<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:44, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu fy mod am newid y sylw ychydig o lonydd bysiau yng Nghaerdydd i ragolygon economaidd y byd. [Chwerthin.] Roeddwn yn meddwl tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu consensws byd-eang cynyddol, rwy’n credu, ymhlith Llywodraethau ar draws y byd mai yn awr yw’r adeg i wario ar seilwaith mewn modd na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae’n bosibl mai dyna’r unig ysgogiad polisi sydd gennym. Un o sgil-gynhyrchion cadarnhaol prin y dirwasgiad hir rydym wedi’i gael ers yr argyfwng economaidd yw cyfraddau llog isel iawn neu gyfraddau llog negyddol yn wir.

Efallai na fydd y cyfle hanesyddol hwn yno am byth, gan ein bod eisoes wedi dechrau gweld cyfraddau morgais yn codi yn America yn sgil dyfalu ynglŷn â’r buddsoddi mewn seilwaith a allai ddeillio o arlywyddiaeth Trump. A oes angen i ni achub ar y cyfle hwn yn awr gyda mwy o ymdeimlad o frys, Ysgrifennydd y Cabinet?