Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch i Simon Thomas am weithredu fel codwr hwyl ar gyfer y gyfres o gwestiynau rwyf ar fin eu gofyn ar bynciau cysylltiedig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Powys gynyddu ei dargedau cynhyrchu ar gyfer trydan o ynni adnewyddadwy—o ynni gwynt, mewn gwirionedd—o 50 MW, i 600 MW. Gallai hynny arwain at 200 i 300 melin wynt arall yn halogi tirwedd canolbarth Cymru, dros 40 y cant o holl dir Powys y tu allan i barc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gallai hyd at 14 o dyrbinau gael eu cymeradwyo’n awtomatig felly oherwydd y rhagdybiaeth o ganiatâd cynllunio o dan y cynllun datblygu yn Abergwesyn, y Begwns, Pen Pant-y-Llyn, Merthyr Cynog, Llandeglau, Abaty Cwm-hir, a Hirnant. Mae trigolion lleol yn bryderus iawn ynglŷn â’r effaith y buasai datblygiadau o’r fath yn ei chael ar eu bywydau bob dydd. O ystyried na all y prosiectau hyn wneud unrhyw wahaniaeth sylweddol i’r newid yn yr hinsawdd, a hyd yn oed os ydych yn credu yn y cysylltiad rhwng cynnydd mewn carbon deuocsid a chynhesu byd-eang, a yw’n werth dinistrio tirwedd a bywydau pobl mewn gwirionedd?