– Senedd Cymru am 3:04 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Rydym ni’n symud nawr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad Diamond o addysg uwch a chyllid myfyrwyr. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn. Lywydd, heddiw rwyf wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru. Rwy’n awyddus i ailadrodd fy ngwerthfawrogiad am yr amser a'r ymdrech y mae'r Athro Diamond ac aelodau ei banel, o’r holl bleidiau gwleidyddol, y sector a diwydiant, wedi ei roi i’r adolygiad rhwng mis Ebrill 2014, a’r haf hwn.
Ers cyhoeddi'r adroddiad ym mis Medi, bu llawer o ddiddordeb gan bwyllgorau'r Cynulliad, rhieni, myfyrwyr, a'r sector addysg uwch ehangach, gan gynnwys arbenigwyr polisi a chyllid.
Rwy’n croesawu’r diddordeb, y gwaith craffu a’r ymgysylltiad adeiladol hwnnw. Yn wir, mae arsylwyr o fannau eraill yn y DU yn awgrymu ein bod ni yng Nghymru yn arwain y ffordd wrth symud cyllid addysg uwch yn sylfaenol tuag at system flaengar, sefydlog a chynaliadwy. Felly, rwyf wedi rhoi llawer iawn o ystyriaeth i oblygiadau ymarferol gweithredu argymhellion y panel adolygu, gan geisio sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd. Rwy'n glir bod angen setliad ariannu addysg uwch gynaliadwy a blaengar ar Gymru sy'n cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol.
Fel yr eglurais ar 27 Medi, cymeradwyodd y Cabinet yr egwyddorion a geir yn yr adroddiad, ond mae ein hymateb yn adeiladu ar ein hegwyddorion allweddol sefydledig: sef ein bod yn cynnal yr egwyddor o gyffredinoliaeth o fewn system flaengar, bod gennym ymagwedd system gyfan, bod y buddsoddiad hwnnw yn cael ei rannu rhwng y Llywodraeth a'r rhai sy'n elwa'n uniongyrchol, ein bod yn gwella hygyrchedd, yn mynd i'r afael â rhwystrau megis costau byw, a bod modd defnyddio’r cymorth i fyfyrwyr ledled y DU. Gallaf gadarnhau, yn amodol ar gymeradwyaeth lawn y Trysorlys, y byddwn yn gweithredu newidiadau i gyllid cymorth i fyfyrwyr, sy'n cwmpasu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser o 2018-19.
Yng nghyd-destun cyni yn y Deyrnas Unedig, yr unig ffordd o gyflawni newid sylfaenol i gymorth cynhaliaeth gwell a blaengar ar draws dulliau a lefelau astudio yw trwy ryddhau arian a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarparu grantiau ffioedd dysgu i israddedigion amser llawn. Gwnaeth adroddiad Diamond fodelu amrywiaeth o drothwyon incwm aelwydydd ar gyfer y rhai hynny sy'n gymwys i gael cymorth ar sail prawf modd. Rydym wedi penderfynu dewis y cynnig i osod y trothwy uchaf ar £59,200. Mae hyn yn gynnydd o tua £8,000 ar y trefniadau presennol ar gyfer profi modd. Rwyf o’r farn bod hwn yn drefniant teg a chynaliadwy. O dan y system arfaethedig hon, rydym yn disgwyl y bydd mwy na thraean o’r myfyrwyr o Gymru yn gymwys ar gyfer y grant uchaf a bydd y myfyriwr cyfartalog yn derbyn £7,000 y flwyddyn mewn cymorth grant. Bydd y system ddiwygiedig o gymorth yn golygu y bydd myfyrwyr yn derbyn yr hyn sy'n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol yn ystod y tymor tra byddant yn astudio, a’r lefel uchaf o gymorth yn fwy na £9,000 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a bydd fersiwn pro-rata ar gael i fyfyrwyr rhan-amser.
Rwy’n falch o gadarnhau bwriad y Llywodraeth i ddarparu'r system gyntaf yn y DU a bod yn fodel rhyngwladol o arfer gorau sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg yn ei gymorth i israddedigion amser llawn a rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig.
Fel y nodwyd yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog a’n rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i addysg bellach ac addysg uwch a thrwyddynt, gan gynnwys cyfleoedd amser llawn a rhan-amser a fydd o fudd i ddysgwyr o bob oedran, cyflogwyr a chymunedau. Mae ein hymateb yn cydnabod y consensws mai’r ofn o fethu â thalu eich costau byw o ddydd i ddydd, yn hytrach na'r posibilrwydd o dalu benthyciadau yn ôl ar ôl i chi gael gwaith, dyna'r broblem fawr ar gyfer cael mynediad a symud ymlaen trwy addysg uwch. Mae sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ein trefniadau addysg uwch a chyllid myfyrwyr yn hanfodol. Gallaf gadarnhau felly ein bod yn gweithredu, gyda dim ond mân newidiadau, y pecyn Diamond llawn, gan hefyd ddarparu difidend yn y dyfodol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch. Bydd hyn, wrth gwrs, yn amodol ar drafodaethau a phrosesau arferol y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb.
Mae'n bwysig nad ydym yn gweithredu polisi a fyddai'n arwain at ganlyniadau anfwriadol. Felly, ceir rhai meysydd lle’r wyf yn credu ei bod yn synhwyrol i'r Llywodraeth oedi ac ystyried y camau nesaf. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys argymhellion ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â'r grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gweithrediad taliadau cynhaliaeth misol, cymhellion i raddedigion, Gwasg Prifysgol Cymru, a rhannu risg rhwng y Llywodraeth, y sefydliad a’r myfyriwr. Rydym yn gwahodd y bobl hynny sydd â diddordeb penodol i ymgysylltu ar y materion hyn drwy'r ymarfer ymgynghori.
Yn yr un modd, o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae nifer o argymhellion sydd â goblygiadau ariannol y bydd angen eu hystyried yn rhan o rowndiau cyllidebu yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion ar gyllid ar gyfer ymchwil o ansawdd, trosglwyddo gwybodaeth, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a'r swm sydd heb ei neilltuo a ddyrannwyd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y gyllideb reolaidd. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda CCAUC er mwyn iddynt gael dealltwriaeth o'r goblygiadau ariannol rhagamcanol ar gyfer eu cyllideb.
Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd, rwyf wedi penderfynu cynnal y trothwy dwyster cyfredol ar gymorth ar gyfer astudio rhan-amser. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector ar ffyrdd o gefnogi a hyrwyddo astudio ar ddwyster is. Byddwn hefyd yn cynnal dulliau rheoli cymwysterau cyfredol cyfwerth neu is, ond yn ymrwymo i archwilio ymestyn y pynciau hynny a’r meysydd blaenoriaeth a fydd yn cael eu heithrio. Ochr yn ochr â chyhoeddi ein hymateb llawn, rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gyllid cymorth myfyrwyr. Rwy’n croesawu'r consensws a gafwyd wrth gefnogi egwyddorion adroddiad yr Athro Diamond, ac, yn yr ysbryd hwnnw, Lywydd, yr wyf yn awr yn ceisio barn ar y modd ymarferol o weithredu ein cynigion.
Lywydd, ceiniogau’r tlodion a helpodd i sefydlu ac adeiladu ein prifysgolion dinesig mawr. Unigolion, cymunedau a Llywodraethau blaengar yn ymgymryd â diwygio mawr a helpodd i agor addysg uwch drwy sefydliadau fel y Brifysgol Agored. Gwaith UCM Cymru, trwy eu hymchwil ‘Y Bunt yn Eich Poced’, a oedd yn ddigon dewr i ymdrin â blaenoriaethau ariannu myfyrwyr yn uniongyrchol. A’r Llywodraeth hon yn awr—gan weithio, gobeithio, gyda phartïon ar draws y Siambr—fydd yn sicrhau pecyn ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr sefydlog a chynaliadwy sy'n gallu helpu i drawsnewid bywydau ein dinasyddion a'n cenedl.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n credu ei bod yn anhygoel eich bod wedi llwyddo i lunio ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad mor drwm ag adroddiad adolygiad Diamond mewn cyfnod mor fyr o amser. Rwy’n croesawu hefyd yr ymgynghoriad a fydd yn awr yn llifo o’ch ymateb; rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol bod yna gyfle ehangach ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar y cynigion yr ydych wedi’u hamlinellu.
Rwy’n synnu braidd eich bod wedi honni bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu, gyda dim ond mân addasiadau, y pecyn Diamond llawn. Yn sicr, rydych chi’n camu i gyfeiriad gweithredu pecyn Diamond, ond nid oes amheuaeth yn fy meddwl i bod y newid sylweddol yr ydych yn ei wneud i’r trothwy incwm uchaf ar gyfer cymorth trwy ei leihau gan £20,000 yn mynd i gael effaith ar y rhai hynny yn y canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol, yr oedd yr Athro Diamond yn benderfynol o’u diogelu, ac, yn wir, yr oedd y panelwyr eraill yn benderfynol o’u diogelu hefyd. Ac, yn ychwanegol at hynny, rydych wrth gwrs yn gwrthod nifer o’r argymhellion ar gyfer prentisiaethau a chymorthdaliadau ar gyfer cyrsiau addysgu ôl-radd cost uwch. Felly, gadewch i ni fod yn onest am hyn: nid yw'n gymeradwyaeth lwyr o adroddiad Diamond; mae rhai pethau mewn gwirionedd nad ydych chi’n mynd i’w gweithredu ar unwaith, ac mae rhai pethau yr ydych yn eu gwrthod yn llwyr.
Nawr, nid yw hynny'n dweud nad wyf yn croesawu llawer o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud a llawer o'r hyn sydd yn ymateb Llywodraeth Cymru. Croesawaf y ffaith eich bod yn edrych ar weithredu hyn yn y flwyddyn academaidd sy'n dechrau yn 2018. Credaf fod hwnnw'n ddyddiad pwysig y mae angen i ni weithio tuag ato. Croesawaf y ffaith eich bod yn ceisio cael y system ar sylfaen fwy cynaliadwy, ac, wrth gwrs, mae’r gostyngiad hwnnw yn y trothwy enillion uchaf yn ffordd bwysig o gyflawni hynny. Rwy’n deall, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd y newid yn y trothwy hwnnw yn arbed tua £40 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru pan fydd y cynnig yn cael ei weithredu'n llawn, ac, wrth gwrs, mae’r arbediad hwnnw yn ychwanegol at y £48.25 miliwn yn flynyddol yr oedd argymhellion gwreiddiol yr Athro Diamond yn dweud eu bod yn mynd i’w arbed. Ac rwy’n meddwl tybed ble y bydd yr £88,25 miliwn hwnnw yn cael ei ail-fuddsoddi. Gwnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad clir iawn na fyddai dim o'r arian hwnnw yn cael ei golli o’r gyllideb Addysg Uwch. Rwy’n amau y bydd yn ceisio osgoi rhai o'r ymrwymiadau hynny y mae wedi’u gwneud, oherwydd rydych chi a fi yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, bod angen i ni weld mwy o fuddsoddiad yn ein sefydliadau addysg bellach hefyd, ac i ehangu mynediad i addysg bellach a rhoi rhywfaint o gefnogaeth i fyfyrwyr yn ein system addysg bellach hefyd, yn enwedig os yw'r weledigaeth yr ydym ni i gyd yn ei rhannu yn y Siambr hon, sef gwneud addysg bellach yn gydradd ag addysg uwch, i’w gwireddu yn llwyr. Rwy'n falch iawn hefyd, wrth gwrs, i glywed bod y trefniadau cymorth ar gyfer astudio rhan-amser wedi’u cadarnhau ac, yn wir, y cymorth i ôl-raddedigion hefyd. Rwy’n meddwl eu bod yn ymrwymiadau pwysig iawn.
Soniasoch y bydd gweithgor yn edrych ar y mater hwn o gynaliadwyedd a pha un a ddylid cynnal y cysylltiad â’r cyflog byw cenedlaethol yn y dyfodol. Credaf fod hynny'n bwysig iawn—bod y cysylltiadau hynny yn cael eu cynnal—oherwydd yr hyn nad ydym yn dymuno ei weld yw chwyddiant yn erydu’r cyfleoedd y gall myfyrwyr eu cael i dderbyn y cymorth hwn yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid cael rhyw ffordd o gysylltu’r cymorth hwn â’r mynegai i wneud yn siŵr ei fod yn mynd i fod yno yn llawn yn y dyfodol.
Ond rwyf ychydig yn bryderus i ddarllen yn eich ymateb eich bod chi eisiau rheoli niferoedd myfyrwyr. Mae hynny'n awgrymu y bydd capiau ar fyfyrwyr sy'n mynd i fod yn gymwys i gael cymorth yn y dyfodol, a fydd yn cyfyngu ar fynediad at addysg uwch, ac yn wir yn cyfyngu ar ddewis y dysgwyr, a chredaf fod hynny’n anffodus iawn yn wir. A gaf i ofyn i chi hefyd, Weinidog, ai dyna yr ydych yn gobeithio ei gyflawni—rhyw fath o gap? Pwy sy'n mynd i fod yn rhan o’r gweithgorau hyn sy’n gwneud y penderfyniadau hynny? A fyddant yn drawsbleidiol? Dyna fu dull Diamond hyd yn hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cynnal peth gwaith trawsbleidiol ar y materion hyn, a byddwn yn hapus iawn i enwebu cynrychiolydd Ceidwadol pe byddech yn rhoi cyfle i ni wneud hynny.
Rwy'n siomedig i weld nad oes unrhyw warant ar gyfer isafswm o £5.8 miliwn o gyllid i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Gwn fod yna adolygiad, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond mae hynny'n argymhelliad y dywedasoch eich bod eisiau ymgynghori arno, ac ni allech warantu y byddai'r arian yno yn y dyfodol. Clywais yr hyn a ddywedasoch yn eich datganiad. Efallai y gallwch egluro beth fydd y sefyllfa yn y flwyddyn ariannol nesaf a hefyd yn y dyfodol. Byddwn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn yn wir.
Rydw i hefyd ychydig yn bryderus ynghylch y sylwadau ynglŷn â'r trothwy dwyster, oherwydd rwy’n gwybod eich bod chi a mi yn angerddol am wneud yn siŵr bod yr holl bobl o Gymru sydd am gael mynediad at gyfleoedd addysg uwch, gan gynnwys y rhai hynny y gallai fod angen iddynt ddilyn cyrsiau dwyster is, oherwydd eu sefyllfaoedd neu oherwydd anableddau, er enghraifft. Tybed a fydd canlyniad eich penderfyniad i beidio â symud ymlaen i ostwng y trothwy hwnnw, fel yr oedd yr Athro Diamond yn ei argymell, yn cael effaith anghymesur ar yr unigolion hynny a allai fod yn anabl neu fod â rhywfaint o anghenion dysgu neu anableddau.
Felly, rwy’n croesawu’r cyfeiriad hwn. Rwy'n credu bod llawer iawn sy'n dda yn yr ymateb yr ydych chi wedi’i gyhoeddi heddiw, ond rwy’n credu bod angen rhywfaint o eglurder ar y materion pwysig hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed gennych chi.
Diolch yn fawr iawn, Darren. A gaf i ddechrau trwy gydnabod y pwynt a wnaethoch ynghylch pa mor gyflym yr ydym wedi gallu llunio’r ymateb? Mae hyn o ganlyniad i waith caled anhygoel gan swyddogion yn yr adran. Maent wedi gweithio ar y cyflymder hwn oherwydd bod angen inni symud i sefyllfa fwy cynaliadwy ar gyfer ariannu myfyrwyr a'n sefydliadau cyn gynted â phosibl. Rwyf yn dymuno canmol y gwaith caled y maent wedi'i wneud ar hyn.
Dywed yr Aelod, Lywydd, ein bod yn arbed arian drwy beidio â gweithredu’r trothwy uwch o £80,000. Wrth gwrs, mae hynny'n arbediad tybiannol. Nid yw’r arian hwnnw’n bodoli. Awgrym oedd hwnnw o ble y dylai'r trothwy fod, felly nid yw'n gywir i’r Aelod ddweud bod hyn yn arbediad sydd wedi’i gronni.
Gadewch i mi fod yn gwbl glir: pan gyhoeddais adroddiad Diamond ym mis Medi, roeddwn i eisiau sicrhau cymorth sefydlog a chynaliadwy i fyfyrwyr a system gyllido addysg uwch ar gyfer ein gwlad. Rwyf wedi dadansoddi'r rhagamcanion diweddaraf ac rwyf wedi gorfod ystyried diogelu carfannau, y twf a ddisgwylir yn y cyflog cenedlaethol a rhagolygon chwyddiant, a hynny wrth gyflawni dros fyfyrwyr rhan-amser, amser llawn a myfyrwyr ôl-raddedig, ac rwyf wedi gorfod gwneud hynny yn ei holl agweddau. Mae'n golygu ei bod yn ofynnol cael peth hyblygrwydd yn y system, ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: bydd traean o’r myfyrwyr yng Nghymru yn cael y pecyn llawn o gymorth o dros £9,000. Bydd saith deg y cant o fyfyrwyr yng Nghymru yn derbyn rhywfaint o grant ar sail prawf modd o dan y system hon, a bydd y myfyriwr cyffredin yn derbyn oddeutu £7,000. Mae’n rhaid i mi ddweud, Darren, o ystyried yr hyn y mae eich plaid wedi ei wneud i grantiau cynhaliaeth dros y ffin, nad ydynt bellach ar gael, bod hyn yn cynrychioli bargen dda i fyfyrwyr Cymru yn yr hinsawdd bresennol yr ydym ynddi.
A gaf i droi at fater y ddau argymhelliad sydd wedi’u gwrthod? Y cyntaf yw prentisiaethau. Mae'r ardoll prentisiaethau a’r polisi prentisiaethau yn cael eu datblygu gan fy nghydweithiwr yn y Cabinet ac mae gennym ffordd ymlaen glir iawn o ran sut y byddwn yn cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i brentisiaethau ychwanegol yng Nghymru. Mae hynny’n cael ei ddatblygu ar wahân i'r cynigion hyn. O ran cost uwch, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rheoleiddio darpariaeth ôl-raddedig. Felly, ynghyd â'r egwyddor honno a'r diffyg data sydd ar gael am gost wirioneddol yr addysgu, nid ydym yn credu ei bod yn gynaliadwy i ddarparu cyllid ychwanegol yn y ffordd honno ar hyn o bryd, ond mae’r ymarfer ymgynghori yno i ymgysylltu â phobl ar rai o'r materion hyn.
Nid wyf yn bwriadu cyflwyno capiau ond, ar yr un pryd, ni allaf dynnu unrhyw beth o’r ystyriaeth yng ngwaith y grŵp hwnnw yn y dyfodol. Bydd y grŵp yn cynnwys swyddogion o’r tu fewn i’r Llywodraeth, ond bydd hefyd yn cael cyngor allanol gan y sector a chan y bobl hynny sydd â buddiant uniongyrchol yn hyn. Byddaf yn ystyried ymhellach a fyddaf yn estyn y gwahoddiad hwnnw i bleidiau gwleidyddol, ond bydd angen iddynt feddu ar wybodaeth fanwl o waith y sector addysg uwch cyn i mi ystyried hynny ymhellach.
A gaf i fod yn gwbl glir am ddyfodol y Coleg? Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud y penderfyniad i symud cyllid y Coleg oddi wrth CCAUC, ac ariannu'r Coleg mewn gwirionedd yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn gwneud hynny â swm o oddeutu £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol newydd. Mae'n fater a gafodd ei groesawu yn ddiweddar yn y pwyllgor—rwy’n sylweddoli nad oeddech chi yno. Croesawyd y mater hwn yn ddiweddar yn y pwyllgor ac mae wedi cael ei groesawu gan y Coleg ei hun.
Lefelau dwyster—rydym wedi cytuno i edrych ar lefelau dwyster yn dechrau ar 25 y cant, ond mae’r ymarfer ymgynghori yn gofyn yn benodol am sut y gallem reoli lefelau dwyster is yn y dyfodol. Ond rydym yn dechrau—am y tro cyntaf, bydd gennym barch cydradd ar gyfer ein myfyrwyr rhan-amser. Nid yw hynny wedi ei gyflawni o'r blaen. Nid yw ar gael yn unman arall yn y DU. Yn wir, nid wyf wedi gallu dod o hyd i wlad yn Ewrop sy'n darparu’r pecyn hwn ar draws yr holl ddulliau o astudio eto. Rydym ar flaen y gad. Gallaf ddweud wrthych fod swyddogion o Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon eisoes wedi bod ar y ffôn yn gofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r pecyn arloesol hwn o gefnogaeth.
O ran anabledd, rwyf am ei gwneud yn gwbl glir: byddwn yn parhau i ariannu taliadau arbenigol ar gyfer anabledd sydd ar gael o dan y system bresennol. Byddant yn parhau o dan y system newydd.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac ategu'r diolch eto, wrth gwrs, i’r Athro Diamond a’r grŵp fuodd wrthi yn paratoi'r adroddiad a’r argymhellion?
Rwy’n croesawu eich datganiad chi. Mae’n dda gweld y broses nawr yn symud at weithredu'r argymhellion. Mae hynny yn rhywbeth rwy’n siŵr y byddem ni i gyd yn ei groesawu. Rwyf hefyd yn croesawu’r pwynt canolog yr oeddech chi’n ei danlinellu nawr, sef bod astudio llawn-amser, rhan-amser ac ôl radd yn mynd i gael eu hystyried yn gydradd ac yn mynd i gael mynediad at gefnogaeth debyg i’w gilydd a bod hynny yn mynd i greu tirlun tipyn yn haws i’w ddeall hefyd i nifer o bobl lle, yn aml iawn, mae amrywiaeth wedi bod sy’n arwain at ddryswch a chymhlethdodau.
Rwy’n croesawu nifer o agweddau, yn arbennig y peilot rydych chi’n sôn amdano i edrych ar ymarferoldeb ymestyn y gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n astudio yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn sicr, mae hynny yn gydnaws ag un o alwadau polisi Plaid Cymru yn yr etholiad rai misoedd yn ôl. Efallai y byddwch chi’n gallu ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut rydych chi’n bwriadu ceisio cyflwyno’r peilot yna.
Rwy’n croesawu hefyd yr ymrwymiad rydych chi wedi’i roi yn yr adroddiad i addysg alwedigaethol a thechnegol uwch. Mae yna deimlad yn y Cynulliad y tro yma fod angen inni godi statws addysg alwedigaethol ar draws y sbectrwm. Rwy’n cymryd mai’r cam cyntaf mewn nifer o gamau yw hynny, ac mae hynny i’w groesawu.
Rwyf hefyd yn croesawu eich bod chi’n edrych ar fodel Cymreig o’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, oherwydd mae’r sefyllfa bresennol, rwy’n teimlo, yn llesteirio symud ar y cyflymdra y byddem ni’n licio ei weld. Mae’n gwneud hi’n anodd i ni, yma yng Nghymru, i ymateb i amgylchfyd sydd yn gallu newid oherwydd dylanwadau allanol, ac mae’n creu sefyllfa anodd.
Mae’n gyhoeddiad arwyddocaol, wrth gwrs, mewn sawl ffordd, ac efallai, gan mai sôn am sgopio opsiynau amgen rydych chi ar hyn o bryd, efallai y byddwch chi’n gallu ymhelaethu ynglŷn ag unrhyw amserlenni mwy manwl sydd gyda chi mewn golwg. Mae symud i daliadau misol a chefnogaeth i rhai ag anghenion penodol i gyd hefyd yn agweddau i’w croesawu.
Rydych chi’n dweud, wrth gwrs, ac rydych chi wedi dweud cyn hyn, eich bod chi am barhau i edrych ar lefel y ffioedd y mae sefydliadau addysg uwch yn cael eu codi yma yng Nghymru—wedi’i phennu ar £9,000 ar hyn o bryd, neu £9,250, wrth gwrs, yn Lloegr. Yn wyneb heriau ariannol difrifol—rŷm ni’n ymwybodol o hynny—ac yn wyneb y ffaith bod y sefydliadau yma yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol iawn, a allwch chi, efallai, rannu gyda ni pa ffactorau fydd yn dylanwadu ar eich ystyriaethau chi pan fyddwch chi’n edrych ar lefel y ffioedd yr ydych yn eu pennu? Oherwydd mae yna berygl—rydym ni’n ymwybodol ohono—fod y bwlch cyllido rhwng y sefydliadau yng Nghymru ac yn Lloegr yn agor. Mae yna bosibiliad y bydd yna ganfyddiad, efallai, fod ansawdd y cyrsiau yng Nghymru, oherwydd eu bod nhw’n rhatach, ddim cystal. Byddai ambell un, efallai, yn dweud y byddai mantais gystadleuol o gael ffioedd gwahanol—pwy a ŵyr? Yn ei hanfod, a ydych chi’n credu ei bod hi’n anochel, oherwydd yr hinsawdd yr ydym ni ynddi, os ydyn nhw yn codi ffioedd yn Lloegr, ar ryw bwynt bod yn rhaid iddyn nhw godi yng Nghymru, neu a ydych chi’n ystyried modelau amgen? Oherwydd mae’n anodd gweld, i bob pwrpas, sut mae modd gwrthsefyll hynny, mewn sawl ffordd.
Wrth gwrs, ni fyddai’n ddatganiad ar adroddiad gan yr Athro Diamond oni bai fy mod i’n codi’r angen i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru, ac i gadw'r myfyrwyr sydd yn astudio yng Nghymru yma, a’r angen i greu cymhelliad. Rydych chi’n dweud, wrth gwrs, yn eich ymateb i’r argymhellion eich bod chi’n parhau i edrych ar yr opsiynau, yn annog syniadau ac yn annog pobl i ymateb i’r ymgynghoriad. Ond, wrth edrych ar y ddogfen ymgynghorol, nid oes cyfeiriad penodol at greu cymhelliad i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru, hyd y gwelaf i. Nid wyf yn gwybod a yw hynny’n gamgymeriad, neu a ydych chi’n bwriadu, efallai, creu rhyw fath o broses ymgynghorol ar wahân—mae’n bosibl y gallwch chi ddweud wrthym ni.
Yn olaf, mae’r drafodaeth, neu ffocws y drafodaeth, ar gynaliadwyedd wedi bod yn un ariannol—yn bennaf, beth bynnag. A gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd wedi’i roi i’r tariff pwyntiau mynediad i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru? A yw’r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad ar hyn ac unrhyw arwyddocâd ehangach hynny i’r sector? Mae’r rhan fwyaf wedi gweld dirywiad yn y metrig yma, gyda tri o’n sefydliadau ni nawr â chyfartaledd o dan 300, a hynny, wrth gwrs, yn erbyn cefndir lle mae canlyniadau lefel A yn mynd i’r cyfeiriad arall. Byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa ddylanwad y mae hynny’n ei gael ar gynaliadwyedd y sector.
Llyr, a gaf i ddiolch i chi am eich sylwadau y prynhawn yma ac am eich parodrwydd i rannu syniadau ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â’r maes polisi hwn?
O ran y cynllun peilot, dydw i ddim eisiau rhoi terfyn ar ddyheadau unrhyw fyfyriwr o Gymru. Bydd eich cydweithiwr sy’n eistedd nesaf i chi wedi elwa’n aruthrol, rwy'n siŵr, o’i amser yn Harvard, ac rwy’n credu bod rhoi cyfleoedd i fwy o bobl yng Nghymru astudio mewn sefydliadau ar draws y byd er mwyn creu cenedl sy’n edrych tuag allan, ac rwy’n credu mai dyna ydym ni—rwyf eisiau hwyluso hynny os gallaf. Felly, byddwn ni’n gweithio ar gynllun peilot i ganiatáu i’r pecyn hwn o gymorth gael ei ddefnyddio ledled y DU gyfan, ond byddwn ni hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i ariannu myfyrwyr sydd eisiau mynd i Harvard, neu Sefydliad Technoleg Massachusetts, neu Sefydliad Technoleg Califfornia neu'r Sorbonne—yr holl sefydliadau rhagorol sy'n bodoli ar draws y byd. Mae'n rhan o Gymru yn bod yn genedl sy'n edrych tuag allan, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
O ran addysg bellach, mae ymateb y Llywodraeth heddiw yn cadarnhau y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i wella'r cydweithio strategol rhwng addysg bellach ac addysg uwch, ac mae hynny'n cynnwys ein blaenoriaethau a rennir sy'n cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf—cyllid i ddatblygu buddsoddiad mewn prentisiaethau lefel uwch, er enghraifft, yr wyf yn credu eu bod yn bwysig, a hefyd arian i gynyddu gallu colegau addysg bellach i gyflawni ar lefel 4 a lefel 5. Rwyf, yn fy llythyr cylch gorchwyl i CCAUC, wedi dweud pa mor bwysig yw hi i mi i allu sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio ar draws y ddau sector i annog y lefel honno o gydweithredu.
A, Lywydd, os wnewch chi faddau i mi a fy ngoddef am eiliad yn unig, hoffwn gymryd y cyfle hwn, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny wedi digwydd yn y Siambr heddiw, i longyfarch colegau, myfyrwyr a chyflogwyr yng Nghymru am eu perfformiad rhagorol yn y sioe WorldSkills UK dros y penwythnos. Gwnaethom ni—ni ddylwn i ddweud ‘rhoi crasfa iddyn nhw’, nid yw hynny'n seneddol iawn—ond roeddem ni yn rhagorol. Roedd myfyrwyr Cymru yn gwbl ragorol yn eu cyflawniadau. Ac rwy’n dymuno’n dda iawn iddynt wrth iddynt fynd ymlaen i'r cam nesaf yng nghystadleuaeth y byd. Mae hynny'n dangos bod gennym y potensial yma yng Nghymru i fod yn rhagorol yn y meysydd penodol hyn.
O ran cymhellion, hoffwn i ei gwneud yn glir bod yr ymateb yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn golygu y bydd pob myfyriwr sy'n cymryd benthyciad cynhaliaeth gan Weinidogion Cymru yn gymwys i gael hyd at £1,500, wedi’i ddileu oddi ar falans eu benthyciadau, pan fyddant yn dechrau eu had-dalu. Felly, unwaith eto, mae hwnnw yn fuddiant i fyfyrwyr o Gymru nad yw ar gael i fyfyrwyr yn unman arall. Felly, mae hwnnw’n gymhelliant, ac yn fuddiant ychwanegol i fyfyrwyr Cymru.
Fe wyddoch chi gystal â minnau, mae ychydig yn fwy anodd i ddatblygu cynllun ar gyfer sut y gallem gymell myfyrwyr, ond rwy'n ddiolchgar am eich ymgysylltiad â hyn, a’r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i mi, y mae fy swyddogion yn ei hystyried ar hyn o bryd. Ond rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i edrych ar sut y gallwn gyflwyno hyn. Felly, er enghraifft, mae fy nghydweithiwr Cabinet dros iechyd wedi sôn am gymhellion i feddygon, i allu recriwtio meddygon ychwanegol, ac rydym yn parhau i gael sgyrsiau am sut y gallwn wneud hyn o ran nyrsys. Felly, mae’r sgyrsiau hynny yn digwydd yn y Llywodraeth ar hyn o bryd a byddaf yn parhau i weithio gyda chi i ystyried beth arall y gallem ei wneud yn hynny o beth.
Gwnaethoch ofyn am lefelau ffioedd, sydd, wrth gwrs, yn anodd ac yn ddadleuol. Byddaf yn parhau i adolygu uchafswm lefel y ffi ar gyfer ffioedd dysgu yng Nghymru, gan ystyried sefydlogrwydd ariannol ein sefydliadau, sut yr ydym yn cynnal y cystadleurwydd hwnnw, sydd, fel yr ydych yn dweud, yn gwbl hanfodol mewn cyd-destun rhyngwladol, a'r effaith ar y myfyrwyr eu hunain. Gwnaethoch ofyn pa ffactorau eraill yr wyf yn eu hystyried—dyna’r tri ffactor a fydd yn parhau i fy llywio wrth i mi ystyried y maes penodol hwn.
O ran tariff, rwy’n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Dyna un o'r rhesymau pam y mae angen i ni symud i system wahanol o sut yr ydym yn cefnogi'r sector yn ei gyfanrwydd, oherwydd ni allwn fforddio i brifysgolion Cymru syrthio ar ei hôl hi—mae arnom angen iddynt fod y gorau y gallant fod, ac mae hynny’n waith i ni yn y Llywodraeth, ond mae hefyd yn waith i’r sector ei hun. Ac edrychaf ymlaen at weld ei strategaeth addysg bellach sy'n cael ei ddatblygu gan CCAUC ar hyn o bryd.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad. Mae hi'n dweud ei bod hi'n gobeithio gweithio gyda phartïon ar draws y Siambr, o leiaf y rhai y mae hi yn barnu bod ganddynt wybodaeth fanwl o'r sector. Dywedodd hefyd ei bod yn croesawu'r consensws i egwyddorion adroddiad yr Athro Diamond.
Hoffwn i ddechrau gyda dau faes yr oeddwn i’n falch iawn o’i chlywed yn sôn amdanynt gynnau. Rwy’n meddwl, gyda myfyrwyr rhan-amser, mae'r parch a’r gefnogaeth gydradd, yn wir, fel y dywedodd hi, heb ei ail, ac, mewn egwyddor, ni allaf weld y dadleuon y ffordd arall. Ac mae'r ffaith na fydd hyn yn digwydd yn unman heblaw am Gymru, yn rhywbeth yr wyf yn meddwl y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono.
Yn ail, yn fy mhlaid i, roedd gennym rywbeth yn ein maniffesto lle’r oeddem yn cynnig cronfa fwrsariaeth gwerth £6 miliwn ar gyfer y myfyrwyr gorau a mwyaf galluog yng Nghymru i gymhwyso a chael cymorth yn y sefydliadau gorau ar draws y byd, nid dim ond yn y DU. Felly, roedd ei chlywed hi’n sôn, o leiaf o bosibl, am gefnogaeth a fyddai ar gael i bobl a allai fynd i Sefydliad Technoleg Massachusetts neu Sefydliad Technoleg Califfornia, er enghraifft, yn fy marn i, yn galonogol iawn, iawn, ac rwy’n ei chanmol am hynny.
Rwy'n credu mai’r hyn y mae gennym anhawster ag ef o bosibl, o leiaf, o ran yr egwyddorion a nodwyd yn adroddiad Diamond—neu, o leiaf, sut y gellir eu gweithredu—oedd pan fuom yn trafod cyffredinoliaeth o fewn system flaengar. Rydym yn bryderus, o bosibl, fod hynny'n golygu symiau mawr o arian yn cael eu rhoi i fyfyrwyr o deuluoedd cefnog, pan, ledled Cymru, mae mwy o angen ar bobl lai cefnog ac nad ydynt yn mynd i'r brifysgol. Ond o'i gymharu â'r datganiad blaenorol a wnaeth hi, pan oedd Diamond wedi dweud y gallai bobl gael arian pe byddai’r incwm yn swm o hyd at £80,000 neu £81,000—roeddem ni o’r farn bod hynny’n arbennig o uchel, ac roeddwn yn synhwyro ychydig o anesmwythder ar feinciau Llafur mewn mannau hefyd. A phan fyddwch chi’n rhoi yr hyn yr ydych yn ei ddisgrifio yn grant prawf modd, yr holl ffordd i fyny'r raddfa incwm i £80,000 neu £81,000, credaf fod hynny’n mynd yn anodd iawn i'w gyfiawnhau, felly rwy’n croesawu’r ffaith ei bod hi wedi gostwng y trothwy uchaf i £59,200.
Roeddwn i'n meddwl bod sylwadau Darren Millar yn eithaf dadlennol ar hyn. Roedd yn ymddangos ei fod yn anhapus â’r gostyngiad hwnnw, a disgrifiodd y band hwn o deuluoedd sy'n ennill rhwng £60,000 a £80,000 fel y canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol. Rwy'n credu y bydd diffiniad y pleidiau eraill yn y Cynulliad o’r canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol ychydig yn wahanol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roedd nifer o ymyriadau yno, ac nid wyf wedi dal—
Os hoffech chi barhau, os gwelwch yn dda.
Fe wnaf i barhau. Tybed a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod—y £1,000 a ddywedwyd yn flaenorol a fyddai’n cael ei roi i bob teulu sy'n ennill hyd yn oed mwy na £59,200 yn awr, neu £80,000 neu £81,000 fel ag yr oedd o'r blaen, a yw hwnnw’n dal i fod wedi’i gynnwys yn y system arfaethedig? Ni chafodd ei grybwyll yn ei datganiad yma. Ac yn ail, a gaf i ofyn iddi egluro’r hyn y soniodd hi amdano o ran dileu £1,500 o’r benthyciad—ydy hynny, unwaith eto, yn rhywbeth sy'n berthnasol i bawb, ni waeth pa mor uchel i fyny’r sbectrwm enillion y bydd teuluoedd?
A gaf i hefyd godi’r mater o dalu myfyrwyr, neu roi grant cynhaliaeth iddynt sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol? Wrth gwrs, nid yw’r cyflog byw cenedlaethol yn berthnasol ac eithrio i bobl sydd dros 25 oed, ac ar gyfer pobl 18 i 20 mlwydd oed, sef y garfan fwyaf o fyfyrwyr, yr isafswm cyflog yw £5.55. Pam felly y mae hi'n credu bod myfyrwyr cymaint yn fwy gwerthfawr a haeddiannol y dylent gael £7.20, rwy’n credu, tra dylai pobl 18 i 20 mlwydd oed, yn gyffredinol, gael £5.55, ac y dylai pobl yn y flwyddyn gyntaf o brentisiaeth gael dim ond £3.40? Ai parch cydradd yw hynny mewn gwirionedd?
Yn olaf, mae'n sôn am system sefydlog a chynaliadwy, ac, wrth gwrs, mae hynny'n uchelgais teilwng, ac yna mae'n dweud ‘yn amodol ar gymeradwyaeth lawn y Trysorlys’. Ond fe fydd hi mor ymwybodol â minnau bod rhai materion yno, ac, yn benodol, beth yw’r cyfrifo a chyllidebu adnoddau a fydd yn cael ei gytuno? Faint o'r benthyciadau, sydd erbyn hyn yn llawer uwch, y bydd y Trysorlys yn penderfynu ei bod yn debygol na chânt eu talu’n ôl, ac a fydd felly’n cael eu dileu o safbwynt y trethdalwr, ac felly, wrth i addysg gael ei datganoli, Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am ei dalu? Ar hyn o bryd, mae gennym RAB sylweddol is na Lloegr, gan fod ein benthyciadau yn is, ond awgrymodd yr Athro Diamond ei fod efallai’n rhy isel ac efallai y bydd angen ei godi. Tybed pan fydd y Trysorlys yn edrych ar y ffigurau hyn, ac rwy’n amau y bydd hynny gyda llygad llawer mwy amheugar na’r Athro Diamond ac eraill o'r sector a allai fod wedi edrych arno yn ystod eu hadolygiad, a fydd yn cwestiynu faint fydd yn cael ei ddileu, ac a fydd y RAB y mae hi’n ei ragdybio yn ddigon uchel mewn gwirionedd. Efallai y byddant yn gofyn, os oes gennych chi ardal lle mae cyflogau yn gymharol isel, ac rydych chi’n cynnig grantiau cynhaliaeth sy'n gyflog byw cenedlaethol nad ydynt ar gael mewn mannau eraill i bobl dan 25 oed, a lle efallai nad yw pobl, o ystyried y cyflogau yn yr ardaloedd lleol, yn disgwyl gallu talu llawer neu ddim o’r ddyled yn ôl pan fyddant yn hŷn, a fydd nifer y rhai sy’n manteisio mewn gwirionedd yn sylweddol uwch oherwydd y bydd pobl o’r farn bod cael cyfle i gael grant cynhaliaeth yn arbennig o ddeniadol, ac a fyddai hynny'n arwain, o bosibl, i'r Trysorlys ffurfio’r farn o leiaf y bydd angen i’r swm a ddiddymir, ac felly'r RAB, fod yn sylweddol uwch nag y mae hi’n ei ganiatáu? Ac a yw hi'n cydnabod y perygl, o leiaf, os yw hi’n sefydlu’r system hon, y gallai’r cyfan fod dipyn yn fwy drud nag y mae hi’n tybio?
Diolch i chi, Lywydd, a diolch i Mr Reckless am ei sylwadau. Rwy’n meddwl efallai ei fod yn cynnig ei hun fel arbenigwr posibl i'n grŵp sydd yn mynd i adolygu hyn. Wel, o leiaf y byddaf i’n cael ei gyngor ef am ddim, yn annhebyg i'r AS dros Clacton. [Torri ar draws.]
Ar fater y £1,000, fy mwriad i yw cyflwyno’r taliad £1,000 hwnnw i bob myfyriwr yng Nghymru. Mae’n unol â'r egwyddorion a amlinellir yn adroddiad yr Athro Diamond, ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddeall bod addysg uwch yn ymdrech ar y cyd. Does dim amheuaeth bod y myfyriwr yn elwa ar astudio ar lefel uwch, ond felly hefyd y mae ein cenedl, ac rwy’n credu nad yw hi ond yn iawn felly ein bod yn cyfrannu at rai o'r costau. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi dweud bod y £1,000 hwn, sy’n daladwy ar ddechrau bob blwyddyn academaidd, yn amhrisiadwy i helpu myfyrwyr fynd i’r afael â rhai o'r costau annisgwyl—nid annisgwyl ond y costau cudd o sefydlu eich hun mewn prifysgol. Ac felly, mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn croesawu’n fawr y ffaith bod y ddarpariaeth hon yn parhau i fod wedi’i chynnwys yn y pecyn.
O ran y dileu rhannol, nid oes a wnelo hynny ddim ag incwm y teulu, mae’n ymwneud â'r ffaith nad yw'r myfyriwr, ar yr adeg honno, yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ad-dalu ei fenthyciad. Felly, nid yw’n berthnasol i incwm y teulu o gwbl, mae’n ymwneud â'r ffaith nad yw'r myfyriwr wedi cyrraedd y trothwy o £21,000 sy'n sbarduno’r ad-daliadau ar gyfer benthyciadau.
O ran y gwahaniaeth rhwng myfyrwyr a'r cyflog byw, ni allaf i newid y ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU barch cydradd ar gyfer gweithwyr sy'n 16, 17, 18 neu 19. Byddwn yn hoffi gallu gwneud rhywbeth am hynny, ond nid yw o fewn fy nghymhwysedd. Fel yr wyf wedi dweud, roedd Diamond yn glir iawn, mae angen i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fyw, yn annibynnol ar eu rhieni. Ar draws y ffin yn Lloegr, disgwylir i rieni drosglwyddo a chyfrannu’n helaeth at y costau. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr Cymru yn annibynnol, oherwydd y byddant yn gallu cael y swm llawn o gymorth y gallant fyw arno, naill ai'n gyfan gwbl drwy gyfrwng grant cynhaliaeth ar gyfer ein myfyrwyr tlotaf; yn rhannol ar gyfer y rhan fwyaf, dros 70 y cant o'n myfyrwyr; neu gyfuniad o'r cyfraniad o £1,000 a benthyciad. Ac rwy’n credu bod hynny’n wirioneddol, wirioneddol bwysig.
O ran y Trysorlys, mae fy nghydweithiwr yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi ysgrifennu’n ffurfiol i'r Trysorlys. Nid ydym wedi cael ymateb ffurfiol eto, ond mae'r Trysorlys wedi bod yn barod iawn i helpu hyd yma ac wedi dangos eu cefnogaeth lawn i'r cynigion sy'n mynd yn eu blaenau, ac rwy’n disgwyl i hynny gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig cyn bo hir.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a rhoi croeso cynnes iawn i gynnwys y datganiad hwnnw heddiw? Yn benodol, rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth hon yn mynd i fod yn cyflwyno system sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg yn ei chefnogaeth i israddedigion amser llawn a rhan-amser ac i fyfyrwyr ôl-raddedig. Rwyf i hefyd yn croesawu cyflymder Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb i'r argymhellion, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Athro Diamond a'i dîm, nid yn unig am ei waith, ond hefyd am ddod i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i roi tystiolaeth yn ddiweddar.
Mae gen i ychydig o gwestiynau. Rydych chi wedi dweud y byddech yn cynnal ymgynghoriad. A wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd hynny'n gweithio, ac yn benodol a fyddwch chi’n ymgynghori â phobl ifanc? Un o nodweddion adolygiad Diamond oedd ei fod yn teimlo y dylai myfyrwyr â heriau ac anghenion arbennig gael cydnabyddiaeth arbennig, a nodwyd tri grŵp yn arbennig. Y cyntaf yw myfyrwyr sydd â phrofiad o'r system gofal, a chroesawaf yr hyn yr ydych wedi'i ddweud o'r blaen am bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn cael hawl i'r grant cynhaliaeth llawn, ond a wnewch chi hefyd ddweud wrthym sut y byddwch yn ymateb i'r pethau eraill yr argymhellodd ynglŷn â phobl ifanc sy'n gadael gofal, yn enwedig o ran rhoi'r hyblygrwydd iddynt drosglwyddo credydau, gan roi cyfle iddynt gael dechreuadau lluosog ac ati? Y maes arall oedd myfyrwyr ag anableddau, lle mae'n argymell gwneud rhagor o waith gyda'r Trysorlys. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn bwrw ymlaen â hynny? Y maes arall, wedyn, oedd myfyrwyr sydd hefyd yn rhieni, sydd yn amlwg yn bwysig iawn yn y cyfnod economaidd anodd hwn. A wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut y byddwch yn ymateb i’r argymhellion penodol hynny? Diolch.
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor addysg, pobl ifanc a phlant am ei hymateb i'r adroddiad? Yr wyf i, hefyd, yn ddiolchgar am arbenigedd parhaus yr Athro Diamond yn y maes hwn. Gallai fod wedi trosglwyddo'r adroddiad a dychwelyd at y gwaith pwysig iawn y mae'n ei wneud, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo am ddod yn ôl i bwyllgorau i roi esboniadau llawn, ac rwy’n deall y bydd yn y grŵp trawsbleidiol ar addysg uwch heno, a byddwn yn annog yr Aelodau i fynd draw i glywed gan yr Athro Diamond.
A gaf i gymryd y cyfle hwn i gadarnhau ei bod yn fwriad gennyf i ddeddfu i sicrhau y bydd y plant hynny sydd â phrofiad o'r sector gofal ac sydd wedi derbyn gofal yn cael mynediad at y grant cynhaliaeth llawn? Mae'r Llywodraeth hon yn gweithio'n galed iawn, iawn i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau addysgol sy'n bodoli i blant sydd wedi bod yn y system ofal. Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno grant amddifadedd disgyblion i gefnogi addysg y plant hynny. Rydym yn gwybod nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o gwbl wrth astudio ar lefel uwch. Rydym eisiau gwneud yn siŵr, yr holl ffordd drwy'r system addysg, ein bod yn rhoi cefnogaeth benodol i alluogi’r plant hynny i gyrraedd eu llawn botensial, yn yr ysgol ac wrth fynd ymlaen i astudio ar lefel uwch.
Bydd cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, er enghraifft, i fyfyrwyr ag anableddau a myfyrwyr â chostau gofal plant yn parhau o dan y system newydd. Yr hyn yr wyf hefyd yn awyddus i’w ystyried yw beth y gallwn ni ei wneud yn well i gefnogi gofalwyr a'r rhai sydd wedi ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu yn ystod eu bywydau, a sut y gallai hynny fod wedi effeithio ar eu gallu i gael mynediad at addysg uwch neu i aros mewn addysg uwch ar ôl iddynt gyrraedd yno. Mae'r ddogfen ymgynghori yn gofyn am rai syniadau penodol am y ffordd orau y gallwn adnabod yr unigolion hynny a sut orau y gallwn eu cefnogi wrth symud ymlaen.
Mae'r ymgynghoriad yn amlwg yn agor heddiw. Hoffwn gael ymatebion yn ôl erbyn 14 Chwefror, Dydd Sant Ffolant, felly rwy’n gobeithio y bydd pob un ohonynt yn swynol ac yn ddeniadol ac y byddant i gyd wedi syrthio mewn cariad â'r cynigion yr ydym yn eu hamlinellu yma gan y Llywodraeth heddiw.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma a hefyd am y gwaith a wnaed gan Syr Ian Diamond a'i dîm, a rhoi hynny ar y cofnod? Mae'n amlwg yn bwysig ein bod yn rhoi sylw i'r materion i addysg uwch a’r gefnogaeth i’r myfyrwyr hynny. A gaf i hefyd gofnodi unwaith eto fy niolch i'w rhagflaenydd, Huw Lewis, a gychwynnodd hyn i gyd ac a welodd, yn y bôn, hyn yn dechrau dod i’r amlwg, ac y mae Ysgrifennydd y Cabinet bellach wedi ei ddwyn i ffrwyth?
Ysgrifennydd y Cabinet, un neu ddau o bwyntiau: rwy’n croesawu cysyniad y cydweithio rhwng addysg uwch ac addysg bellach ac mae'n bwysig inni gael y cydweithredu hynny, yn enwedig o ran sicrhau parch a statws cyfartal i gyrsiau prentisiaeth uwch. Rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig, ond rydych hefyd yn sôn am lefelau 4 a 5, ac o bosibl lefel 6, mewn sefydliadau addysg bellach, felly gallaf weld hynny’n cael croeso hefyd. Ond a wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am drafodaethau Llywodraeth Cymru, efallai, â sefydliadau addysg bellach ynglŷn â materion staffio? Mae'n bwysig ar lefel 6 bod staff yn cael ymgymryd ag ymchwil sy'n hysbysu'r lefel 6. Felly, trafodaethau ar y materion staffio a allai godi o ganlyniad i’r agwedd honno.
O ran myfyrwyr rhan-amser, a wnewch chi egluro a fydd yn cael ei gymhwyso yn 2018-19 i bob myfyriwr rhan-amser, ni waeth pa lefel y maent yn astudio arni ar hyn o bryd, nid dim ond newydd-ddyfodiaid i’r rhaglen, oherwydd nid yw myfyrwyr rhan-amser erioed wedi cael y cymorth hwn? Felly, nid yw unigolyn sydd wedi ymgymryd efallai â dechrau'r ail flwyddyn ar sail ran-amser byth wedi elwa ar unrhyw gymorth. A ydym ni’n mynd i'w trin nhw’n gyfartal ag unrhyw un sy'n cychwyn ar gwrs o’r newydd, oherwydd gydag astudio rhan-amser, fel y gwyddoch, efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cymryd nifer o flynyddoedd, mewn gwirionedd, i gwblhau'r cwrs oherwydd eu hymrwymiadau eraill? Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall pwy fydd yn gallu cael budd o hyn yn 2018-19.
Rydym ni hefyd yn gobeithio ehangu i gyrsiau ôl-raddedig rhan-amser oherwydd mae’r elfen ôl-raddedig a addysgir ar gyfer myfyrwyr amser llawn, fel yr wyf i’n ei ddeall o'r hyn yr ydych yn ei ddweud, ond cynigir rhai cyrsiau ôl-raddedig rhan-amser hefyd. Unwaith eto, gall rhai o'r rheini fod yn unigolion sy'n ceisio ennill cymwysterau pellach o adeg pan yr oeddynt wedi astudio o'r blaen ac yn awyddus i fynd yn ôl i'w gwaith, ond eu bod yn awr yn gobeithio cael cymhwyster lefel uwch oherwydd dyna’r agenda nesaf ar eu cyfer nhw.
Yn bersonol, rwy'n siomedig yn yr egwyddor ‘dim ond cysyniad o ymchwil o ansawdd’. Rwy’n cydnabod yr heriau, fodd bynnag, y bydd Brexit yn eu gosod ar arian ymchwil, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig eich bod yn cadarnhau eich ymrwymiad i'r rhaglen Sêr Cymru ac eraill, ac unrhyw raglenni olynol, fel bod prifysgolion yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymchwil, ac ymchwil o safon, oherwydd mae’n mynd i fod yn gyfnod anodd i brifysgolion yn y blynyddoedd sydd i ddod, wrth i ni weld problemau Brexit a cholli rhywfaint o’r cyllid efallai—nid o reidrwydd, ond efallai y bydd yna rywfaint o golli cyllid—i feysydd ymchwil, oherwydd nid ydym yn gwybod o hyd sut y bydd y cynghorau ymchwil yn gweithredu yn y blynyddoedd sydd i ddod ychwaith.
Yn olaf, ar y cymhellion i ddychwelyd i Gymru, rwy’n cymryd o’ch sylwadau chi heddiw mai myfyrwyr sy'n dychwelyd i Gymru, mewn gwirionedd, fydd yn cael y £1,500 wedi’i ddileu o’u benthyciad. A wnewch chi ystyried efallai yr heriau sy'n wynebu amrywiaeth o feysydd pwnc oherwydd mae rhai meysydd pwnc y mae myfyrwyr yn eu dilyn yn golygu nad ydynt yn gallu cael gwaith yng Nghymru? Hyd yn oed os ydynt yn dymuno dod yn ôl i Gymru, maent yn cael eu cyfyngu gan nad oes unrhyw gyfleoedd perthnasol yng Nghymru o bosibl. A wnewch chi ystyried y cyfleoedd efallai i helpu i annog myfyrwyr o ystod ehangach o bynciau i elwa ar y cynllun, nid dim ond am y rheswm syml eu bod yn dod yn ôl i Gymru i weithio? Gallent fod o fudd i ni mewn gwirionedd, yn datblygu sgiliau ac yn awyddus i ddod yn ôl yn y dyfodol. Mae angen i ni ymchwilio i hynny.
Hoffwn ddiolch i David am ei gwestiynau. A gaf i ei gwneud yn hollol glir bod yr holl fyfyrwyr o Gymru sydd wedi bod yn cael benthyciad trwy Weinidogion Cymru, ni waeth a ydynt yn dod yn ôl i Gymru ai peidio, yn gallu gwneud cais i ddileu hynny’n rhannol? Nid yw hynny'n dibynnu ar ddod yn ôl i Gymru. Mae hynny’n fantais ychwanegol sydd gan fyfyrwyr o Gymru: pan fyddant yn cyrraedd y trothwy i ddechrau ad-dalu eu benthyciadau, gallant wneud cais am ddileu rhannol, a hynny lle bynnag y maent yn astudio.
Rwyf i, Alun Davies a Julie James yn gweithio gyda'n gilydd ar y cyd i sicrhau bod gan aelodau o staff mewn colegau addysg bellach sgiliau a chyfleoedd. Mae rhan o'r arian sy'n cael ei roi ar gael yn y gyllideb sydd ar ddod i ystyried cydweithio agosach rhwng addysg uwch ac addysg bellach wedi ei gynllunio i wneud yr union beth hynny, ac i ystyried cefnogi ymchwil mewn sefydliadau addysg bellach hefyd, lle bo hynny'n briodol. Byddwn yn ystyried, fel Llywodraeth, amlinellu gwaith pellach yn y maes hwn pan fyddwn yn lansio ymateb y Llywodraeth i adroddiad Hazelkorn, ac rydym yn gobeithio gwneud hyn yn y flwyddyn newydd.
O ran i bwy y bydd hyn ar gael, mae gen i ofn, David, y bydd ar gael i newydd-ddyfodiaid ar y dyddiad penodol hwnnw. Os ydym yn sydyn yn dweud wrth ran o'r garfan hanner ffordd drwy'r cwrs, ‘Gallwch chi gael trefn wahanol’, byddai hynny’n gwbl amhosibl i'w reoli. Rydym yn ceisio dangos yn awr, yn amlwg iawn, gamau i ddiogelu carfannau ar gyfer y rhai sydd eisoes yn y system, gan gynnwys y bobl hynny sy'n gwneud cais i brifysgol y flwyddyn hon, a chynnig eglurder gwirioneddol fel bod pobl yn gwybod, wrth iddynt wneud cais am gyrsiau, o dan ba system y byddant yn cael eu trin. Mae'n ddigon o her i greu system o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i gyflwyno'r drefn newydd hon. Os byddwn ni’n dechrau gofyn iddynt gael systemau gwahanol yn ôl-weithredol, gan alluogi unigolion i ddewis opsiynau gwahanol, byddem yn y pen draw mewn anhawster mawr. Ac nid ydym yn dymuno achosi unrhyw anhawster pellach nag sydd ei angen i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sydd weithiau, fel yr ydym wedi gweld yn ddiweddar, yn ei chael yn anodd i ymdopi â gwahanol systemau mewn gwahanol rannau o'r wlad.
A gaf i ddweud bod ansawdd yr ymchwil yn ein sefydliadau addysg uwch yn gwbl allweddol? Bydd yn dod yn llawer mwy heriol o ganlyniad i Brexit, ond rhan o waith y grŵp addysg uwch yr wyf wedi’i sefydlu i ystyried effaith Brexit yw mynd ati i ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu ymchwil o safon yn ein sefydliadau wrth symud ymlaen.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf i groesawu’r datganiad yn ei gyfanrwydd? Mae'n fater o farn a rhywfaint o ragweld o ran lefel ffioedd, ond rwy’n derbyn yr egwyddorion uchel a’r rhan fwyaf o sylwedd argymhellion yr Athro Syr Ian Diamond fel rhywbeth sydd i’w groesawu’n aruthrol, ac roedd y sylw a wnaed gan fy nghydweithiwr yma ar fy chwith am gyflwyno hyn mewn ffordd amserol hefyd yn bwynt da. Rwyf yn ei llongyfarch ar yr amseru arbennig o ffodus hefyd, a’r modd digywilydd y gwnaeth hybu’r grŵp trawsbleidiol ar addysg uwch sydd, yn wir, yn cyfarfod heno gyda'r Athro Syr Ian Diamond, a gallwn drafod hyn ymhellach.
Mae hwn yn fater o sicrhau bod tegwch a chynaliadwyedd wrth wraidd ein system addysg uwch i fyfyrwyr, i’r trethdalwr a hefyd tegwch a chydnerthedd ein sector addysg uwch. Ond ar y mater hwnnw o degwch, efallai y caf ofyn iddi am ei barn ynglŷn â sut y mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ei hun yn eistedd ochr yn ochr â hynny, ac a yw hi’n rhannu unrhyw un o fy mhryderon ynghylch y cyfeiriad yr eir iddi gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr? Dim ond yr wythnos hon, cyflwynwyd diwygiad i’r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil i geisio atal y mireinio a wnaethpwyd yn y gyllideb y llynedd gan y Canghellor George Osborne, a fydd yn achosi i ad-daliadau gan fyfyrwyr addysg uwch o bob rhan o’r wlad fod yn £360 y person, ar gyfartaledd, yn ddrutach pan fyddant yn dechrau ad-dalu eu benthyciad. Nid dyna yr hyn a addawyd iddynt, ac mae ofn o ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a’r Canghellor, oni bai bod y materion hyn yn cael eu datrys, ac oni bai bod yr addewidion hyn yn cael eu cyflawni i'n myfyrwyr, a’u bod yn gallu ymddiried yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, bod hynny’n tanseilio’r canfyddiad o ffydd, tegwch a gonestrwydd.
Felly, mae’r gyfres hon o gynigion heddiw yn dda, yn gadarn ac wedi eu llunio’n dda, a byddaf yn edrych ymlaen, ar Ddydd Sant Ffolant, i roi fy nghyflwyniad i hefyd. Bydd yn gwneud yn iawn am y Dydd Sant Ffolant y treuliais gyda fy ngwraig y tro cyntaf y cefais fy ethol dros Ogwr yn 2002. Ond a yw hi’n rhannu’r pryderon hynny am y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, ac a yw hi’n gobeithio heddiw, yn y datganiad y gyllideb hwn, y bydd y bydd y penderfyniad cyfredol—[Torri ar draws.] Na, roedd hi'n gyda mi. [Chwerthin.] Roedd fy ngwraig gyda mi. A yw hi'n gobeithio y bydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei wyrdroi a thegwch yn cael ei ddarparu i’r myfyrwyr hynny yng nghyhoeddiad y gyllideb heddiw?
Rwy’n meddwl weithiau, Lywydd, ein bod ni i gyd yn rhoi ychydig gormod o wybodaeth i'r Siambr. [Chwerthin.] Neu, fel y byddai fy merch sydd yn ei harddegau yn dweud: ‘TMI, mam, TMI’.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a dweud pa mor falch ydw i fod y grŵp hollbleidiol yn bodoli? Rwy’n meddwl bod angen i ni gael y cyfleoedd hynny i Aelodau, ein sefydliadau a'r rhai sydd â diddordeb yn y maes pwysig iawn hwn ar gyfer fforwm lle y gallwn ddod at ei gilydd a thrafod y materion pwysig hyn. Felly, rwy'n ddiolchgar am ei fentergarwch wrth sefydlu'r grŵp, ac rwy'n siŵr y bydd gan yr Athro Diamond ddigon i'w ddweud wrth bawb heno.
Rwy’n ymwybodol o'r dadlau yn Lloegr am benderfyniad Llywodraeth y DU i rewi ad-daliadau am gyfnod o bum mlynedd. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad ar gyfer y dyfodol ynglŷn â lefel ei throthwyon ad-dalu ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael benthyciadau ers 2012. Er bod Llywodraeth Cymru yn gallu pennu ei throthwyon ad-dalu ei hunan, byddai'n rhaid i ni weithio drwy'r goblygiadau ymarferol ac ariannol o ddatgysylltu y system gasglu ad-daliadau gyfredol ar gyfer Cymru a Lloegr. Byddai hynny'n hynod o gymhleth ac yn anodd ei gyflawni mewn cyfnod byr o amser. Fodd bynnag, byddwn yn falch pe bai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi penderfynu y byddai'n hoffi cynyddu'r trothwy ad-dalu i gyflawni ei hymrwymiadau blaenorol a byddem yn hapus i ddiwygio ein trothwyon ni yn unol â hynny.
O ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, mae hyn wedi bod yn fater o bwys enfawr i mi ers i mi gymryd y swydd. Bu problemau eisoes yn y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sydd wedi cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i symud i’r cyfeiriad polisi y byddai'n dymuno mynd iddo. Mae hynny'n gyfystyr â gwahaniaethu yn erbyn myfyrwyr Cymru, ac nid yw hynny’n dderbyniol i mi. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cyfarfod â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, siarad â nhw, ac ysgrifennu atynt ar sawl achlysur. Yn wir, mae gennyf uwch swyddog yn yr SLC heddiw, yn gweithio ar gynlluniau i weithredu’r cynllun penodol hwn, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu ei gyflawni. Ond mae'r rhain yn bethau yr wyf yn cadw llygad agos iawn arnynt, a byddaf yn parhau i’w hystyried i sicrhau bod myfyrwyr Cymru yn cael y fargen orau bosibl.
Diolch yn fawr iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet.