Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad. Mae hi'n dweud ei bod hi'n gobeithio gweithio gyda phartïon ar draws y Siambr, o leiaf y rhai y mae hi yn barnu bod ganddynt wybodaeth fanwl o'r sector. Dywedodd hefyd ei bod yn croesawu'r consensws i egwyddorion adroddiad yr Athro Diamond.
Hoffwn i ddechrau gyda dau faes yr oeddwn i’n falch iawn o’i chlywed yn sôn amdanynt gynnau. Rwy’n meddwl, gyda myfyrwyr rhan-amser, mae'r parch a’r gefnogaeth gydradd, yn wir, fel y dywedodd hi, heb ei ail, ac, mewn egwyddor, ni allaf weld y dadleuon y ffordd arall. Ac mae'r ffaith na fydd hyn yn digwydd yn unman heblaw am Gymru, yn rhywbeth yr wyf yn meddwl y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono.
Yn ail, yn fy mhlaid i, roedd gennym rywbeth yn ein maniffesto lle’r oeddem yn cynnig cronfa fwrsariaeth gwerth £6 miliwn ar gyfer y myfyrwyr gorau a mwyaf galluog yng Nghymru i gymhwyso a chael cymorth yn y sefydliadau gorau ar draws y byd, nid dim ond yn y DU. Felly, roedd ei chlywed hi’n sôn, o leiaf o bosibl, am gefnogaeth a fyddai ar gael i bobl a allai fynd i Sefydliad Technoleg Massachusetts neu Sefydliad Technoleg Califfornia, er enghraifft, yn fy marn i, yn galonogol iawn, iawn, ac rwy’n ei chanmol am hynny.
Rwy'n credu mai’r hyn y mae gennym anhawster ag ef o bosibl, o leiaf, o ran yr egwyddorion a nodwyd yn adroddiad Diamond—neu, o leiaf, sut y gellir eu gweithredu—oedd pan fuom yn trafod cyffredinoliaeth o fewn system flaengar. Rydym yn bryderus, o bosibl, fod hynny'n golygu symiau mawr o arian yn cael eu rhoi i fyfyrwyr o deuluoedd cefnog, pan, ledled Cymru, mae mwy o angen ar bobl lai cefnog ac nad ydynt yn mynd i'r brifysgol. Ond o'i gymharu â'r datganiad blaenorol a wnaeth hi, pan oedd Diamond wedi dweud y gallai bobl gael arian pe byddai’r incwm yn swm o hyd at £80,000 neu £81,000—roeddem ni o’r farn bod hynny’n arbennig o uchel, ac roeddwn yn synhwyro ychydig o anesmwythder ar feinciau Llafur mewn mannau hefyd. A phan fyddwch chi’n rhoi yr hyn yr ydych yn ei ddisgrifio yn grant prawf modd, yr holl ffordd i fyny'r raddfa incwm i £80,000 neu £81,000, credaf fod hynny’n mynd yn anodd iawn i'w gyfiawnhau, felly rwy’n croesawu’r ffaith ei bod hi wedi gostwng y trothwy uchaf i £59,200.
Roeddwn i'n meddwl bod sylwadau Darren Millar yn eithaf dadlennol ar hyn. Roedd yn ymddangos ei fod yn anhapus â’r gostyngiad hwnnw, a disgrifiodd y band hwn o deuluoedd sy'n ennill rhwng £60,000 a £80,000 fel y canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol. Rwy'n credu y bydd diffiniad y pleidiau eraill yn y Cynulliad o’r canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol ychydig yn wahanol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roedd nifer o ymyriadau yno, ac nid wyf wedi dal—