Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, Ddirprwy Lywydd, mae Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, un y mae awdurdodau lleol bob amser yn ei wneud pan fyddaf yn eu cyfarfod: fod yr agenda ar gyfer awdurdodau lleol yn llawer ehangach na’r awdurdodau lleol eu hunain. Mae gan bob un ohonynt bartneriaid pwysig iawn, boed y gwasanaeth heddlu lleol, y parc cenedlaethol neu, yn achos Powys fel y mae’n dweud, y cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Powys. Cyfarfûm ag arweinydd Cyngor Sir Powys yn ddiweddar, a rhoddodd gyfrif i mi o’r gwaith y maent yn ei wneud. Yn ddiddorol, mewn perthynas â phwynt cynharach Suzy Davies, gwasanaethau therapi galwedigaethol yw un o’r pethau cyntaf y maent yn credu y gallant eu darparu ar ffurf un gwasanaeth ar draws y ddau awdurdod. Maent yn dweud wrthyf fod cynnydd da yn cael ei wneud. Rydym wedi darparu cyllid grant o fwy na £300,000 i gynorthwyo’r cyngor a’r Bwrdd Iechyd Lleol i sefydlu’r cydweithrediad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weld ffrwyth ymarferol pellach yr ymdrechion hynny.