Mercher, 23 Tachwedd 2016
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd presennol cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0060(FLG)
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am ddyraniadau y gyllideb i'r portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon? OAQ(5)0050(FLG)
Trown yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a galwaf ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Y cyntaf heddiw yw Gareth Bennett.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithredu o ran llywodraeth leol yn y dyfodol? OAQ(5)0059(FLG)[R]
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gytundebau dinas? OAQ(5)0051(FLG)
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ymwneud â phwerau awdurdodau lleol i fynd i gostau? OAQ(5)0056(FLG)
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio addysg? OAQ(5)0065(FLG)
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Bwrdd y Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol ynghylch pa mor barod yw awdurdodau lleol i rannu arferion caffael? OAQ(5)0052(FLG)
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff yr ardoll brentisiaethau ar y grant bloc? OAQ(5)0058(FLG)
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cronfeydd strwythurol yr UE yn cynorthwyo busnesau a chyflogaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0064(FLG)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yng Nghymru? OAQ(5)0055(ERA)
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â chlymog Japan? OAQ(5)0056(ERA)
Trown yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau, a’r llefarydd cyntaf yw Simon Thomas.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli'r risg o lifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0054(ERA)
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Brexit ar bolisi amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0064(ERA)[W]
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo bwyd môr o Gymru? OAQ(5)066(ERA)[W]
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau tirwedd? OAQ(5)0062(ERA)
7. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am statws ecolegol dyfroedd mewnol a dyfroedd arfordir Cymru? OAQ(5)0063(ERA)
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi ynni yn y de-ddwyrain? OAQ(5)0053(ERA)
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio pecynnau bwyd polystyren yng Nghymru? OAQ(5)0067(ERA)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Faint o ddamweiniau a gofnodwyd a ddigwyddodd ar ystâd y Cynulliad ers mis Mai 2011? OAQ(5)003(AC)
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 4, sef y datganiadau 90 eiliad. Daw’r datganiad 90 eiliad cyntaf gan Joyce Watson.
Symudwn ymlaen at eitem 5 ar yr agenda, sef y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Aelodau. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig—Paul Davies.
Eitem 6 yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar amaethyddiaeth fanwl. Galwaf ar Lee Waters i gynnig y cynnig—Lee.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 4 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 5 a 6 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Os...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Felly, symudwn yn awr at bleidlais ar y ddadl gan Aelodau unigol ar amaethyddiaeth fanwl, a galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 43 o blaid, neb...
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Angela Burns i gyflwyno ei dadl fer ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Angela Burns.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i leihau ôl-ddyledion y dreth gyngor yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i reoli llygredd aer?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia