Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch. Yng nghyfarfod diwethaf bwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, datgelwyd mai tri awdurdod lleol yn unig sydd wedi bod yn barod i rannu data ar sut y maent yn prydlesu cerbydau. Beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i wneud rhannu data’n ofynnol, a phan fydd y data hwnnw gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, beth y gall ei wneud i sicrhau nad yw’r ffocws ar arbed costau’n unig, ond ar sicrhau gwerth i economïau lleol?