6. 3. Datganiad: Adolygiad Diamond o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:23, 22 Tachwedd 2016

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac ategu'r diolch eto, wrth gwrs, i’r Athro Diamond a’r grŵp fuodd wrthi yn paratoi'r adroddiad a’r argymhellion?

Rwy’n croesawu eich datganiad chi. Mae’n dda gweld y broses nawr yn symud at weithredu'r argymhellion. Mae hynny yn rhywbeth rwy’n siŵr y byddem ni i gyd yn ei groesawu. Rwyf hefyd yn croesawu’r pwynt canolog yr oeddech chi’n ei danlinellu nawr, sef bod astudio llawn-amser, rhan-amser ac ôl radd yn mynd i gael eu hystyried yn gydradd ac yn mynd i gael mynediad at gefnogaeth debyg i’w gilydd a bod hynny yn mynd i greu tirlun tipyn yn haws i’w ddeall hefyd i nifer o bobl lle, yn aml iawn, mae amrywiaeth wedi bod sy’n arwain at ddryswch a chymhlethdodau.

Rwy’n croesawu nifer o agweddau, yn arbennig y peilot rydych chi’n sôn amdano i edrych ar ymarferoldeb ymestyn y gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n astudio yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn sicr, mae hynny yn gydnaws ag un o alwadau polisi Plaid Cymru yn yr etholiad rai misoedd yn ôl. Efallai y byddwch chi’n gallu ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut rydych chi’n bwriadu ceisio cyflwyno’r peilot yna.

Rwy’n croesawu hefyd yr ymrwymiad rydych chi wedi’i roi yn yr adroddiad i addysg alwedigaethol a thechnegol uwch. Mae yna deimlad yn y Cynulliad y tro yma fod angen inni godi statws addysg alwedigaethol ar draws y sbectrwm. Rwy’n cymryd mai’r cam cyntaf mewn nifer o gamau yw hynny, ac mae hynny i’w groesawu.

Rwyf hefyd yn croesawu eich bod chi’n edrych ar fodel Cymreig o’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, oherwydd mae’r sefyllfa bresennol, rwy’n teimlo, yn llesteirio symud ar y cyflymdra y byddem ni’n licio ei weld. Mae’n gwneud hi’n anodd i ni, yma yng Nghymru, i ymateb i amgylchfyd sydd yn gallu newid oherwydd dylanwadau allanol, ac mae’n creu sefyllfa anodd.

Mae’n gyhoeddiad arwyddocaol, wrth gwrs, mewn sawl ffordd, ac efallai, gan mai sôn am sgopio opsiynau amgen rydych chi ar hyn o bryd, efallai y byddwch chi’n gallu ymhelaethu ynglŷn ag unrhyw amserlenni mwy manwl sydd gyda chi mewn golwg. Mae symud i daliadau misol a chefnogaeth i rhai ag anghenion penodol i gyd hefyd yn agweddau i’w croesawu.

Rydych chi’n dweud, wrth gwrs, ac rydych chi wedi dweud cyn hyn, eich bod chi am barhau i edrych ar lefel y ffioedd y mae sefydliadau addysg uwch yn cael eu codi yma yng Nghymru—wedi’i phennu ar £9,000 ar hyn o bryd, neu £9,250, wrth gwrs, yn Lloegr. Yn wyneb heriau ariannol difrifol—rŷm ni’n ymwybodol o hynny—ac yn wyneb y ffaith bod y sefydliadau yma yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol iawn, a allwch chi, efallai, rannu gyda ni pa ffactorau fydd yn dylanwadu ar eich ystyriaethau chi pan fyddwch chi’n edrych ar lefel y ffioedd yr ydych yn eu pennu? Oherwydd mae yna berygl—rydym ni’n ymwybodol ohono—fod y bwlch cyllido rhwng y sefydliadau yng Nghymru ac yn Lloegr yn agor. Mae yna bosibiliad y bydd yna ganfyddiad, efallai, fod ansawdd y cyrsiau yng Nghymru, oherwydd eu bod nhw’n rhatach, ddim cystal. Byddai ambell un, efallai, yn dweud y byddai mantais gystadleuol o gael ffioedd gwahanol—pwy a ŵyr? Yn ei hanfod, a ydych chi’n credu ei bod hi’n anochel, oherwydd yr hinsawdd yr ydym ni ynddi, os ydyn nhw yn codi ffioedd yn Lloegr, ar ryw bwynt bod yn rhaid iddyn nhw godi yng Nghymru, neu a ydych chi’n ystyried modelau amgen? Oherwydd mae’n anodd gweld, i bob pwrpas, sut mae modd gwrthsefyll hynny, mewn sawl ffordd.

Wrth gwrs, ni fyddai’n ddatganiad ar adroddiad gan yr Athro Diamond oni bai fy mod i’n codi’r angen i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru, ac i gadw'r myfyrwyr sydd yn astudio yng Nghymru yma, a’r angen i greu cymhelliad. Rydych chi’n dweud, wrth gwrs, yn eich ymateb i’r argymhellion eich bod chi’n parhau i edrych ar yr opsiynau, yn annog syniadau ac yn annog pobl i ymateb i’r ymgynghoriad. Ond, wrth edrych ar y ddogfen ymgynghorol, nid oes cyfeiriad penodol at greu cymhelliad i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru, hyd y gwelaf i. Nid wyf yn gwybod a yw hynny’n gamgymeriad, neu a ydych chi’n bwriadu, efallai, creu rhyw fath o broses ymgynghorol ar wahân—mae’n bosibl y gallwch chi ddweud wrthym ni.

Yn olaf, mae’r drafodaeth, neu ffocws y drafodaeth, ar gynaliadwyedd wedi bod yn un ariannol—yn bennaf, beth bynnag. A gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd wedi’i roi i’r tariff pwyntiau mynediad i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru? A yw’r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad ar hyn ac unrhyw arwyddocâd ehangach hynny i’r sector? Mae’r rhan fwyaf wedi gweld dirywiad yn y metrig yma, gyda tri o’n sefydliadau ni nawr â chyfartaledd o dan 300, a hynny, wrth gwrs, yn erbyn cefndir lle mae canlyniadau lefel A yn mynd i’r cyfeiriad arall. Byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa ddylanwad y mae hynny’n ei gael ar gynaliadwyedd y sector.