Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Trown yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ardrethi busnes, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.