Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Fe fydd yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o astudiaeth ddofn ddiweddar Mark Lang o Bont-y-pŵl, lle y mae’n tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu’r gymuned honno a oedd ar un adeg yn gymuned ffyniannus, yn ogystal â’r sylfeini y gellid adeiladu arnynt i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol. Mae mentrau fel prifddinas-ranbarth Caerdydd a’r cytundeb dinas yn cynnig cyfleoedd i drefi fel Pont-y-pŵl, ond ceir bygythiadau hefyd. Felly, a wnaiff yr Aelod ymhelaethu ynglŷn â sut y bydd ei Lywodraeth yn sicrhau dull cyflawn aml-ganolfan, aml-dwf o fynd ati ar gytundeb dinas Caerdydd a chynllun y dinas-ranbarth, fel bod trefi fel Pont-y-pŵl yn ganolog yn y cynlluniau hynny, yn hytrach nag ar eu cyrion?