<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:27, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yn amlwg o’ch negeseuon trydar eich bod yn mwynhau eich hun yno, ac rwy’n golygu hynny mewn ffordd broffesiynol, a hefyd, wrth gwrs, o’r datganiad ysgrifenedig, a oedd, unwaith eto, yn llawn o negeseuon cadarnhaol o COP22. Nid wyf ond yn gresynu na lwyddodd y Cynulliad mewn pryd i ddod i ben ag anfon Aelodau Cynulliad yno yn gwmni i chi, oherwydd credaf y bydd hynny’n briodol yn y dyfodol.

Un o’r pethau a gytunwyd yno—ac unwaith eto, roedd yn neges gadarnhaol—oedd bod 47 o wledydd y byd yr effeithir arnynt fwyaf gan newid yn yr hinsawdd wedi addo na fyddant ond yn defnyddio tanwydd adnewyddadwy yn unig erbyn 2050. Fe ddywedoch wrth y gynhadledd hefyd, mewn blog rwy’n credu, y bydd yr holl drydan a brynir gan wasanaeth caffael Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus yn adnewyddadwy 100 y cant, erbyn y flwyddyn nesaf, a chredaf fod hynny i’w ganmol, er bod cwestiwn bob amser ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei ystyried yn adnewyddadwy 100 y cant dan gyfarwyddebau’r UE, ond mater arall yw hwnnw. Yr hyn rwy’n awyddus iawn i wybod yw sut y byddwch yn cyflawni, yn adeiladu ac yn cynnal hyn, ac onid ydych yn credu, wrth i ni symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy yn awr, mai dyma’r adeg, mewn gwirionedd, i gael cwmni ynni cyhoeddus nad yw’n rhannu elw sy’n eiddo i Gymru, i arwain y ffordd ac i fod yn rhan o’r newid sylweddol sydd ei angen arnom mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy?