<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:24, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae 2016 ar y trywydd i fod y flwyddyn gynhesaf ers dechrau cadw cofnodion, ac mae effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo’n barod, fel y gwelsom, yn wir, dros y dyddiau diwethaf yma yng Nghymru. Nawr, mae eich cyllideb ddrafft yn argymell toriadau o 38 y cant i’r gwariant cyfalaf ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd a phrosiectau amddiffyn rhag llifogydd. Yn dilyn cyhoeddiadau datganiad yr hydref heddiw fod rhywfaint, o leiaf, o gyllid cyfalaf ychwanegol i Lywodraeth Cymru, er nad yw ond tua’r un faint â’r swm y buasai ei angen i atgyweirio tŷ mawr yn Llundain, oni ddylech fod yn ystyried adfer rhywfaint o’r cyllid hwn yn awr i’ch cyllideb prosiectau cyfalaf ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd?