Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Weinidog, i bwysleisio’r gwyro wrth weithredu’r polisi, mae’n rhaid i mi ofyn pam fod yr asesiadau effaith strategol ar gyfer eich adran mor amwys. Maent yn ganolog i Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, ac nid yw’n ymddangos eu bod wedi chwarae llawer o ran ym mlaenoriaethau a phenderfyniadau eich cyllideb. Onid y gwir yw bod y Llywodraeth hon yn frwd ynglŷn â deddfu, ond yn wael iawn am weithredu, fel roedd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a WWF mor gywir yn ei nodi?