Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, nid wyf yn credu bod yna fwlch uchelgais, a soniais yn fy ateb blaenorol i Simon Thomas fy mod wedi cael cyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet cyn i mi fynychu COP22. Gwnaed hynny’n benodol iawn. Nid wyf yn credu bod diffyg uchelgais mewn unrhyw bortffolio ar draws y Llywodraeth. Er mwyn i ni gyrraedd ein targed o leihau allyriadau carbon erbyn 2020, rwy’n derbyn bod angen i ni edrych ar wneud rhai pethau’n wahanol, a chrybwyllais eto y byddaf yn cael rownd arall o gyfarfodydd gyda fy nghyd-Aelodau dros yr wythnosau nesaf.