<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:25, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch ei bod yn manteisio ar y cyfle i ofyn am adfer y rheini. Rydym yn deall y bydd £400 miliwn ar gael ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Buasai hynny’n awgrymu tua £80 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, er fy mod yn derbyn bod yn rhaid i ni edrych ar y manylion. Ond mae’n rhaid i ni ddangos arweiniad ar hyn, ac rydych newydd ddychwelyd o Gynhadledd y Partïon 22 yn Marrakech, ac roeddwn yn falch iawn eich bod wedi bod yno. Nawr, rydym yn deall bellach fod hyd yn oed Donald Trump yn derbyn bod rhywfaint o gysylltedd, fel y mae ef yn ei roi, rhwng newid yn yr hinsawdd a’n gweithgaredd ni, sy’n golygu bod Donald Trump wedi achub y blaen ar UKIP mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. A gaf fi groesawu’r cyhoeddiad a wnaethoch yn Marrakech y bydd Cymru yn un o’r chwe rhanbarth Ewropeaidd i lofnodi Platfform Llwybrau 2050 y Cenhedloedd Unedig i gynyddu cydweithrediad rhwng pob lefel o Lywodraeth ar gyfer cyflwyno mesurau newid yn yr hinsawdd ar lawr gwlad? A allwch roi unrhyw fanylion pellach ynglŷn â sut rydych yn bwriadu cyflymu’r broses o gyflwyno ein mesurau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys y nod hollbwysig o leihau allyriadau 40 y cant erbyn 2020?