd iechyd yng Nghymru mewn darparu gofal iechyd ar y sail honno, i gyflawni'r canlyniadau iawn i bobl ym mhob rhan unigol o'r wlad.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf—neu byddwn i’n gobeithio nad oes unrhyw un yn yr ystafell hon a fyddai'n derbyn penderfyniad y bwrdd iechyd i gymryd y camau priodol yn yr achos hwn. Oherwydd yn yr achos hwn, fel y mae pethau ar hyn o bryd ar lawr gwlad, ymddengys, yn anffodus, y gallai diogelwch cleifion, sy’n gorfod bod y flaenoriaeth fwyaf, fod mewn perygl. A hynny, yn syml, yn sgil y problemau recriwtio y mae nifer o bobl wedi eu crybwyll y prynhawn yma.
Felly, dyma fy nghwestiwn: Rwyf eisiau gwybod a fu sgwrs—rwyf innau yn sicr wedi ysgrifennu at Hywel Dda, ac wedi siarad â nhw—am recriwtio’r meddyg ymgynghorol pediatrig hwnnw i'r uned triniaethau dydd pediatrig. Ond rwy’n credu hefyd bod darlun ehangach y mae angen mynd i'r afael ag ef yma, ac rydych wedi cyfeirio ychydig ato, a hwnnw yw’r gofal sy'n digwydd yn y gymuned, oherwydd mae llawer iawn o'r plant sy'n cael mynediad at ofal yn ysbyty Llwynhelyg yn blant sydd angen gofal hirdymor. Ac, yn aml iawn, rheoli argyfwng eu cyflwr hirdymor sy'n arwain atyn nhw’n cyrraedd ysbyty Llwynhelyg mewn modd anamserol ac annisgwyl. Rwy’n cofio, pan oeddem ni’n dau yn yr uned bediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg, bod sôn am symud ymlaen i gyflenwi'r gofal hwnnw, yn aml iawn yng nghartrefi’r plant hynny, fel nad oes angen iddyn nhw deithio o gwbl. Felly, rwy’n credu bod angen i ni ehangu'r drafodaeth. Rwy’n credo bod pobl yn pryderu’n fawr, ac yn bennaf rhieni'r plant yr wyf newydd eu disgrifio yw’r rhain. Felly, os oes gennych chi unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny, byddwn i’n ddiolchgar iawn.
Diolch i chi am y pwyntiau a wnaed. Ac, unwaith eto, rwy’n cydnabod ac yn cofio yr un sgwrs am wella'r gwasanaeth cymunedol ym maes pediatreg, i sicrhau bod gofal plant yn cael ei ragweld a'i reoli’n briodol. Mae'n llawer gwell i deuluoedd ac yn llawer gwell i'r plentyn i sicrhau, lle bynnag y rhoddir y gofal hwnnw, ei fod yn cael ei roi mewn modd a gynllunnir cyn belled ag y mae hynny’n bosibl. Ac mae’n rhaid i hynny fod yn gyfeiriad y daith, nid yn unig yn Sir Benfro, ond ledled y wlad, mewn lleoliadau gwledig eraill, ond hefyd mewn lleoliadau trefol ac yn y Cymoedd. Dyma’r peth iawn, mewn gwirionedd, i'w wneud ar gyfer y plentyn yn y cyd-destun cyfan hwnnw.
Rwy’n hapus i ddychwelyd at y pwynt am recriwtio. Newid dros dro a gynlluniwyd yw hwn, mewn ymateb i fethu â recriwtio, ac mae cyfweliadau yn cael eu trefnu ddechrau mis Ionawr i geisio llenwi'r swyddi gwag penodol. Ac rwy’n credu eich bod yn iawn i’n hatgoffa ni i gyd mai’r peth gwaethaf y gall y bwrdd iechyd ei wneud yw peidio â gweithredu yn wyneb prinder staffio. Byddai hynny'n golygu rhedeg mewn diffyg—byddai’n golygu cynnal gwasanaeth lle nad wyf i’n credu y gallai nac y dylai gweithwyr proffesiynol unigol fod â sicrwydd, neu hyd yn oed y bwrdd iechyd fod â sicrwydd, eu bod yn darparu gwasanaeth diogel o ansawdd uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu mewn gwirionedd. Felly, mae angen gweithredu. Rwy'n falch bod y bwrdd iechyd yn gweithredu, o ran y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw a’u dewis am beth i'w wneud gyda'r gwasanaeth yn awr, ond hefyd yn y dyfodol tymor hwy, yn y gymuned ac yn lleoliad yr ysbyty hefyd.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod pryder cyffredinol ar draws rhaniad y pleidiau yn y Cynulliad hwn ynglŷn â’r sefyllfa anffodus hon. Ac mae hyn yn codi oherwydd ei fod yn cyd-amseru ag ymddeoliad meddyg ymgynghorol pediatrig yn Sir Benfro ac absenoldeb un arall ar gyfnod mamolaeth. Does bosib nad yw’n rhesymol rhagweld ymddeoliad un meddyg ymgynghorol pediatrig, a dylid bod gwneud rhyw ddarpariaeth ar gyfer y sefyllfa hon. Mae llawer o bobl yn Sir Benfro sy'n credu bod hyn yn rhan o gynllun hirdymor i gau’r gwasanaethau hyn, oherwydd, dair blynedd yn ôl, lleihawyd y gwasanaeth o 24 awr i 12 awr—nawr mae wedi ei leihau i wyth awr. Newid dros dro, yn ôl pob golwg, yw hyn, ond pwy a ŵyr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sicrwydd petrus ni, ond ar y llaw arall wedi dweud nad ei gyfrifoldeb na’i benderfyniad ef yw hwn mewn gwirionedd—cyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol ydyw. Dyma fwrdd sydd mewn categori ymyrraeth wedi’i thargedu. Pam nad yw'r Ysgrifennydd Iechyd yn targedu ei ymyrraeth ar yr angen dybryd iawn hwn, a fydd yn effeithio, yn arbennig, ar bobl yng ngogledd Sir Benfro a gorllewin Sir Benfro, oherwydd mae Glangwili yn ffordd bell iawn i fynd, yn enwedig yn hwyr yn y nos?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae wedi eu gwneud, sydd i raddau helaeth yn ailddatgan y pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill o ran y cwestiynau. Rwy'n hapus i nodi unwaith eto bod y bwrdd iechyd yn nodi mai eu dewis nhw yw cael newid dros dro yn y gwasanaeth i adlewyrchu'r ffaith nad ydyn nhw’n gallu darparu meddygon ymgynghorol drwy’r amser er mwyn gallu darparu’r model gofal yn ddiogel i blant a'u teuluoedd. Mae'n bwysig i mi, fel yr wyf yn disgwyl y bydd i bawb arall yn y Siambr hon, y caiff y gwasanaeth ei ddarparu mewn modd sy'n briodol o ddiogel, ac nad ydym yn cymryd risgiau gyda phlant a'u teuluoedd yn y modd y darperir gofal. Rwy’n disgwyl i'r bwrdd iechyd gadw at ei ymrwymiad i ddychwelyd i wasanaeth 12 awr. Rwy’n disgwyl i'r bwrdd iechyd gadw at ei ymrwymiadau i wneud pob ymdrech resymol i recriwtio pobl i’r gwasanaeth hwn, ac i reoli a cheisio cynllunio yn briodol ar gyfer absenoldebau ac ymddeoliadau staff a ragwelir. Gwyddom fod hwn yn faes lle y ceir pwysau arbennig ledled y Deyrnas Unedig, ond mae'n her y bydd angen i’r bwrdd iechyd hwn ac eraill ei rheoli.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.