Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn. Lywydd, heddiw rwyf wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru. Rwy’n awyddus i ailadrodd fy ngwerthfawrogiad am yr amser a'r ymdrech y mae'r Athro Diamond ac aelodau ei banel, o’r holl bleidiau gwleidyddol, y sector a diwydiant, wedi ei roi i’r adolygiad rhwng mis Ebrill 2014, a’r haf hwn.
Ers cyhoeddi'r adroddiad ym mis Medi, bu llawer o ddiddordeb gan bwyllgorau'r Cynulliad, rhieni, myfyrwyr, a'r sector addysg uwch ehangach, gan gynnwys arbenigwyr polisi a chyllid.
Rwy’n croesawu’r diddordeb, y gwaith craffu a’r ymgysylltiad adeiladol hwnnw. Yn wir, mae arsylwyr o fannau eraill yn y DU yn awgrymu ein bod ni yng Nghymru yn arwain y ffordd wrth symud cyllid addysg uwch yn sylfaenol tuag at system flaengar, sefydlog a chynaliadwy. Felly, rwyf wedi rhoi llawer iawn o ystyriaeth i oblygiadau ymarferol gweithredu argymhellion y panel adolygu, gan geisio sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd. Rwy'n glir bod angen setliad ariannu addysg uwch gynaliadwy a blaengar ar Gymru sy'n cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol.
Fel yr eglurais ar 27 Medi, cymeradwyodd y Cabinet yr egwyddorion a geir yn yr adroddiad, ond mae ein hymateb yn adeiladu ar ein hegwyddorion allweddol sefydledig: sef ein bod yn cynnal yr egwyddor o gyffredinoliaeth o fewn system flaengar, bod gennym ymagwedd system gyfan, bod y buddsoddiad hwnnw yn cael ei rannu rhwng y Llywodraeth a'r rhai sy'n elwa'n uniongyrchol, ein bod yn gwella hygyrchedd, yn mynd i'r afael â rhwystrau megis costau byw, a bod modd defnyddio’r cymorth i fyfyrwyr ledled y DU. Gallaf gadarnhau, yn amodol ar gymeradwyaeth lawn y Trysorlys, y byddwn yn gweithredu newidiadau i gyllid cymorth i fyfyrwyr, sy'n cwmpasu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser o 2018-19.
Yng nghyd-destun cyni yn y Deyrnas Unedig, yr unig ffordd o gyflawni newid sylfaenol i gymorth cynhaliaeth gwell a blaengar ar draws dulliau a lefelau astudio yw trwy ryddhau arian a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarparu grantiau ffioedd dysgu i israddedigion amser llawn. Gwnaeth adroddiad Diamond fodelu amrywiaeth o drothwyon incwm aelwydydd ar gyfer y rhai hynny sy'n gymwys i gael cymorth ar sail prawf modd. Rydym wedi penderfynu dewis y cynnig i osod y trothwy uchaf ar £59,200. Mae hyn yn gynnydd o tua £8,000 ar y trefniadau presennol ar gyfer profi modd. Rwyf o’r farn bod hwn yn drefniant teg a chynaliadwy. O dan y system arfaethedig hon, rydym yn disgwyl y bydd mwy na thraean o’r myfyrwyr o Gymru yn gymwys ar gyfer y grant uchaf a bydd y myfyriwr cyfartalog yn derbyn £7,000 y flwyddyn mewn cymorth grant. Bydd y system ddiwygiedig o gymorth yn golygu y bydd myfyrwyr yn derbyn yr hyn sy'n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol yn ystod y tymor tra byddant yn astudio, a’r lefel uchaf o gymorth yn fwy na £9,000 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a bydd fersiwn pro-rata ar gael i fyfyrwyr rhan-amser.
Rwy’n falch o gadarnhau bwriad y Llywodraeth i ddarparu'r system gyntaf yn y DU a bod yn fodel rhyngwladol o arfer gorau sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg yn ei gymorth i israddedigion amser llawn a rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig.
Fel y nodwyd yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog a’n rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i addysg bellach ac addysg uwch a thrwyddynt, gan gynnwys cyfleoedd amser llawn a rhan-amser a fydd o fudd i ddysgwyr o bob oedran, cyflogwyr a chymunedau. Mae ein hymateb yn cydnabod y consensws mai’r ofn o fethu â thalu eich costau byw o ddydd i ddydd, yn hytrach na'r posibilrwydd o dalu benthyciadau yn ôl ar ôl i chi gael gwaith, dyna'r broblem fawr ar gyfer cael mynediad a symud ymlaen trwy addysg uwch. Mae sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ein trefniadau addysg uwch a chyllid myfyrwyr yn hanfodol. Gallaf gadarnhau felly ein bod yn gweithredu, gyda dim ond mân newidiadau, y pecyn Diamond llawn, gan hefyd ddarparu difidend yn y dyfodol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch. Bydd hyn, wrth gwrs, yn amodol ar drafodaethau a phrosesau arferol y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb.
Mae'n bwysig nad ydym yn gweithredu polisi a fyddai'n arwain at ganlyniadau anfwriadol. Felly, ceir rhai meysydd lle’r wyf yn credu ei bod yn synhwyrol i'r Llywodraeth oedi ac ystyried y camau nesaf. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys argymhellion ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â'r grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gweithrediad taliadau cynhaliaeth misol, cymhellion i raddedigion, Gwasg Prifysgol Cymru, a rhannu risg rhwng y Llywodraeth, y sefydliad a’r myfyriwr. Rydym yn gwahodd y bobl hynny sydd â diddordeb penodol i ymgysylltu ar y materion hyn drwy'r ymarfer ymgynghori.
Yn yr un modd, o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae nifer o argymhellion sydd â goblygiadau ariannol y bydd angen eu hystyried yn rhan o rowndiau cyllidebu yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion ar gyllid ar gyfer ymchwil o ansawdd, trosglwyddo gwybodaeth, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a'r swm sydd heb ei neilltuo a ddyrannwyd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y gyllideb reolaidd. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda CCAUC er mwyn iddynt gael dealltwriaeth o'r goblygiadau ariannol rhagamcanol ar gyfer eu cyllideb.
Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd, rwyf wedi penderfynu cynnal y trothwy dwyster cyfredol ar gymorth ar gyfer astudio rhan-amser. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector ar ffyrdd o gefnogi a hyrwyddo astudio ar ddwyster is. Byddwn hefyd yn cynnal dulliau rheoli cymwysterau cyfredol cyfwerth neu is, ond yn ymrwymo i archwilio ymestyn y pynciau hynny a’r meysydd blaenoriaeth a fydd yn cael eu heithrio. Ochr yn ochr â chyhoeddi ein hymateb llawn, rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gyllid cymorth myfyrwyr. Rwy’n croesawu'r consensws a gafwyd wrth gefnogi egwyddorion adroddiad yr Athro Diamond, ac, yn yr ysbryd hwnnw, Lywydd, yr wyf yn awr yn ceisio barn ar y modd ymarferol o weithredu ein cynigion.
Lywydd, ceiniogau’r tlodion a helpodd i sefydlu ac adeiladu ein prifysgolion dinesig mawr. Unigolion, cymunedau a Llywodraethau blaengar yn ymgymryd â diwygio mawr a helpodd i agor addysg uwch drwy sefydliadau fel y Brifysgol Agored. Gwaith UCM Cymru, trwy eu hymchwil ‘Y Bunt yn Eich Poced’, a oedd yn ddigon dewr i ymdrin â blaenoriaethau ariannu myfyrwyr yn uniongyrchol. A’r Llywodraeth hon yn awr—gan weithio, gobeithio, gyda phartïon ar draws y Siambr—fydd yn sicrhau pecyn ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr sefydlog a chynaliadwy sy'n gallu helpu i drawsnewid bywydau ein dinasyddion a'n cenedl.