Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n gwybod bod ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynghorau tref a chymuned. Dywedais yn fy natganiad ar 4 Hydref fod yna gyfres o bethau rwy’n teimlo y gallwn eu gwneud ar unwaith i wella gweithrediad y system fel y mae heddiw, ond roeddwn hefyd yn awyddus i edrych yn fwy trwyadl ac annibynnol ar gynghorau tref a chymuned er mwyn dod o hyd i ffyrdd y gallwn harneisio’r pethau y maent yn eu gwneud yn dda iawn. Mewn sawl rhan o Gymru, mae’r sector hwnnw’n gwneud rhai pethau pwysig iawn yn dda iawn, ond nid yw’n gwneud hynny’n wastadol. Mae yna ddiffyg democrataidd yn y sector, a thros hanner seddi cynghorau tref a chymuned yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn yr etholiad diwethaf. Rwy’n ddiolchgar iddi am y trafodaethau a gawsom ar y mater hwn ac rwy’n edrych ymlaen at allu parhau i gynllunio’r ailasesiad gwraidd a changen hwnnw gyda hwy.