Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Iawn, diolch, Weinidog. Fel rhywun nad yw’n gyrru, rwy’n gwerthfawrogi eich parch tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy’n rhannu’r parch hwnnw. Mewn byd delfrydol, buasai eich ateb yn gywir, ond yn anffodus, o ystyried problemau traffig Caerdydd, mae gyrwyr yn mynd i lonydd bysiau’n anfwriadol weithiau. I barhau â’r thema honno, mae’n debygol mai Caerdydd sydd â’r problemau traffig gwaethaf yng Nghymru, ac mae’r cyngor hefyd wedi codi £3.5 miliwn mewn dirwyon parcio ers 2014 yn ogystal â £110,000 mewn dirwyon bocs melyn. Yr olaf, efallai, yw’r cyhuddiad mwyaf enbyd, gan nad yw gyrwyr sy’n cael eu dal yn nhagfeydd traffig diddiwedd y ddinas yn gallu rhagweld pryd y byddant yn mynd i mewn i focs melyn. Credaf yn gryf y dylid perswadio cyngor Caerdydd drwy orfodaeth, yn ogystal ag unrhyw gyngor arall sy’n gwneud arian yn y modd hwn, i beidio â gwneud hynny. A allwch chi, fel Gweinidog, gyhoeddi unrhyw ganllawiau ar hyn?