Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Mae Mark Isherwood yn codi cwestiwn sydd, wrth gwrs, yn cael ei ystyried drwy ymgynghoriad. Dyna'r ffordd yr ydym ni’n bendant yn awyddus i ddatblygu’r broses o lunio polisïau’r Llywodraeth: o ganlyniad i ymgynghori. Yn enwedig drwy ymgynghori ac ymgysylltu â'r rhai hynny sy'n arbenigwyr yn y maes, ac wrth gwrs dyna’r hyn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud.