Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A wnewch chi wisgo eich het fel Gweinidog llywodraeth leol am eiliad? Gobeithio nad dyna fy nghwestiwn cyntaf. [Chwerthin.] Mae cyngor Caerdydd wedi llwyddo i godi £4.5 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn dirwyon lonydd bysiau. A ydych yn credu y gallai hwn fod yn swm gormodol, a allai ddangos bod modurwyr yn y ddinas yn cael eu targedu gan y cyngor fel peiriannau pres? A all Llywodraeth Cymru ymyrryd mewn unrhyw ffordd i atal cynghorau rhag cosbi gyrwyr yn ormodol?