Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, Ddirprwy Lywydd, mae’r datblygiad hwnnw y mae’r 10 arweinydd yn ymrwymedig i’w gyflawni yn ddatblygiad pwysig iawn, ond mae’n bwysig iawn yn wir eu bod yn gallu cyflawni’r gwaith yn ôl yr amserlen y maent hwy eu hunain wedi ymrwymo i’w gyflawni. Oherwydd mae’r model, sef y model Cabinet lle y bydd pob un o’r 10 arweinydd yn ffurfio cabinet cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, eto i’w gadarnhau gan yr awdurdodau cyfansoddol. Mae pob arweinydd yn ymrwymedig i wneud yn siŵr fod y trefniant wedi cael ei gadarnhau gan eu cyngor cyn diwedd mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Fy neges iddynt, ac rwyf wedi cyfleu’r neges hon iddynt yn rheolaidd mewn cyfarfodydd, yw ei bod yn gwbl hanfodol eu bod yn cyflawni yn ôl yr amserlen honno fel ein bod yn parhau i fod ar y trywydd iawn o ran llywodraethu i sicrhau’r arian sydd ar gael ar gyfer y cytundeb.